Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Attridge gysylltiad personol yn eitem 6.2 ar y rhaglen (060048) gan fod gwrthwynebwyr wedi cysylltu ag o ar fwy na thri achlysur.
Datganodd y Cynghorydd Peers gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 6.4 ar y rhaglen (059665), gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Heol y Mynydd a fyddai’n elwa o gyfraniad ariannol addysg petai’r Pwyllgor yn rhoi caniatâd. Roedd gan ei gyd-aelod ward gysylltiad materol yn y cais. Felly gadawodd yr ystafell cyn y drafodaeth a phleidlais ar yr eitem hon.
Yn ystod y drafodaeth am eitem 6.1 ar y rhaglen (060356), dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes ei fod yn adnabod yr ymgeisydd o ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe eglurodd fod yr ymgeisydd wedi chwarae pêl-droed mewn tîm dan 12 yr oedd wedi’i reoli ac roedd yn credu ei fod dal yn ffrindiau gyda’i fab.
Cyn y drafodaeth am eitem 6.3 ar y rhaglen (059568), datganodd y Cynghorydd Butler cysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Cynghori Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd oedd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn y cais. Felly gadawodd yr ystafell cyn y drafodaeth a phleidlais ar yr eitem hon. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, ac yr oedd wedi’u hatodi i’r agenda ar wefan Cyngor Sir Y Fflint:
http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4475&LLL=0
|
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6ed Tachwedd, 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod ar 6 Tachwedd 2019 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim eitemau wedi'u hargymell gan swyddogion i'w gohirio. |
|
Adroddiad Y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd Ac Economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Bod y penderfyniadau hynny yn cael eu cofnodi fel y dengys yn yr atodlen Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
WELSH To receive a report for testing. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad swyddog, ar y sail ganlynol: Roedd y cynigion gyfystyr â datblygiad amhriodol yn y Rhwystr Glas a chefn gwlad agored, ac nid oedd ‘amgylchiadau eithriadol iawn’ yn adran 7.21 o’r adroddiad wedi’u hystyried yn ddigonol i roi caniatâd. |
|
060048 Revised Plan PDF 386 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio, yn erbyn argymhelliad y swyddog, yn ddarostyngedig ar amodau priodol a/neu Rwymedigaeth A106. Bydd amodau o’r fath yn cael eu dirprwyo i’r Prif Swyddog i benderfynu ar y cyd â’r ymgeisydd a’r Aelod Lleol. Adroddiad ar yr amodau i’w gyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd 23 aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod. |