Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

63.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas ag eitem rhif 6.1 (rhif cais 057689), datganodd y Cynghorydd Mike Peers gysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan mai ef yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Elfed. Eglurodd ei fod, yn dilyn goddefeb a ganiatawyd yn y Pwyllgor Safonau, wedi cael caniatâd i siarad am bum munud. Byddai wedyn yn gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais. Ar yr un eitem, datganodd y Cynghorwyr Ellis a Phillips gysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan eu bod yn Llywodraethwyr yn Ysgol Elfed. Dywedodd Cynghorydd Ellis y byddai’n siarad am dri munud ac yna'n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais. Dywedodd Cynghorydd Phillips na fyddai'n siarad ar yr eitem ond y byddai ef hefyd yn gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Ar eitem rhif 6.2 (cais rhif 057808), datganodd y Cynghorydd Christine Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan fod safle’r cais y tu ôl i’w heiddo hi. Dywedodd y byddai’n siarad am dri munud ac yna'n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Ar eitem rhif 6.3 (cais rhif 057898) datganodd y Cynghorwyr Butler a Thomas gysylltiad personol gan eu bod yn derbyn pensiwn. Datganodd y Cynghorwyr Ellis a Peers hefyd gysylltiad personol yn yr eitem hon gan fod aelodau o’u teuluoedd yn gweithio i Airbus.

 

Ar eitemau rhif 6.4 (rhif cais 057514) a 6.5 (rhif cais 057295) datganodd Cynghorydd Peers gysylltiad personol sy'n rhagfarnu oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Hawkesbury sydd ger safle'r cais.  Eglurodd ei fod, yn dilyn goddefeb a ganiatawyd yn y Pwyllgor Safonau, wedi cael caniatâd i siarad am bum munud ar y ddau gais. Byddai wedyn yn gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais ar y ddau gais. Datganodd y Cynghorydd Ellis hefyd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr un eitemau gan ei bod hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Hawkesbury, ac roedd ganddi ganiatâd i siarad am dri munud.  Byddai hi hefyd wedyn yn gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais.

64.

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a ddosbarthwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hychwanegu at y rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/documents/s47879/Late%20Observations.pdf?LLL=0

65.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y  cyfarfod ar 7 Chwefror 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2018. Roedd y Cynghorydd Dave Hughes wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod ond nid oeddent wedi eu cofnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

66.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) nad oedd y swyddogion wedi argymell y dylid gohirio unrhyw rai o’r eitemau ar y rhaglen.

67.

Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio A'R Amgylchedd)

The reports of the Chief Officer (Planning and Environment) are enclosed.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cofnodi penderfyniadau fel y dangosir yn yr amserlen Ceisiadau Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

68.

057689 - Cais Llawn - Codi 4 annedd yn Dovedale, Ffordd Alltami, Bwcle pdf icon PDF 92 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

That planning permission be granted subject to the prior completion of a S106 agreement or unilateral undertaking or earlier payment covering:

·         Open space provision - £1,100 per dwelling to improve the community playing field surface located adjacent to Cheshire Lane, Elfed High School, Buckley;

·         Education provision - £12,257 primary school towards Mountain Lane Primary School; and

·         Mitigation land - £1,000 per dwelling to overcome indirect impacts of SAC for the long term management of the mitigation land

 

In accordance with the officer recommendation and the conditions as listed in the officer’s report.

 

Also the additional condition as recommended at Committee for a construction traffic management plan.

69.

057808 - Cais am gymeradwyaeth i faterion wedi'u cadw'n ôl sef gwedd, cynllun, maint, gwaith tirlunio a mynediad er mwyn adeiladu 6 annedd yn dilyn rhoi caniatâd amlinellol (052887) yn 31 Welsh Road, Garden City. pdf icon PDF 81 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

That planning permission be granted subject to the condition listed in the officer’s report, and in accordance with the officer recommendation.

70.

057898 - Cais Llawn - Codi Cyfleuster Sefydliad Gweithgynhyrchu ac Ymchwil Uwch yn Airbus, Ffordd Caer, Brychdyn. pdf icon PDF 90 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

That planning permission be granted subject to the conditions listed in the officer’s report, and in accordance with the officer recommendation.

 

Additional condition as outlined in the late observations.

 

Also the additional condition as recommended at Committee for a construction traffic management plan.

 

71.

057514 - Cais Llawn - Codi rheiliau ar hyd y ffin ddeheuol yn Neuadd Hawkesbury, Mill Lane, Bwcle. pdf icon PDF 66 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

That planning permission be granted subject to the conditions listed in the officer’s report, and in accordance with the officer recommendation.

72.

057295 - Cais Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod rheiliau i'r ffin ddeheuol yn Neuadd Hawkesbury, Mill Lane, Bwcle pdf icon PDF 70 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

That planning permission be granted subject to the conditions listed in the officer’s report, and in accordance with the officer recommendation.

73.

055871 - Apêl gan Mr P. Edwards yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer gwelliannau ac estyniad i drac fferm, cynllun y llawr caled ar gyfer parcio a symud cerbydau, gwella'r cyfleusterau toiled, golchi ac ymolchi, darparu cysylltiadau i ddarpar ymwelwyr (gan gynnwys man gwaredu d?r llwyd) a thirlunio (ôl-weithredol) yn Fferm Ynys Hir, Ffordd Picton, Picton, Treffynnon - CANIATAWYD. pdf icon PDF 69 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Noted.