Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Is-Gadeirydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Christine Jones y Cynghorydd Richard Lloyd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell. Ni chyflwynwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Richard Lloyd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyngor gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, datganodd y Cynghorydd Paul Johnson gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 7.3 (062912) y rhaglen.

3.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau i ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi eu dosbarthu cyn y cyfarfod ac wedi eu hatodi i’r rhaglen ar wefan Cyngor Sir Y Fflint: 

 

https://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4859&Ver=4&LLL=1

 

late observations 26.05.21 pdf icon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf icon PDF 63 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 31 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2021 fel cofnod cywir, fel y cynigwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Chris Bithell a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir a phriodol.

5.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Awgrymodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y dylid gohirio eitem rhif 7.2 – (052236) - Cais Amlinellol – ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig yn Atlas Yard, Ffordd Corwen, Pontybotgyn.  Argymhellodd y Prif Swyddog y dylid gohirio’r cais oherwydd bod materion heb eu penderfynu yn ymwneud â’r Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (FCA) er mwyn caniatáu i wybodaeth ddiwygiedig gael ei derbyn gan yr asiant.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd y dylid gohirio’r cais ar y sail bod yr asiant yn cyflwyno'r wybodaeth ofynnol o fewn y 3 wythnos nesaf (erbyn 15 Mehefin 2021).  Os na fydd y wybodaeth yn cael ei chyflwyno, neu’n parhau'n anfoddhaol, yna dylid cynnwys yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Chris Bithell.

 

Wrth fynd i bleidlais, cytunwyd i ohirio’r eitem.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio eitem rhif 7.2 – (052236) y rhaglen - Cais Amlinellol ar gyfer ddatblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig yn Atlas Yard, Ffordd Corwen, Pontybotgyn.

6.

Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Ceisiadau Cynllunio sydd wedi ei gynnwys fel atodiad.

6a

061790 - Cais llawn - Datblygiad preswyl arfaethedig ar gyfer 25 annedd fforddiadwy, man agored cyhoeddus gyda chysylltiadau newydd i gerddwyr, tirlunio, mynediad i'r briffordd, gorsaf bwmpio a chynlluniau ar gyfer enillion bioamrywiaeth net ac arafu d?r wyneb ar dir wrth ymyl 150 Mancot Lane, Mancot pdf icon PDF 267 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

6b

052236 - Aminellol cynllunio - Cais Amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig yn Atlas Yard, Ffordd Corwen, Pontybodkin pdf icon PDF 136 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

6c

062192 - A - Cais llawn - Estyniadau ac addasiadau i greu lolfa fwy a chyntedd/ardal fynedfa ynghyd â 2 ystafell wely en-suite ar y llawr gwaelod a 6 ystafell wely en-suite ar y llawr cyntaf yn The Crooked Horn, Bryn-Sannan, Brynford, Treffynnon pdf icon PDF 93 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

7.

Aelodau O'r Cyhoedd A'r Wasg Hefyd Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd un aelod o’r wasg a dau aelod o’r cyhoedd hefyd yn bresennol.