Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

32.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Mike Peers gysylltiad personol a rhagfarnllyd yn eitem rhif 6.4 ar y rhaglen – Cais llawn – Codi 30 rhandy 2 ac 1 ystafell wely (dros 55 oed) a 3 th? (cyfanswm y cynllun yn 100% o dai fforddiadwy), mynediad a pharcio cysylltiedig, yn cynnwys dymchwel yr hen dafarn yn y Boars Head Inn, Holywell Road, Ewlo, gan fod aelod o’r teulu wedi’i gyflogi gan un o’r cyd-ymgeiswyr.

 

Datganodd y Cynghorydd Peers gysylltiad personol a rhagfarnllyd hefyd yn eitem rhif 6.5 ar y rhaglen – Cais llawn – Codi 14Annedd a Gweithiau Cysylltiedig ym Mwthyn Withen a Ffordd Caer, Ffordd Alltami, Bwcle gan ei fod yn Gadeirydd ar Lywodraethwyr Ysgol Gynradd Mountain Lane, Bwcle. Mae’n datgan diddordeb oherwydd ei fod yn Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Mountain Lane ac er bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio ar gapasiti disgyblion yn yr ysgol, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gallu darparu cyfraniad ariannol ar gyfer yr ysgol i fynd i’r afael â’r effaith.    Dywedodd y byddai’n siarad am dri munud ac yna'n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Yn dilyn cyngor gan yr Uwch Gyfreithiwr, datganodd y Cynghorydd Neville Peers gysylltiad personol a rhagfarnllyd yn eitem rhif 6.5 ar y rhaglen – Cais llawn – Codi 14  Annedd a Gwaith Cysylltiedig ym Mwthyn Withen a Cheshire Lane, Ffordd Alltami, Bwcle, gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle ac yn Gadeirydd Pwyllgor Safleoedd yr Ysgol.

 

Yn dilyn cyngor gan yr Uwch Gyfreithiwr, datganodd y Cynghorydd Carol Ellis gysylltiad personol a rhagfarnllyd yn eitem rhif 6.5 ar y rhaglen – Cais llawn – Codi 14  Annedd a Gwaith Cysylltiedig ym Mwthyn Withen a Cheshire Lane, Ffordd Alltami, Bwcle, gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle ac yn aelod o Bwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol yr Ysgol.   Dywedodd y Cynghorydd Ellis y byddai’n siarad am dri munud ac yna'n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

33.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn y cyfarfod ac a oedd wedi eu hychwanegu i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4358&Ver=4&LLL=0

 

Late observations 07.11.18 pdf icon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

34.

Cofnodion pdf icon PDF 59 KB

I gadarnhau, fel cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Hydref 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd 3 Hydref 2018 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

35.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Argymhellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y dylid gohirio eitem rhif 6.3 ar y rhaglen – (058359) – Cais Llawn – Newid Defnydd o Dir i Safle Carafanau Teithiol/Pebyll yn yr Hen Dafarn, Llannerch-y-Môr, Treffynnon.  Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn argymell gohirio'r cais i geisio datrys y mater carthffosiaeth o'r safle.

 

Wrth roi’r mater i’r bleidlais, gohiriwyd yr eitem.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio eitem rhif 6.3 ar y rhaglen – (058359) – Cais Llawn – Newid Defnydd o Dir i Safle Carafanau Teithiol/Pebyll yn yr Hen Dafarn, Llannerch-y-Môr, Treffynnon.

 

36.

Adroddiadau'r (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adorddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi penderfyniadau fel y dangosir ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

 

37.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 8 aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

 (Dechreuodd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 4.06 pm)

 

37a

058311 A - Cais Llawn - Cynnig lleoli 26 carafán gwyliau sefydlog, ynghyd â thirweddu ychwanegol ac atodol yng Nghlwb Golff Parc Pennant, Mertyn Downing Lane, Maes Pennant, Treffynnon. pdf icon PDF 84 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

37b

058733 A - Cais Llawn - Estyniad i barc gwyliau presennol i ganiatáu ar gyfer symud carafanau teithiol a statig wedi eu cymeradwyo i hwyluso gwelliannau i gynllun y parc presennol ynghyd â chreu ardal ar gyfer 6 safle glampio a gwaith tirlunio pellach ar Barc Carafanau Barlows, Ffordd Pen y Cefn, Caerwys. pdf icon PDF 105 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

37c

058359 A - Cais Llawn - Newid defnydd o dir i safle carfanau teithiol/pebyll, yn yr Old Tavern, Llannerch-y-môr, Treffynnon. pdf icon PDF 92 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

37d

058296 A - Cais llawn - Codi 30 o randai 2 ac 1 ystafell wely (dros 55) a 3 t? (cyfanswm y rhaglen yn 100% o dai fforddiadwy), mynediad cysylltiol a pharcio, yn cynnwys dymchwel t? cyhoeddus blaenorol Boars Head Inn, Ffordd Treffynnon, Ewlo. pdf icon PDF 137 KB

As in Report.

Dogfennau ychwanegol:

37e

058229 A - Cais Llawn - Codi 14 o anheddau a gwaith cysylltiedig yn Withen Cottage a Cheshire Lane, Ffordd Alltami, Bwcle. pdf icon PDF 131 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

37f

058254 A - Cais Llawn - Codi llety mewn cysylltiad â chanolfan hyfforddi c?n adar yn Gaer Go, Cefn Road Cilcain. pdf icon PDF 71 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

37g

058806 A - Cais Llawn - Gosod aráe paneli solar ar do Aston WPS, Church Lane, Aston. pdf icon PDF 93 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol: