Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

50.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

51.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau hwyr. 

52.

Cofnodion pdf icon PDF 58 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod ar 9 Ionawr, 2019 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2019.

 

Tynnodd yr Uwch Gyfreithiwr sylw’r Pwyllgor at ddiwygiad ar dudalen 5 o’r cofnodion, lle dylid dileu’r geiriau ‘cysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu’ a rhoi ‘cysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu’ yn eu lle. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

53.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw argymhellion gan swyddogion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers i godi pwynt yngl?n â’r broses. Diolchodd i’r Uwch Gyfreithiwr am y cyngor a gafodd cyn dechrau’r cyfarfod, ond mynegodd siom nad oedd rhaglen y cyfarfod yn cynnwys cais amlinellol i ddymchwel 81 Drury Lane yr oedd swyddog wedi argymell ei wrthod.  Esboniodd ei fod wedi derbyn copi o’r rhaglen ddrafft ar 28 Ionawr a’i fod wedi rhannu honno â thrigolion lleol, ond ei fod wedi clywed yn y cyfamser fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gohebiaeth hwyr yn nodi barn gyfreithiol ar y cais, ac y penderfynwyd gohirio’r eitem ar sail hynny. Mynegodd bryder am y byddai hynny’n peri mwy o oedi wrth ystyried y cais, un yr oedd wedi ymateb iddo gyntaf fis Medi 2018, ac roedd o’r farn y dylid fod wedi cadw’r eitem ar raglen y cyfarfod fel y gallai’r Pwyllgor Cynllunio benderfynu ei ohirio neu beidio.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y drefn o ymdrin â cheisiadau a ddeuai gerbron y Pwyllgor Cynllunio. Bythefnos cyn y cyfarfod anfonwyd rhestr o’r ceisiadau oedd i’w cyflwyno er ystyriaeth at y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.Rhoes hynny ddigon o amser i gysylltu â phawb oedd wedi cyflwyno sylwadau i gadarnhau dyddiad y cyfarfod, fel y gallent ddod i annerch y Pwyllgor pe dymunent. Yr eithriad yn achos y cais y cyfeiriai’r Cynghorydd Peers ato oedd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth o bwys yn hwyr, cyn cyhoeddi manylion y rhaglen ar wefan y Cyngor. Nid oedd y swyddogion o’r farn y byddai’n ddoeth cynnwys y cais ar y rhaglen heb gael cyfle i ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd, ac felly fe dynnwyd y cais o’r rhaglen cyn ei chyhoeddi.       

54.

Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adorddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau a gyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio oedd ynghlwm fel atodiad.

54a

058544 - A - Cais Llawn - Datblygiad preswyl o 30 fflat fforddiadwy ar gyfer pobl dros 55 oed gyda mynediad cysylltiedig, parcio a dymchwel hen Westy'r Albion yng Nghlwb Cymdeithasol yr Albion, Pen y Llan, Cei Connah pdf icon PDF 144 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

54b

058957 - A - Cais Llawn - Dymchwel adeilad allanol, gosod tanc tanwydd newydd, 45,000 litr (petrol), 30,000 (diesel), canopi newydd, estyniad i'r adeilad gwerthu presennol, Peiriant ATM annibynnol newydd, gyda maes parcio cysylltiedig, lle parcio beiciau a gwaith cysylltiedig yn Chester Road, Oakenholt, Y Fflint. pdf icon PDF 111 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

That planning permission be granted, subject to the conditions set out in the report, in line with officer’s recommendations.

54c

059055 - A - Cais Llawn - Cynnig i godi 78 annedd yn cynnwys priffyrdd, man agored cyhoeddus, gofod, tirweddu a'r holl waith cysylltiedig yn Ffordd Caer, Oakenholt pdf icon PDF 91 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

54d

Materion Cyffredinol - Gwrthwynebiad i orchymyn diogelu coed Rhif 320 tir ar Fferm Daisy Bank (Gogledd) Ffordd Caer, Penyffordd pdf icon PDF 53 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

54e

3202253 - Codi adeilad bren yn Erwau Cottage, Pant-y-Ffordd, Treuddyn pdf icon PDF 68 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

For information, the Enforcement Notice was upheld.

55.

Members of the Public and Press in Attendance

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd tri aelod o’r cyhoedd yn bresennol ac un aelod o’r wasg.