Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.4 a rhoddodd wybod y cafodd drwydded gan y Pwyllgor Safonau i siarad fel Aelod lleol ar eitem agenda (058212).

 

Datganodd y Cynghorydd Richard Lloyd gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.1 (058237) gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer iddo a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a chyn bwrw pleidlais ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Sean Bibby gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.3 (058304) ac eitem agenda 6.8 (058310) gan mai ef oedd Is-gadeirydd Bwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais ar y cais. Yn ogystal, datganodd y Cynghorydd Bibby iddo wrthwynebu’n ffurfiol a darparodd gymorth i drigolion lleol oedd yn gwrthwynebu cais 6.6 (058282). Dywedodd y byddai’n siarad am dair munud ac yn gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais  ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Ian Dunbar gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.1 (058237) gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos iddo. Datganodd  gysylltiad personol ac anfanteisiol hefyd ar eitem agenda 6.4 (058212) gan fod yr ymgeisydd yn gyd Ynad Lleol. Dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais  ar y ddau gais.

 

Datganodd y Cynghorydd Dave Hughes gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.1 (058237) gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais ar y cais.

15.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen yr arsylwadau hwyr a ddosbarthwyd yn y cyfarfod ac fe’u hatodwyd i agenda gwefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4148&LLL=0

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

16.

Cofnodion pdf icon PDF 65 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Mehefin 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion drafft y cyfarfod ar 20 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir a’u harwyddo gan y Cadeirydd.

17.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr eitem ganlynol wedi’i hargymell i’w gohirio er mwyn galluogi’r datblygwr i egluro perchnogaeth o’r tir ar gyfer y mynediad arfaethedig:-

 

Eitem Agenda 6.5 - Cais llawn – Codi 14 Annedd a Gwaith Cysylltiedig yn Within Cottage a Cheshire Lane, Alltami Road, Bwcle (058229)

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog  (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) at lythyr a ddaeth i law cyn dechrau’r cyfarfod gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth ar gyfer Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, y dosbarthwyd copïau ohono i’r Aelodau. Rhoddodd y llythyr gyfarwyddyd i’r Cyngor ddatgymhwyso paragraff 6.2 TAN 1 yn syth. Felly, argymhellodd gohirio’r eitemau canlynol er mwyn rhoi’r cyfle i ailystyried y pwysau a briodolwyd i’r angen i gynyddu’r cyflenwad tir tai yn y cydbwysedd cynllunio cyffredinol:-   

 

Eitem Agenda 6.4 - Cais Amlinellol - Datblygiad Preswyl, gan gynnwys Mynediad, Lle Agored a’r Holl Waith Cysylltiedig yn Woodside Cottages, Bank Lane, Drury (058212)

 

Eitem Agenda 6.7 Cais Amlinellol – Codi hyd at 36 uned o dai ymddeol, lle agored ac isadeiledd cysylltiedig i bobl 55 oed a h?n gyda manylion mynediad i’r safle yn Rhos Road, Penyffordd (057388)

 

Symudodd y Cynghorydd Chris Bithell y gohiriad a eiliwyd ac a gytunwyd gan y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Patrick Heesom a Chris Bithell y cyfarwyddyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion gwledig a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith a wnaed yn y mater hwn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod eitemau agenda 6.4 (058212), 6.5 (058229) a 6.7 (057388) yn cael eu gohirio i’r cyfarfod nesaf sydd ar gael o’r Pwyllgor am y rhesymau a nodwyd.

18.

Adroddiadau'r (cynllunio, amgylchedd ac economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi penderfyniadau fel y dangoswyd ar atodlen y Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

18a

058237 - R - Cais llawn - Codi 435 o anheddau preswyl ac uned manwerthu 450 m2 yn Fferm Spon Green, Spon Green, Bwcle. pdf icon PDF 238 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18b

057056 - R - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl ar Megs Lane, Bwcle. pdf icon PDF 172 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18c

058304 - A - Cais Llawn - Datblygiad preswyl ar gyfer 41 annedd a gerddi cysylltiedig a mannau parcio yn Nant y Gro, Prestatyn. pdf icon PDF 106 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18d

058212 - A - Cais Amlinellol - Datblygiad preswyl, yn cynnwys mynediad, man agored a'r holl waith cysylltiedig yn Woodside Cottages, Bank Lane, Drury. pdf icon PDF 123 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18e

058229 - A - Cais Llawn - Codi 14 annedd a gwaith cysylltiedig yn Within Cottage a Cheshire Lane, Ffordd Alltami, Bwcle. pdf icon PDF 123 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18f

058282 - A - Newid defnydd o C3 (anheddau) i C4 (tyŴ amlfeddiannaeth) yn 15 Bridge Street, Shotton. pdf icon PDF 79 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18g

057388 - A - Cais Amlinellol - Codi hyd at 36 uned o dai ymddeol i bobl dros 55 oed a seilwaith cysylltiedig gyda manylion mynediad i'r safle yn Rhos Road, Penyffordd. pdf icon PDF 196 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

18h

058310 - A - Cais Llawn - Adeiladu 24 annedd a gerddi a man parcio ceir cysylltiol ar y tir i'r gorllewin o Greenwood Grange, Chester Road, Dobshill. pdf icon PDF 102 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

18i

058270 - A - Cais Llawn - Adeiladu a Rhedeg Cyfleuster Rheoli Gwastraff er mwyn Rheoli Gwastraff Trefol, Masnachol a Diwydiannol, gan gynnwys: Neuadd i Dderbyn y Gwastraff gydag Ardal Tipio Lefel y Ddaear, Neuadd i Sortio'r Gwastraff gydag Offer Cysylltiedig i Wahanu a Phrosesu, Neuadd Tanwydd yn Deillio o Sbwriel, Ystafell Reoli, Ystafell Drydanol a Chyfleusterau i Weithwyr, Fferm Tanc Treulio Anaerobig ac Isadeiledd Cysylltiedig ar dir oddi ar Weighbridge Road, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. pdf icon PDF 193 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

19.

Aelodau'r Cyhoedd a'r Wasg A Fynychodd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd 56 aelod o’r cyhoedd a dim aelod o’r wasg yn bresennol.