Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

8.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yngl?n ag eitem 6.1 (057943) ar y rhaglen, eglurodd y Cynghorydd Kevin Hughes ei fod wedi siarad ag aelod o deulu'r ymgeisydd yngl?n â'r dogfennau gofynnol, a holodd a oedd angen iddo ddatgan cysylltiad o’r herwydd.  Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd unrhyw fuddiant personol na buddiant sy'n rhagfarnu i’w ddatgan. 

 

9.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hychwanegu i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4147&Ver=4&LLL=0

 

Planning Committee 20.06.18 Late Observations pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Cofnodion pdf icon PDF 77 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Mai 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2018. 

 

Cywirdeb

 

Gofynnodd yr Uwch Gyfreithiwr am ddiwygio’r rhestr o’r rhai a oedd yn bresennol, gan nad oedd ef yn y cyfarfod, fel y byddai’r cofnodion yn cyfeirio at y ‘Cyfreithiwr’ yn hytrach na’r ‘Uwch Gyfreithiwr’.

 

Ar dudalen 5, dylid diwygio’r cofnodion i nodi fod y Pwyllgor wedi trafod eitem frys cyn penodi’r Cynghorydd Richard Lloyd yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

Tudalen 7, Eitemau i’r gohirio. Dylid diwygio’r cofnodion fel eu bod yn dweud y canlynol:

 

Eitem 6.1 - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl ar Megs Lane, Bwcle (057056)

 

Dywedodd y Prif Swyddog mai’r argymhelliad oedd gohirio’r eitem uchod. Dywedodd hefyd y tynnwyd yr eitem ganlynol yn ôl:

 

Eitem 6.2 – Cais Amlinellol i Adeiladu annedd yn Bayonne, Hafod Road, Gwernaffield (058124)

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Jones bod yr eitem yn cael ei gohirio a chafodd ei eilio a’i gytuno gan y Pwyllgor.

 

Ar dudalen 9, eitem 058124, dylid diwygio’r Penderfyniad i adlewyrchu’r ffaith y tynnwyd y cais yn ôl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

11.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) nad oedd y swyddogion wedi argymhell gohirio unrhyw rai o’r eitemau ar y rhaglen.

 

12.

ADRODDIADAU'R PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO, AMGYLCHEDD AC ECONOMI)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi penderfyniadau fel y dangosir ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

 

12a

057943 - Cais amlinellol - i godi annedd unllawr y tu cefn i Acrefield yn Acrefield, Erw Ffynnon, Stryd y Frenhines, Treuddyn. pdf icon PDF 89 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

12b

058108 - Cais Llawn - Codi cyfarpar campfa yn yr awyr agored gyda tharmac llain galed gysylltiedig yn Main Road, Higher Kinnerton. pdf icon PDF 81 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

12c

057726 - Cais llawn - Codi adeilad i ddarparu ar gyfer swyddfeydd, gweithdai a storio, adeiladu ardaloedd storio allanol a man parcio ceir yn Globe Way, Bwcle. pdf icon PDF 87 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

12d

053163 - Adroddiad Materion Cyffredinol - Apeliadau yn y Llys Apêl a ddaeth gan Gyngor Sir y Fflint (y Cyngor) yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys i ddileu cymeradwyaeth caniatâd cynllunio dros dro'r Cyngor mewn perthynas â thir fel llety safle preswyl sipsi yn Dollar Park, Ffordd Bagillt, Treffynnon pdf icon PDF 53 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

12e

056694 - Apêl gan The Strategic Land Group & Green Gates Homes (NW) Ltd yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio i adeiladu 32 annedd gan gynnwys pwynt mynediad newydd i gerbydau, man agored cyhoeddus, gofodau parcio a thirlunio ar dir ar Ffordd Penarlâg, Penyffordd - CANIATEIR. pdf icon PDF 67 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

12f

055590 - Apêl gan Redrow Homes NW yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio i godi 186 annedd a datblygiad atodol yn Chester Road, Penymynydd - CANIATEIR. pdf icon PDF 74 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

13.

Members of the Public and Press in Attendance

Dogfennau ychwanegol: