Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac fe’u hatodwyd i’r rhaglen ar wefan Cyngor Sir Y Fflint. http://modgov:9070/documents/s44891/Late%20Observations.pdf |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Gorffennaf 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2017.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) yn argymell bod eitem rhaglen rhif 6.3 - Cais Llawn – Codi Estyniad Unllawr i Ochr a Thu Ôl Annedd yn 18 Ffordd Moorfield, Penarlâg yn cael ei ohirio. Esboniodd bod rhai o’r Aelodau wedi gweld yr eiddo o’r ardd drws nesaf ar yr ymweliad safle, a rhai heb. Ychwanegodd yr Uwch Gyfreithiwr bod diffyg cysondeb, yn nhermau pa Aelodau o’r Pwyllgor oedd wedi gweld safle’r cais o’r ardd drws nesaf yn ystod yr ymweliad safle, a bod hyn wedi digwydd yn absenoldeb y Cadeirydd. O dan yr amgylchiadau cafwyd cyngor bod yr eitem yn cael ei gohirio fel bod ymweliad safle arall yn cael ei gynnal a bod Aelodau’r Pwyllgor yn aros efo’i gilydd ac ym mhresenoldeb y Cadeirydd yn ystod yr ymweliad hwnnw. Argymhellwyd bod yr eitem yn cael ei hystyried yn y cyfarfod fis Hydref pan fydd ymweliad safle arall yn cael ei drefnu.
Mewn pleidlais, cytunwyd bod yr eitem yn cael ei gohirio.
PENDERFYNWYD:
Eitem rhaglen rhif 6.3 - Cais Llawn – Codi Estyniad Unllawr i Ochr a Thu Ôl Annedd yn 18 Ffordd Moorfield, Penarlâg i’w ohirio. |
|
Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio A'R Amgylchedd) The reports of the Chief Officer (Planning and Environment) are enclosed.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Y penderfyniad i’w gofnodi fel y dangosir ar yr amserlen Cais Cynllunio sydd wedi’i hatodi fel atodiad, yn cynnwys penderfyniadau apêl. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwrthod caniatâd cynllunio yn erbyn argymhelliad y swyddog ar y sail ganlynol:
• y tu allan i ffin yr anheddiad yng nghefn gwlad agored a byddai'n arwain at golli tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas; • bod y cynnig yn cynrychioli niwed sylweddol, yn tanseilio polisïau lleol a chenedlaethol a gynlluniwyd i ddiogelu cefn gwlad agored a chymunedau gydag agweddau gwledig; • yr effaith ar yr ymagwedd tuag at yr anheddiad; a • byddai'r bwriad yn erydu cymeriad gwledig ac edrychiad y safle a'r ardal leol gyda'r niwed sy'n deillio o gymeriad ac ymddangosiad y rhan |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y caniatâd cynllunio ei wrthod yn unol ag argymhellion y swyddog. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: I’w ohirio tan fis Hydref. Gwneir ymweliad safle pellach. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dileu amod Adran 106 yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in Report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhellion y swyddog ac yn ddarostyngedig i amod ychwanegol bod cynllun yn cael ei gyflwyno’n ysgrifenedig o ran cadw sbwriel, sydd angen chymeradwyaeth ysgrifenedig y Cyngor cyn i’r datblygiad ddechrau. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn unol â’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad, ac yn unol hefyd ag argymhellion y swyddog. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi penderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl hon. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi penderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl hon. |