Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.4 a rhoddodd wybod y cafodd drwydded gan y Pwyllgor Safonau i siarad fel Aelod lleol ar eitem agenda (058212).
Datganodd y Cynghorydd Richard Lloyd gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.1 (058237) gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer iddo a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a chyn bwrw pleidlais ar y cais.
Datganodd y Cynghorydd Sean Bibby gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.3 (058304) ac eitem agenda 6.8 (058310) gan mai ef oedd Is-gadeirydd Bwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais ar y cais. Yn ogystal, datganodd y Cynghorydd Bibby iddo wrthwynebu’n ffurfiol a darparodd gymorth i drigolion lleol oedd yn gwrthwynebu cais 6.6 (058282). Dywedodd y byddai’n siarad am dair munud ac yn gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais ar y cais.
Datganodd y Cynghorydd Ian Dunbar gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.1 (058237) gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos iddo. Datganodd gysylltiad personol ac anfanteisiol hefyd ar eitem agenda 6.4 (058212) gan fod yr ymgeisydd yn gyd Ynad Lleol. Dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais ar y ddau gais.
Datganodd y Cynghorydd Dave Hughes gysylltiad personol ac anfanteisiol ar eitem agenda 6.1 (058237) gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y ddadl a’r bleidlais ar y cais. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen yr arsylwadau hwyr a ddosbarthwyd yn y cyfarfod ac fe’u hatodwyd i agenda gwefan Cyngor Sir y Fflint:
http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4148&LLL=0 |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Mehefin 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion drafft y cyfarfod ar 20 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir a’u harwyddo gan y Cadeirydd. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr eitem ganlynol wedi’i hargymell i’w gohirio er mwyn galluogi’r datblygwr i egluro perchnogaeth o’r tir ar gyfer y mynediad arfaethedig:-
Eitem Agenda 6.5 - Cais llawn – Codi 14 Annedd a Gwaith Cysylltiedig yn Within Cottage a Cheshire Lane, Alltami Road, Bwcle (058229)
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) at lythyr a ddaeth i law cyn dechrau’r cyfarfod gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth ar gyfer Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, y dosbarthwyd copïau ohono i’r Aelodau. Rhoddodd y llythyr gyfarwyddyd i’r Cyngor ddatgymhwyso paragraff 6.2 TAN 1 yn syth. Felly, argymhellodd gohirio’r eitemau canlynol er mwyn rhoi’r cyfle i ailystyried y pwysau a briodolwyd i’r angen i gynyddu’r cyflenwad tir tai yn y cydbwysedd cynllunio cyffredinol:-
Eitem Agenda 6.4 - Cais Amlinellol - Datblygiad Preswyl, gan gynnwys Mynediad, Lle Agored a’r Holl Waith Cysylltiedig yn Woodside Cottages, Bank Lane, Drury (058212)
Eitem Agenda 6.7 Cais Amlinellol – Codi hyd at 36 uned o dai ymddeol, lle agored ac isadeiledd cysylltiedig i bobl 55 oed a h?n gyda manylion mynediad i’r safle yn Rhos Road, Penyffordd (057388)
Symudodd y Cynghorydd Chris Bithell y gohiriad a eiliwyd ac a gytunwyd gan y Pwyllgor.
Croesawodd y Cynghorwyr Patrick Heesom a Chris Bithell y cyfarwyddyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion gwledig a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith a wnaed yn y mater hwn.
PENDERFYNWYD:
Bod eitemau agenda 6.4 (058212), 6.5 (058229) a 6.7 (057388) yn cael eu gohirio i’r cyfarfod nesaf sydd ar gael o’r Pwyllgor am y rhesymau a nodwyd. |
|
Adroddiadau'r (cynllunio, amgylchedd ac economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi penderfyniadau fel y dangoswyd ar atodlen y Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
057056 - R - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl ar Megs Lane, Bwcle. PDF 172 KB As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Aelodau'r Cyhoedd a'r Wasg A Fynychodd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd 56 aelod o’r cyhoedd a dim aelod o’r wasg yn bresennol. |