Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, nododd y Pwyllgor yn ffurfiol y dylid penodi’r Cynghorydd Rob Davies fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau’r pwyllgor am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor. 

 

            Cynigodd y Cynghorydd Michelle Perfect benodi’r Cynghorydd Gillian Brockley fel Is-Gadeirydd ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Vicky Perfect. Cynigodd y Cynghorydd Antony Wren enwebu’r Cynghorydd Ian Hodge fel Is-Gadeirydd ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Roz Mansell.

 

            Yn dilyn pleidlais ar gyfer y ddau Gynghorydd, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cynghorydd Gillian Brockley wedi’i hethol fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Gillian Brockley yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr.

           

Cafodd y cofnodion eu cynnig fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Antony Wren.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

5.

Adolygu Cylch Gorchwyl a Chyflwyniad i Waith y Pwyllgor pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Egluro rôl a gwaith y Pwyllgor i Aelodau newydd o’r Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndir ynghylch sefydlu Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; sef Pwyllgor y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn wreiddiol. Y Pwyllgor oedd yn gyfrifol am warchod y Cyfansoddiad, gan ddrafftio a fetio newidiadau i’r Cyfansoddiad ac ystyried yr Adroddiad Trosolwg a Chraffu Blynyddol a newidiadau a wneir gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a Phwyllgorau eraill cyn y Cyngor Sir. Mae pwyllgorau eraill, megis y Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn adolygu rhannau o’r Cyfansoddiad yn rheolaidd ac yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor hwn eu craffu, cyn iddynt gael eu mabwysiadu gan y Cyngor Llawn.

 

Dechreuodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cyflwyniad a oedd yn cynnwys sleidiau ar y canlynol:

 

Ø  Diben y sesiwn

Ø  Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Ø  Aelodaeth Pwyllgorau

Ø  Swyddogaethau Pwyllgorau 1

·             Adolygiadau Hyfforddiant Datblygu Aelodau

·             Ystyried yr argymhellion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

·             Materion yn ymwneud â chefnogaeth Aelodau

·             Cydlynu’r rhaglenni gwaith ar gyfer y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

Ø  Swyddogaethau Pwyllgorau 2

·           Dynodi’r swydd i fod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd statudol

·           Adolygiadau ac adroddiadau ar gyflawni “Swyddogaethau Gwasanaethau Democrataidd”

·           Gwneud penderfyniadau ar hawl aelod i absenoldeb teuluol dan y rheoliadau perthnasol

Ø  Gwaith y Pwyllgor

Ø  Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor hwn wedi’i atodi i’r rhaglen er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi gwaith y Pwyllgor.

6.

Mabwysiadau Model Cenedlaethol y Cyfansoddiad pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Mae Cyfansoddiad y Cyngor Sir yn seiliedig ar fodel cenedlaethol a luniwyd ar y cyd gan CLlLC a Chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol (gr?p proffesiynol y Swyddog Monitro). Mae’r model yn 8 mlwydd oed felly comisiynodd CLlLC a LlC ddiweddariad. Mae’r Cyngor angen gweithredu’r diweddariadau i’w Gyfansoddiad ei hun ac ystyried a oes angen unrhyw newidiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol gael dogfen cyfansoddiad cyn Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhoddodd wybodaeth gefndir yngl?n â sut y lluniwyd y Model Cenedlaethol yn 2014, a oedd yn caniatáu i Gyfansoddiad safonol gael ei ddefnyddio ar draws pob awdurdod. Yn dilyn cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnig crynodeb iaith eglur o’r Cyfansoddiad. Eglurodd bod cwmni cyfreithwyr wedi cael cyfarwyddyd i ddiweddaru’r model cenedlaethol cyn darparu canllaw iaith eglur. Ariennir hyn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Darparwyd rhestr o newidiadau hefyd i awdurdodau lleol eu hystyried a’u cymhwyso i’w cyfansoddiad eu hunain os oeddent yn wahanol i’r model cenedlaethol.

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod gweithgor o 5 o aelodau’r pwyllgor yn cael ei sefydlu ar gyfer ystyried y diwygiadau a diweddaru’r canllaw iaith eglur a’r model cenedlaethol. Byddent yna’n adrodd yn ôl i’r pwyllgor, a fyddai’n gwneud argymhelliad i’r cyngor llawn. Y Dirprwy Swyddog Monitro fyddai’n arwain hyn, ac roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) o’r farn y byddai’n dda i’r aelodau newydd gymryd rhan er mwyn darparu syniadau a safbwyntiau gwahanol.    Cytunwyd y byddai’r Gweithgor yn cynnwys y Cynghorwyr Ted Palmer, David Coggins Cogan, Gina Maddison, yn ogystal â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y 5 aelod a benodwyd i’r gweithgor yn ystyried y diweddariadau a’r diwygiadau i fodel cenedlaethol y cyfansoddiad a’r canllaw iaith eglur, cyn gwneud cynigion i’w mabwysiadu; 

 

(b)      Bod y gweithgor yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Ionawr, gyda’r bwriad o gymeradwyo’r newidiadau mewn cyfarfod o’r Cyngor yn gynnar yn 2023; a 

 

(c)       Bod dyddiad y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr yn cael ei ddwyn ymlaen fel bod modd iddo ystyried argymhellion y gweithgorau cyn y cyfarfod o’r Cyngor ar 24 Ionawr 2023.

7.

Diweddariad ar y Rhaglen Sefydlu pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I ddiweddaru’r Cynghorwyr ar gynnydd a phresenoldeb yng Ngham 1 o’r Rhaglen Sefydlu a rhannu’r cynigion ar gyfer Cam 2.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wybodaeth am y Rhaglen Gynefino ac mae’r cam cyntaf wedi’i gynllunio o amgylch 4 thema. Byddai cofnodion y sesiynau hyfforddi ar gael ar dudalen yr aelodau er gwybodaeth yn y dyfodol.    Rhestrir gwybodaeth am bresenoldeb a’r pynciau a drafodwyd yn y sesiynau hyfforddi yn Atodiad 1 a 2 a chyfeiriodd Aelodau at Atodiad 3, sy’n darparu gwybodaeth am y sesiynau Briffio Aelodau a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd.

 

            Roedd y Cynghorydd Antony Wren yn credu fod yr hyfforddiant yn amhrisiadwy a gwerthfawr, ond bod gormod o wybodaeth. Roedd yn falch y byddai cofnodion ar gael, fel elfen loywi.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Steve Copple pryd fyddai’r cofnodion ar gael.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gwefan yr Aelodau ar yr Infonet ym mis Medi, ond cytunodd i siarad â’r Cynghorydd Copple y tu allan i’r cyfarfod ac anfon dolenni ar gyfer yr un dan sylw.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roz Mansell ei bod hi’n dymuno cael sgwrs â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd hefyd, gan ei bod hithau wedi methu sesiynau.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Gina Maddison i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am y rhaglen gynefino a dywedodd bod y gefnogaeth a ddarparwyd gan TG yn wych. Gofynnodd a fyddai’r Hyfforddiant Trwyddedu’n cael ei ddarparu eto ar gyfer y rhai a fethodd y sesiynau. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i siarad â’r Rheolwr Trwyddedu yr wythnos nesaf a rhoi adborth i’r pedwar aelod a fethodd yr hyfforddiant.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Antony Wren.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gynefino i Aelodau a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau, sydd wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 - Amserlen y Sesiynau Cynefino Rhan a, ac Atodiad 2 - Amserlen Sesiynau Cynefino Rhan b; a 

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn ystyried a chefnogi’r dull o Ddatblygu Aelodau ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor, sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 3 - Datblygiad Aelodau Cyngor Sir y Fflint 2022/23.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad i’w gymeradwyo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am farn yr aelodau ynghylch yr eitemau sydd eisoes wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Ychwanegodd y byddai angen ystyried yr Adroddiad Amseriad Cyfarfodydd a’r Adroddiad Strategaeth Gyhoeddus ac y byddai cyfle i’r Aelodau ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan ei fod yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/ newid yn ôl yr angen; a 

 

(b)     Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

9.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 3.10 pm) 

 

…………………………

Y Cadeirydd