Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Sylwadau agoriadol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad o’r gofynion Cyfansoddiadol ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor. Gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst bod y cofnodion yn nodi ei anghytundeb gyda’r cyngor.
Roedd Aelodau’n dymuno cofnodi eu diolch i gyn Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Rob Davies. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cofnodwyd cysylltiad personol ar gyfer pob Aelod presennol yn eitem rhif 8 ar y rhaglen (Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol). |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) am gynnydd camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Cytunodd i gynnwys cam gweithredu ar gyhoeddi model o’r Cyfansoddiad gyda dolenni mwy diweddar a rhifau tudalennau yn dilyn ei gyfieithu.
Ar y sail honno, cymeradwywyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud, gan gynnwys y cam gweithredu ychwanegol. |
|
Trefniadau Craffu ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig Pwrpas: Ystyried a gwneud argymhellion i’r Cyngor ar y trefniadau craffu arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) i ystyried a gwneud argymhellion i’r Cyngor ar drefniadau craffu arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
Mewn perthynas â’r ail, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) esboniad o’r broses, gan gynnwys trafodaeth gydag Arweinwyr Gr?p cyn i adroddiad cydbwysedd gwleidyddol gael ei ystyried gan y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cyngor:
(a) Sefydlu Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru gyda’r Cylch Gorchwyl yn Atodiad 1;
(b) Cytuno y bydd pwerau Pwyllgorau Craffu lleol a ddarparwyd o dan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2002 yn cael eu cadw;
(c) Cytuno y bydd cydbwysedd gwleidyddol enwebiadau Cyngor Sir y Fflint i’r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn adlewyrchu aelodaeth Cyngor Sir y Fflint yn hytrach nag aelodau cynghorau Gogledd Cymru gyda’i gilydd, lle mae un aelod o leiaf o gr?p gwleidyddol yn cael ei gynnwys, nad ydynt yn cael eu cynrychioli ar grwpiau Gweithredol; a
(d) Cytuno y bydd yr ysgrifennydd ar gyfer y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn cael ei ddarparu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unol â’r Cylch Gorchwyl. |
|
Rhan 2 Adroddiadau a Gwybodaeth Pwrpas: Rhoi manylion i’r Pwyllgor am ddefnydd ‘Rhan 2’ wrth gynnal busnes y Cyngor mewn cyfarfodydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) sy’n darparu gwybodaeth ar ddefnydd ‘Rhan 2’ wrth gynnal busnes y Cyngor fel cyfarfodydd.
Mewn ymateb i argymhelliad ar gyfer cynrychiolaeth uwch swyddog cyfreithiol mewn cyfarfodydd gydag eitemau Rhan 2 ar y rhaglen, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai hyn yn gofyn am ystyriaeth goblygiadau adnoddau, ac yn hytrach, bod Aelodau gwneud ymholiadau am eitemau Rhan 2 ar y rhaglen cyn y cyfarfodydd hynny.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn croesawu’r penderfyniad i ddarparu datganiadau i’r wasg i Gynghorwyr cyn eu bod yn cael eu hanfon i’r wasg; a
(b) Bod y Cyngor yn parhau gyda’r broses bresennol ar gyfer pennu pa wybodaeth sy’n cael/ddim yn cael ei rhyddhau o adroddiadau sy’n cynnwys gwybodaeth eithriedig, gan nodi y dylai Aelodau:
i. ddisgwyl am gyhoeddiad swyddogol gwybodaeth gan y Cyngor, neu ii. gofyn am gyngor gan y Swyddog Monitro
cyn cyhoeddi unrhyw wybodaeth eithriedig. |
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd Pwrpas: Bod y pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen)er mwyn ystyried newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Cadarnhawyd y byddai’r newidiadau i’r fformat a’r rhifau a gyflwynwyd yn flaenorol gan y Cynghorydd Marshall yn cael ei ymgorffori i’r Cyfansoddiad cyn ei gyhoeddi. Yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, cytunwyd y byddai disodli’r gair ‘sicrhau’ gyda ‘cyflawni’ ym mharagraff 9.16.5.3 yn egluro’r amcan hwnnw’n well.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Cytuno ar ddiwygiad prif amcan 1 ym mharagraff 9.16.5, gan gynnwys newid dilynol i baragraff 9.16.5.3, ac argymell i’r Cyngor ei fod yn cael ei fabwysiadu;
(b) Cymeradwyo ychwanegiad prif amcan 3, ac argymell i’r Cyngor ei fod yn cael ei fabwysiadu; a
(c) Chymeradwyo ychwanegiad prif amcan 4, ac argymell i’r Cyngor ei fod yn cael ei fabwysiadu. |
|
Pwrpas: Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen)er mwyn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft IRPW ar gyfer 2025-26 ar gyfraddau talu aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Estynnwyd gwahoddiad i Aelodau ymateb i’r ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol Drafft, a gofyn cwestiynau a oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad.
Yn amodol ar wallau teipio ym mharagraff 1.05 a’r rhestr termau yn yr adroddiad eglurhaol, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod sylwadau’r Pwyllgor ar y Penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2025-2026 yn cael eu nodi; a
(b) Bod awdurdod yn cael ei roi i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd ymateb ar ran y Cyngor, gan adlewyrchu'r penderfyniad a'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod, i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. |
|
Penodi Arweinydd y Cyngor Pwrpas: I egluro'r drefn pan fydd Arweinydd yn ymddiswyddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif swyddog (Llywodraethu) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) i ystyried geiriad penodol Cyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â phenodi Arweinydd.
Yn ychwanegol i argymhellion o newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad, cytunwyd y byddai’r geiriad ychwanegol yn cael ei roi i mewn er mwyn bod yn gymwys i amgylchiadau pan nad oes modd i’r Arweinydd weithio, neu’n methu cyflawni ei ddyletswyddau am gyfnod o amser.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio yn unol â’r adroddiad i ofyn am Arweinydd newydd i gael ei benodi un ai:
i) yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, pan mae’r swydd yn wag, neu ii) yn unswydd ar ôl i’r Arweinydd gamu i law oherwydd cynnig gyda rhybudd.
(b) Bod is-baragraff ychwanegol (d) yn cael ei ychwanegu i nodi y bydd yr Arweinydd yn parhau yn y swydd nes nad yw’n gallu gweithio neu’n methu cyflawni dyletswyddau’r Arweinydd am gyfnod o chwe mis neu fwy. |
|
Cyfleusterau i Aelodau yn dilyn aildrefnu swyddfeydd Pwrpas: Ystyried y cyfleusterau fydd ar gael i Aelodau Etholedig yn dilyn symud o Neuadd y Sir ym mis Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem 10 ar y rhaglen) i ystyried argaeledd cyfleusterau ar gyfer swyddogaeth ddemocrataidd y Cyngor cyn symud o Neuadd y Dref.
Roedd Aelodau’n cefnogi sefydliad arfaethedig Gweithgor y nododd y byddai’r Cynghorwyr Gillian Brockley, Steve Copple, Rob Davies, Allan Marshall a Ted Palmer y byddant yn eistedd arno, gyda chworwm o dri Aelod.
Cefnogodd y Cadeirydd y cyfle am daith o amgylch swyddfeydd T? Dewi Sant.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Gweithgor sy’n cynnwys y Cynghorwyr Gillian Brockley, Steve Copple, Rob Davies, Allan Marshall a Ted Palmer yn cael ei ffurfio o aelodaeth y Pwyllgor (cworwm o dri Aelod) er mwyn ystyried pa gyfleusterau y gellir eu darparu i Aelodau yn dilyn symud o Neuadd y Dref, er mwyn cyflawni swyddogaethau democrataidd y Cyngor; a
(b) A bod y Gweithgor yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Ionawr 2025. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) i ystyried y Rhaglen Waith bresennol. Nodwyd y newidiadau canlynol:
Yn amodol ar gynnwys y ddwy eitem hyn, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith ddrafft, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau o'r wasg a'r Cyhoedd yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |