Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw sylw.

 

10.

Cofnodion pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21st Mehefin 2018

Cofnodion:

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’i arwyddo gan y Cadeirydd.

11.

Astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru - Trosolwg a Chraffu - Parod at y dyfodol pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:  Galluogi’r pwyllgor i ystyried yr adroddiad terfynol am Astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru – Trosolwg a Chraffu - Parod at y dyfodol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Eglurodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynnal eu hastudiaeth trwy gynnal cyfweliadau gydag unigolion a grwpiau a thrwy arsylwi ar nifer o gyfarfodydd pwyllgor rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd.   Enwyd nifer o gynghorwyr oedd wedi bod yn rhan o hyn. Roedd wedi cynnwys gr?p o Aelodau oedd newydd eu hethol, yn ogystal ag Aelodau oedd wedi bod yn gwasanaethu yn y cyngor blaenorol.

 

             Hefyd, cynhaliwyd cyfweliadau unigol gyda’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Llywodraethu), Swyddog Gweithredu Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.  

 

Gwnaed pedwar argymhelliad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef y:-

 

P1     Dylai’r Cyngor gynnal hunan asesiad o’i swyddogaeth drosolwg a chraffu yn rheolaidd, i ystyried ei heffaith, a nodi meysydd gwella.

 

P2     Datblygu ymhellach blaen raglenni gwaith craffu i:

 

       sicrhau bod y dull craffu yn gwbl addas i’r pwnc dan sylw a’r canlyniad a ddymunir, ac ystyried dulliau mwy arloesol i gynnal gweithgaredd craffu.

 

P3     Dylai’r pwyllgorau trosolwg a chraffu wella ymhellach eu trefniadau ar gyfer hybu ymgysylltu â’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill o ran gweithgaredd craffu.

 

P4     Dylai’r Cyngor adolygu’r trefniadau cefnogi ar gyfer trosolwg a chraffu yng ngoleuni heriau presennol ac yn y dyfodol.

 

            Gwahoddodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Aelodau’r pwyllgor i ystyried a chynnig sylwadau ar yr argymhellion hyn.

 

            Dywedodd Cynghorydd Dave Healey nad oedd yn gallu cytuno â’r argymhellion, oherwydd credai nad oeddent yn rhoi darlun cywir o’r ffordd yr oedd Trosolwg a Chraffu yn gweithio. Cyfeiriodd at ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a dywedodd nad oedd y pwyllgor hwn yn cael ei ‘arwain gan aelodau’ a chyfeiriodd at enghreifftiau lle’r oedd Aelodau wedi herio swyddogion ynghylch y canlynol:-

 

·         Effaith y rhyngrwyd ar bobl ifanc – beth oedd Sir y Fflint yn ei wneud i bwysleisio’r peryglon?

·         Dechrau adroddiad ar y Gwasanaeth Ieuenctid a sut yr oedd yn gweithredu – roedd y mater hwn yn gais gan un o’r Aelodau;

·         GwE – pan oeddent yn bresennol yn y pwyllgor, roedd Aelodau’n gofyn am ddiweddariadau ar wahanol faterion fel tlodi misglwyf a chludiant ysgol;

·         Hefyd gofynnwyd cwestiynau am effaith y cyllidebau lle nad yw’r arian yn newid ar ysgolion. Roedd Penaethiaid hefyd wedi bod yn bresennol ac roedd eu cynrychiolwyr wedi siarad ag Aelodau a swyddogion yn amlinellu eu pryderon.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Healey mai dim ond rhai enghreifftiau oedd y rhain o ba mor rhagweithiol y bu’r swyddogaeth graffu yn ystod y llynedd.

 

            Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr astudiaeth wedi ei chynnal hydref diwethaf. Roedd ef a phenaethiaid gwasanaethau democrataidd eraill wedi gwneud y pwynt i SAC na fyddai cynnal astudiaeth o’r fath mewn awdurdodau lleol lle cynhaliwyd etholiadau’n ddiweddar, yn debygol o roi adlewyrchiad cywir o’r arfer craffu. Mae'n debygol y byddai nifer o newidiadau yn sgil yr etholiad. Hefyd, ni ddylid defnyddio nifer bach o gyfarfodydd i roi darlun llawn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y cyfarfodydd a gynhaliwyd y tu allan i Neuadd y Sir fel yn Nyffryn Maes Glas, Parc Wepre, ac Ysgolion yr  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Cais am Gyfethol Aelod ar gyfer y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Addysg ac Ieuenctid pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:  Bod y pwyllgor yn ystyried cais i aelod o Gyngor Ieuenctid Sir y Fflint gael ei gyfethol i’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Addysg ac Ieuenctid.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a gyflwynwyd i gael cytundeb mewn egwyddor i aelod o Gyngor Ieuenctid Sir y Fflint fod yn bresennol a chymryd rhan yng nghyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid. 

 

            Gofynnodd Cynghorydd Mike Peers pryd oedd y cais yn cael ei wneud a pha ddisgwyliadau a ragwelid o ran y cynrychiolydd a fyddai’n bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

            Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gan y cynrychiolydd rôl anstatudol heb unrhyw hawl i bleidleisio, ond byddai’n gallu siarad. Byddai’r Pwyllgor hefyd yn elwa ar glywed persbectif person ifanc. Roedd yn rhagweld trefniant cyfatebol gyda’r pwyllgor craffu a’r Cyngor Ieuenctid yn elwa ar y profiad.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell y syniad ar gyfer y Pwyllgor Addysg ac Ieuenctid a holodd a fyddai’r sawl a gâi ei enwebu neu ddirprwy’r Cyngor Ieuenctid yn gallu codi materion i’w cynnwys ar yr agenda.

 

            Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n gallu gwneud hynny. Aeth yn ei flaen i egluro’r protocolau ymgysylltu cyhoeddus oedd yn galluogi i unrhyw aelod o’r cyngor fynychu, arsylwi a siarad mewn pwyllgorau.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Dave Healey yr awgrym, felly hefyd yr Aelodau eraill.  

 

            Awgrymodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallai Alison Thomas a Kate Glover- Jones o’r Gwasanaeth Ieuenctid oedd yn bresennol, egluro sut byddai’r trefniadau cyfethol yn gweithio. Dywedodd Ms Thomas y byddai’r cynrychiolydd yn fwy na thebyg yn astudio gwleidyddiaeth yn yr ysgol ac y byddai’n cael amser i ffwrdd fel rhan o’r cwrs. Byddai gwaith y Cyngor Ieuenctid yn edrych ar waith yr Awdurdodau Lleol. Eglurodd Ms Thomas nad oedd y Cyngor Ieuenctid yn barod eto i enwebu a chyfethol rhywun, ond roedd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth oedd ar gael drwy’r cytundeb mewn egwyddor.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Marion Bateman fod y Pwyllgor yn arsylwi un o gyfarfodydd y Cyngor Ieuenctid.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r aelod newydd a gâi ei gyfethol yn cael yr un sesiwn gynefino ag aelodaeth eraill oedd yn cael eu cyfethol, i egluro prosesau’r pwyllgor ac y byddai’n cael ei briffio/friffio’n llawn.  Aeth yn ei flaen i awgrymu cafeat pe bai’r Cyngor Ieuenctid yn dod i ben, y byddai’r trefniant cyfethol hefyd yn dod i ben.

 

            Roedd y Cynghorydd Jean Davies yn cefnogi’n llawn y trefniant cyfethol ac awgrymodd fod mentor yn cael ei benodi i helpu Cynrychiolydd y Cyngor Ieuenctid.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno mewn egwyddor â chyfethol cynrychiolydd o’r Cyngor Ieuenctid i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, gyda chafeat pe bai’r Cyngor Ieuenctid yn dod i ben, y byddai’r trefniant cyfethol hefyd yn dod i ben.

 

 

 

           

 

13.

Datblygu ac Ymgysylltu Aelodau pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas: Darparu diweddariad i’r pwyllgor

Cofnodion:

                        Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan ddweud ei fod yn arfer gan y pwyllgor dderbyn adroddiadau cynnydd ar Ddatblygu Aelodau a digwyddiadau Ymgysylltu a drefnwyd. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys manylion digwyddiadau a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf ar y pwnc, ar 20 Mehefin 2018.

 

            Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o bresenoldeb yng ngweithdai cyllideb penodol diweddar y pwyllgor. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod o fudd i bob Aelod fynd i gyfarfodydd i ddeall y darlun cyffredinol. Dylai Arweinyddion Gr?p siarad gyda’u Haelodau sy’n absennol.

 

            Roedd y Cynghorydd Neville Phillips yn bryderus fod cyfarfodydd yn cael eu canslo a’u newid yn aml. Mewn ymateb dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd  fod cyfarfodydd yn aml wedi’u trefnu fisoedd ymlaen llaw ac weithiau bod rhaid eu canslo am nad oedd gwybodaeth ar gael neu am nad oedd adroddiadau’n barod. Fel mater o gwrteisi, roedd trefn o ymgynghori â Chadeirydd neu Is-gadeirydd pwyllgor cyn penderfynu peidio â chynnal cyfarfod.

 

            Diolchodd Aelodau i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am ddarparu digwyddiadau datblygu aelodau ac ymgysylltu.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at yr Arolwg Iaith Gymraeg a dywedodd ei fod wedi derbyn ymateb drwy e-bost gan 54 o Gynghorwyr a’i fod yn disgwyl ymateb gan 16 arall. Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor hwn ac i Adnoddau Corfforaethol. Gofynnodd Aelodau am fanylion y Gr?p Sgwrsio yn Gymraeg y cyfeiriwyd ato.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod adroddiad cynnydd Ddatblygu Aelodau ac Ymgysylltu yn cael ei dderbyn a’i nodi.

 

2.    Bod manylion y Gr?p Sgwrsio yn Gymraeg yn cael eu rhannu i Aelodau.

 

 

14.

Members of the public and press in attendance

Cofnodion:

Roedd aelodau o’r cyhoedd a’r wasg yn bresennol.