Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

38.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Patrick Heesom gysylltiad personol a sy’n rhagfarnu yn eitem rhif 6.5 yn y rhaglen - Cais Llawn - Newid Defnydd o Dir i Safle Carafan Deithiol/Pabell yn Old Tavern, Llanerch-y-Môr, Treffynnon.  Dywedodd y Cynghorydd Heesom y byddai'n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a'r bleidlais ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Owen Thomas gysylltiad personol yn eitem 6.6. yn y rhaglen - Amrywiad o Amod 3 Cysylltiedig â Chaniatâd Cynllunio Cyfeirnod:045739 yn Chwarel Hendre, Ffordd Dinbych, Hendre, gan ei fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt. 

 

Datganodd y Cynghorydd Mike Peers gysylltiad personol a sy’n rhagfarnu yn eitem rhif 6.1 yn y rhaglen – Cais Llawn – Datblygiad Preswyl, Codi 30o Fflatiau Fforddiadwy Ar Gyfer Pobl Dros 55 Oed Gyda Mynediad Cysylltiedig, Parcio a Dymchwel hen Westy’r Albion yng Nghlwb Cymdeithasol yr Albion, Pen y Llan, Cei Connah, gan fod aelod o’r teulu’n cael ei gyflogi gan un o’r cyd ymgeiswyr. Dywedodd y Cynghorydd Peers y byddai'n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth ac na fyddai’n pleidleisio ar yr eitem.

 

            Datganodd y Cynghorydd Derek Butler gysylltiad personol yn eitem 6.2 yn y rhaglen – Cais Amlinellol i Godi Annedd Fforddiadwy yn Bayonne Ffordd Hafod, Gwernaffield, gan ei fod yn aelod o Fwrdd yr AHNE.

39.

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4366&Ver=4&LLL=1

40.

Cofnodion pdf icon PDF 75 KB

I gadarnhau, fel cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Tachwedd 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2018.

 

Cywirdeb

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ei ddatganiad o gysylltiad ar eitem 6.5 yn y rhaglen a gofynnodd am i’r cofnodion gael eu diwygio i gynnwys y rheswm am ei ddatganiad.Y cysylltiad oedd am ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Heol y Mynydd ac er y bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio ar nifer y lleoedd i ddisgyblion yn yr ysgol honno ni all yr Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn am gyfraniad ariannol ar gyfer yr ysgol i fynd i’r afael â'r effaith.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

41.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw eitemau i'w gohirio.

42.

Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adorddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau a gyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio oedd ynghlwm fel atodiad.

42a

058544 - A - Cais Llawn - Datblygiad preswyl o 30 fflat fforddiadwy ar gyfer pobl dros 55 oed gyda mynediad cysylltiedig, parcio a dymchwel hen Westy'r Albion yng Nghlwb Cymdeithasol yr Albion, Pen y Llan, Cei Connah pdf icon PDF 139 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

42b

058124 - A - Cais amlinellol i adeiladu annedd fforddiadwy yn Bayonne, Hafod Road, Gwernaffield. pdf icon PDF 104 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

42c

058516 - A - Cais Llawn - Trawsnewid Capel nas defnyddir yn 2 annedd, a chodi 1 annedd ar wahân yn Nh?'r Offeiriad Catholig, Ffordd Brunswick, Bwcle. pdf icon PDF 82 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

42d

058881 - A - Cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn dilyn caniatâd cynllunio amlinellol Cyf: 057943 yn Acrefield, Erw Ffynnon, Queen Street, Treuddyn. pdf icon PDF 83 KB

As in Report.

Dogfennau ychwanegol:

42e

058359 - A - Cais Llawn - Newid defnydd o dir i safle carfanau teithiol/pebyll, yn yr Old Tavern, Llannerch-y-môr, Treffynnon. pdf icon PDF 96 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

42f

058984 - A - Amrywio amod rhif 3 sydd wedi'i atodi i ganiatâd cynllunio Cyf: 045739 yn Chwarel Hendre, Ffordd Dinbych, Hendre. pdf icon PDF 155 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

42g

056267 - Apêl gan Mr. P. Mallen yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i safle storio cerbydau i gefn adeilad arwerthiant modur presennol yn Arwerthiant Modur Queensferry, Ffordd yr Orsaf, Queensferry - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 59 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

43.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 16 aelod o’r cyhoedd yn bresennol ac nid oedd neb o’r wasg yn bresennol.