Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Eitem Frys

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhybuddiodd y Cadeirydd bod eitem frys – Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor, oedd heb ei chynnwys ar y rhaglen.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Ian Dunbar y dylid ethol y Cynghorydd Richard Lloyd yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ac fe eiliwyd y cynnig. 

 

            Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid ethol y Cynghorydd Owen Thomas yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ac fe eiliwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Richard Lloyd fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

3.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hychwanegu i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/documents/s49062/Late%20observations%20-%2023rd%20May%202018.pdf?LLL=0

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod diwygiad i’r sylwadau hwyr. Derbyniwyd hysbysiad o fewn y terfyn amser gan Mrs. L. Murtell a oedd yn dymuno siarad fel aelod o’r cyhoedd ar gyfer Eitem 6.4 ar y Rhaglen - Cais Amlinellol i godi annedd unllawr y tu cefn i Acrefield yn Acrefield, Erw Ffynnon, Stryd y Frenhines, Treuddyn.

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf icon PDF 59 KB

To confirm as a correct record the minutes of the meeting held on 25th April 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod ar 25 Ebrill 2018 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

5.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr eitemau a argymhellwyd i’w gohirio, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y materion canlynol:-

 

  • Mae hyfforddiant wedi’i ddarparu gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn ddiweddar ond dim ond un dyddiad oedd wedi’i ddarparu ar gyfer yr Aelodau. Cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog yn derbyn copi o’r cyflwyniad ac yn ail-ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr Aelodau oedd wedi methu bod yn bresennol.  Roedd dyddiad ar gyfer yr hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer 12 Gorffennaf am 5.30pm a byddai cadarnhad yn cael ei anfon at yr Aelodau ar e-bost maes o law.
  • Byddai Aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn e-bost gan yr Uwch Gyfreithiwr yn nodi bod penderfyniad blaenorol gan y Pwyllgor Cynllunio ar  Dollar Park wedi’i ystyried gan y Llys Apêl. Ni fu amser i ychwanegu’r adroddiad i’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn, felly byddai'r penderfyniad yn cael ei adrodd yng nghyfarfod mis Mehefin. Roedd y penderfyniad yn cyfiawnhau holl waith y Swyddog Cynllunio ar y cais hwn.
  • Byddai Aelodau’r Pwyllgor hefyd wedi derbyn e-bost gan y Rheolwr Datblygu yn egluro penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar ddatgymhwysiad paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1 a faint o bwysau a roddir i ddiffyg cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer datblygiad preswyl. Daw ymgynghoriad LlC i ben ar 21 Mehefin ac fe gynigiwyd bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Gr?p Cynllunio Strategol ar 15 Mehefin i gytuno ar ymateb i'r ymgynghoriad ar ran y Cyngor.  

 

            Nododd y Cynghorydd Richard Jones benderfyniad diweddar  y Llys Apêl, fel y nodwyd uchod, ac awgrymodd, gan nad oedd Emma Hancock, y Swyddog Cynllunio a ymdriniodd â’r cais, yn gweithio i’r Awdurdod mwyach, dylid anfon llythyr ati yn diolch iddi am ei gwaith ac yn ei hysbysu o’r penderfyniad, a oedd yn bwysig o ran safbwynt broffesiynol.  Cytunodd y Pwyllgor bod y Cadeirydd yn anfon llythyr at Emma Hancock yn dilyn y cyfarfod.

 

            Nododd y Cynghorydd Chris Bithell ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ddiweddar, ac fe gyhoeddwyd y byddai Polisi Cynllunio TAN 1 yn cael ei  atal. Roedd wedi croesawu’r cyhoeddiad ond nododd mai dim ond ymgynghori ar ddatgymhwyso yr oedd LlC. Anogodd yr holl Aelodau i ymateb yn unigol i’r ymgynghoriad.

 

            Holodd y Cynghorydd Jones, o ystyried y gallai Polisi Cynllunio TAN 1 gael ei atal, a oedd modd ail-archwilio ceisiadau cynllunio lle y rhoddwyd pwysau i’r Polisi hwn ac y rhoddwyd caniatâd ond na roddwyd tystysgrifau eto. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr holl geisiadau yn cael eu hadolygu yn sgil ymgynghoriad LlC. Ar gyfer ceisiadau cynllunio lle bo’r Pwyllgor wedi gwneud penderfyniad yn flaenorol, roedd y rhain wedi’u cymeradwyo yn unol â’r wybodaeth gywir ar y pryd. Anfonwyd llythyr at yr Arolygiaeth i dynnu sylw at atal TAN 1 ar gyfer unrhyw apeliadau sy’n cael eu hystyried. Cytunodd y byddai’n dosbarthu copi o restr o apeliadau sy’n aros am benderfyniad i’r Pwyllgor Cynllunio ar  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIADAU'R PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO A'R AMGYLCHEDD)

The reports of the Chief Officer (Planning, Environment & Economy) are enclosed.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

6a

057056 - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl ar Megs Lane, Bwcle pdf icon PDF 141 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

6b

058124 - Cais amlinellol i godi annedd yn Bayonne, Hafod Road, Gwernaffield. pdf icon PDF 97 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

6c

055798 - Materion A Gadwyd Yn Ôl (Mynediad, Ymddangosiad, Tirlunio, Gosodiad a Graddfa) yn ofynnol yn ôl Amod Rhif 2 o ganiatâd cynllunio amlinellol cyf: 051831 yn Station Yard, Ffordd Corwen, Coed Talon. pdf icon PDF 114 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

055798 slides pdf icon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

6d

057943 - Cais amlinellol - i godi annedd unllawr y tu cefn i Acrefield yn Acrefield, Erw Ffynnon, Stryd y Frenhines, Treuddyn. pdf icon PDF 86 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

057943 Slides pdf icon PDF 39 MB

Dogfennau ychwanegol:

6e

058024 - Newid defnydd ac ymestyn annedd i ffurfio ty amlfeddiant yn 46 Gladstone Road, Broughton. pdf icon PDF 83 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

058024 slides pdf icon PDF 21 MB

Dogfennau ychwanegol:

6f

056335 - Apêl gan Glwb Golff Yr Wyddgrug yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio i gael gwared ar Amod Rhif 1 ynghlwm i ganiatâd cynllunio Cyf: 052686 i ganiatáu cadw rhwystr net amddiffynnol yn barhaol yng Nghlwb Golff Yr Wyddgrug, Ffordd Cilcain, Pantymwyn - WEDI'I GANIATÁU. pdf icon PDF 61 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

7.

Aelodau'r Cyhoedd a'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 48 aelod o’r cyhoedd a dau  aelod o’r wasg yn bresennol.