Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

57.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Neville Phillips gysylltiad personol ag eitem 6.1 (060253) ar y Rhaglen gan ei fod yn byw yn Tabernacle Street, Bwcle, a oedd yn agos at safle’r cais.

 

Datganodd y Cynghorwyr Christine Jones a David Wisinger gysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ag eitem 6.3 (060411) ar y Rhaglen gan fod y ddau’n llywodraethwyr i Ysgol Gynradd Sealand, a fyddai’n elwa o rodd o ddarn o dir i’r Cyngor i alluogi i safle’r ysgol gael ei ehangu. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones y byddai’n siarad am yr eitem am 3 munud ac yn gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais. Dywedodd y Cynghorydd David Wisinger y byddai hefyd yn gadael yr ysgol cyn y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

 

 

 

58.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint: 

 

http://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4597&Ver=4&LLL=1

 

 

late observations 04.03.20 pdf icon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

59.

Cofnodion pdf icon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Dunbar eu cynnig a’u heilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

60.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim eitemau wedi'u hargymell i'w gohirio.

 

 

61.

ADRODDIAD Y PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO, AMGYLCHEDD AC ECONOMI)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio a oedd ynghlwm fel atodiad.

61a

060253 - A - Cais Llawn - Newid defnydd i 3 fflat yn 15 - 17 Ffordd yr Wyddgrug, Bwcle. pdf icon PDF 81 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod caniatâd cynllunio yn groes i argymhelliad y swyddog.

61b

060357 - A - Newid defnydd tir i ddefnydd marchogaeth, codi stablau a llochesi yn y cae yn ôl-weithredol a chodi ysgubor arfaethedig yn Hyfrydle, Marian, Trelawnyd. pdf icon PDF 92 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog, a gan ddileu amod 3 gan ei fod yn cael ei ailadrodd yn llawn yn amod 6.

 

61c

060411 - A - Cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn dilyn caniatâd amlinellol (056540) yng nghyn Safle Corus Garden City, Garden City. pdf icon PDF 177 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod fod yr ymgeisydd yn derbyn Rhwymedigaeth Adran 106 ac yn ddibynnol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog.

61d

Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. pdf icon PDF 61 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodi’r adroddiad.

 

 

62.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd 12 aelod o’r cyhoedd yn bresennol a neb o’r wasg.