Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd cysylltiad.
Dywedodd y Cynghorydd Peers ei fod wedi derbyn llythyr gan Gyfreithiwr yn cynnwys cyhuddiadau ffug yn ei erbyn o ran eitem rhif 6.2 ar y rhaglen – 058212 - Cais Amlinellol – datblygiad preswyl, gan gynnwys mynediad, man agored a holl waith cysylltiol ym Mythynnod Woodside, Bank Lane, Drury. Nid oedd wedi anfon unrhyw lythyrau at aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio ac nid oedd wedi siarad gyda nhw am y cais nac wedi cyflwyno unrhyw sylwadau. Roedd y llythyr yn awgrymu y dylai’r Cynghorydd Peers gael ei ymchwilio a’i wahardd o’r Pwyllgor Cynllunio. Dywedodd ei fod wedi siarad â’r Uwch Gyfreithiwr a ddywedodd y dylai siarad fel Aelod lleol ac nid fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a byddai'n gwneud hynny, a byddai'n gadael yr ystafell yn dilyn ei anerchiad ac ni fyddai'n pleidleisio.
Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio eu siom fod y Cynghorydd Peers yn wynebu cyhuddiadau o’r fath, gan egluro bod holl aelodau’r Pwyllgor Cynllunio yno yn eu dyletswydd ar ran trigolion lleol. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hychwanegu i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:
http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/documents/s50660/Late%20Observations.pdf?LLL=0 |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2018 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) na argymhellodd y swyddogion i unrhyw rai o’r eitemau ar y rhaglen gael eu gohirio. Cynigiodd y Cynghorydd Owen Thomas i ohirio eitem rhif 6.5 ar y rhaglen - Cais Llawn – Adnewyddu a newid defnydd safle hen siop i greu t? gwyliau ar osod un ystafell wely ac ardal gardd yn Swyddfa'r Post, Ffordd y Llan, Cilcain. Ei reswm dros y cynnig oedd er mwyn gallu cynnal ymweliad safle. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i ganiatáu ystyried y cynnig i ohirio i alluogi aelodau'r cyhoedd oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem honno i adael y Siambr, os byddai'r eitem yn cael ei gohirio.
Yn dilyn pleidlais, cafodd eitem rhif 6.5 ar y rhaglen - 058434 - Cais Llawn – adnewyddu a newid defnydd safle hen siop i greu t? gwyliau ar osod un ystafell wely ac ardal gardd yn Swyddfa'r Post, Ffordd y Llan, Cilcain ei gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle. |
|
Adroddiadau'r (cynllunio, amgylchedd ac economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi penderfyniadau fel y dangosir ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod ar sail y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod, yn erbyn argymhelliad swyddog, ar y sail canlynol:
|
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod, yn erbyn argymhelliad swyddog, ar y sail canlynol:
|
|
As in Report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod ar sail y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gohirio. Cynnig gan y Cynghorydd Owen Thomas, a phleidleiswyd er mwyn gallu cynnal ymweliad safle. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod y penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod, am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd. |