Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson fuddiant personol a rhagfarnllyd ar eitem agenda 6.1(060587) fel llywodraethwr ysgol a fyddai’n elwa o gyfraniad ariannol addysg pe bai’r Pwyllgor yn cymeradwyo caniatâd. Rhoddwyd goddefeb iddo gan y Pwyllgor Safonau i siarad yngl?n â’r eitem am bum munud.

 

Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson fuddiant personol hefyd ar eitem Agenda 6.4 (060374) fel perchennog tir gyda chaniatâd am ddatblygiad preswyl ym Mownt Pleasant, hanner i dri chwarter milltir o safle'r cais. Dywedodd nad oedd dim effaith ar ei fuddiant ar y tir hwnnw yn deillio o’r cais.

52.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Caniataodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwedyddion hwyr a ddosbarthwyd yn y cyfarfod ac a atodwyd i’r agenda ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4513&LLL=0

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

53.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Ionawr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod ar 8 Ionawr 2020.

 

Cais 060374 – Cais Llawn -  Addasu Bwyty/ Bar Gwag i 13 o Fflatiau/Rhandai yn 14 Mill Lane, Bwcle.

 

Yngl?n â gohirio’r cais hwn, gofynnodd y Cynghorydd Peers am gael diwygio cofnod rhif 48 i adlewyrchu ei gais i gael cyfarfod â swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd i drafod y pryderon am y llwybr troed coll a materion eraill a godwyd yn ystod yr ymweliad safle. O ran y sylwadau hyn, ychwanegodd fod swyddogion wedi cwrdd â’r ymgeisydd ond wedi methu â chwrdd â’r Aelodau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu, ar ôl adolygu gweddarllediad y cyfarfod, nad oedd y Cynghorydd Peers wedi gwneud y cais penodol hwn a’i fod ond wedi gofyn i swyddogion ystyried pryderon Aelodau lleol ac am gael siarad â Phriffyrdd – yr oedd y Prif Swyddog wedi cadarnhau mai Gwasanaeth Stryd oedd yn gyfrifol am hynny, yn hytrach na Chynllunio. Felly, awgrymodd fod y cofnodion yn gywir ac aeth ymlaen i esbonio bod y pryderon a godwyd – sef y llwybr troed, diffyg ffenestri mewn ystafelloedd mewnol a materion sbwriel – i gyd wedi’u hadlewyrchu yn yr adroddiad.

 

Cydnabuwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones a ddywedodd fod sylwadau wedi’u gwneud yn y cyfarfod y dylai swyddogion gwrdd â’r Aelodau i drafod eu pryderon. Mynegodd ei siom nadd oedd yr Aelodau wedi bod yn rhan o drafodaethau cyn cyhoeddi’r adroddiad ac y dylid gohirio’r eitem nes bod y trafodaethau hynny wedi digwydd.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr bod y trafodaethau yn ymddangos fel pe baent yn derbyn bod y cofnodion yn gofnod cywir ac y bu cyfle i godi pryderon penodol pan gafodd yr adroddiad ei ystyried yn ddiweddarach yn y cyfarfod. Ynglyn â datrys cais 060374, eglurodd mai’r rheswm cywir dros ohiro oedd i ddatrys materion yn ymwneud â’r dystysgrif perchnogaeth tir a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a gofynodd i’r Aelodau gefnogi’r cywiriad hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers, yn ogystal â’r rheswm cywir dros ohirio, y dylai’r datrysiad hefyd gynnwys bod y swyddogion yn ymchwilio i’r materion eraill a godwyd ganddo.

 

Cafodd y diwygiadau a gyflwynwyd gan yr Uwch Gyfreithiwr a’r Cynghorydd Peers eu symud a’u eilio gan y Cynghorwyr Bithell a Dunbar. Pan aeth hyn i bleidlais, cafodd ei gywain.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau ar gofnod rhif 48 a’r datrysiad ar gyfer cais 060374, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod gwir a chywir a llofnodwyd gan y Cadeirydd.

54.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni argymhellwyd gohirio unrhyw eitemau.

55.

ADRODDIAD Y PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO, AMGYLCHEDD AC ECONOMI)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod penderfyniadau yn cael eu cofnodi fel y dangosir ar amserlen y Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

56.

AELODAU'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gychwyn y cyfarfod, roedd 15 aelod o’r cyhoedd a dim aelodau o’r wasg yn bresennol.

56a

060587 - R - Cais Llawn - Dymchwel 81 Drury Lane a chodi 56 annedd, mynediad, maes parcio, man agored a gwaith cysylltiedig yn 81 Drury Lane, Bwcle. pdf icon PDF 168 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Gwrthod caniatâd cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

56b

060667 - A - Cais Llawn - Newid defnydd arfaethedig o annedd i aml ddeiliadaeth, estyniad 2 lawr arfaethedig, mynediad un llawr ar y dde a pharcio ar y ffrynt yn 24 Larne Drive, Brychdyn. pdf icon PDF 102 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Gwrthod caniatâd cynllunio, yn erbyn argymhelliad y swyddog, yn seiliedig ar y canlynol:

Nid yw'r newid defnydd yn cyd-fynd â'r Gwasanaeth Stryd, dim digon o ddarpariaeth barcio i denantiaid a'u hymwelwyr, a niwed i amodau byw.

56c

059457 - A - Cais Amlinellol i godi dau d? pâr deulawr yn 128 Ffordd yr Wyddgrug, Bwcle. pdf icon PDF 88 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Rwymedigaeth Adran 106 a'r amodau yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. Amodau Ychwanegol 8, 9 a 10 ar fynediad i'r safle a d?r wyneb fel y nodir yn y sylwedyddion hwyr.

56d

060374 - A - Cais Llawn - Trawsnewid bwyty/bar gwag i 13 o fflatiau/rhandai yn 14 Lôn Y Felin, Bwcle. pdf icon PDF 117 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Gwrthod caniatâd cynllunio, yn erbyn argymhelliad y swyddog, yn seiliedig ar canlynol:

Effaith ar fynediad cerbydau ac egress, effaith ar amwynder preswylwyr Millers Court, diffyg gwahanu rhwng ystafelloedd cyfanheddol islaw'r safon ac effaith ar amwynder deiliaid y dyfodol oherwydd y diffyg golau a ffenestri yn ystafelloedd gwely’r llawr gwaelod.

56e

059026 - Materion cyffredinol - amrywiad arfaethedig i Gytundeb Adran 106 - Issa Farm, Bryn Road, Bryn y Baal, Yr Wyddgrug. pdf icon PDF 61 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Bod Cytundeb Adran 106 yn cael ei amrywio i ddarparu ar gyfer naw annedd perchentyaeth fforddiadwy a naw annedd rhent fforddiadwy.

56f

059673 - Apêl gan Sandra Roberts yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais amlinellol ar gyfer codi annedd 4 ystafell wely yn The Old Toll Cottage, Ffordd Chwitffordd, Chwitffordd - GWRTHODWYD pdf icon PDF 65 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Nodwyd.