Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

57.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd Y Cynghorydd Christine Jones gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu yngl?n ag eitem agenda 6.2 (057719) oherwydd ei bod yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth. Dywedodd y byddai’n siarad am dri munud ac yna’n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais dros y cais.

                       

                        Datganodd hefyd y Cynghorydd Chris Bithell gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu yngl?n ag eitem agenda 6.2 (057719) oherwydd ei fod yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais dros y cais.

           

                        Datganodd y Cynghorydd Derek Butler gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu yngl?n ag eitem agenda 6.4 (057623) oherwydd ei fod yn aelod o’r Bwrdd AHNE a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais dros y cais. 

 

                        Datganodd y Cynghorydd Owen Thomas gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu yngl?n ag eitem agenda 6.4 (057623) oherwydd ei fod yn aelod o’r Bwrdd AHNE a dywedodd y byddai’n gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais dros y cais.

 

58.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi’u hatodi at yr agenda ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4142&Ver=4&LLL=0

 

late observations 07.02.18 pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

59.

Cofnodion pdf icon PDF 60 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Ionawr 2018.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

60.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Argymhellodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod eitem agenda rhif 6.5 – (055798) – Cais Llawn – materion a gadwyd yn ôl (Mynediad, Gwedd, Tirlunio, Gosodiad a Graddfa) yn unol â gofynion Amod Rhif 2 y  caniatâd cynllunio amlinellol cyfeirnod 051831 ger Station Yard, Corwen Road, Coed Talon, yn cael ei gohirio. Esboniodd y Prif Swyddog ei fod yn argymell y dylai’r cais gael ei ohirio er mwyn cael eglurhad pellach gan yr ymgeisydd yngl?n â Rhwymedigaeth neu Ymgymryd Unochrog A106 a manyleb y man chwarae. 

 

Wedi’r bleidlais, cafodd yr eitem ei gohirio.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 

Bod eitem agenda rhif 6.5 – (055798) – Cais Llawn – materion wedi’u cadw’n ôl (Mynediad, Gwedd, Tirlunio, Gosodiad a Graddfa) yn unol â gofynion Amod 2 y caniatâd cynllunio amlinellol cyfeirnod 051831 ger Station Yard, Corwen Road, Coed Talon, yn cael ei gohirio.

 

 

 

61.

Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio A'R Amgylchedd)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) yn amgaeedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

 

61a

057865 - A - Cais Llawn - Codi 44 annedd gyda lle parcio ategol, gofod agored a mynediad newydd oddi ar Ffordd Helygain, Treffynnon. pdf icon PDF 109 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

61b

057719 - A - Cais Llawn - Adeiladu Cyfleuster Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu Newydd yn Ysgol Uwchradd John Summers, Chester Road West, Queensferry. pdf icon PDF 82 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

61c

057599 - A - Cais Llawn - Codi ysgol gynradd newydd, gwaith allanol cysylltiedig, mynediad ychwanegol i gerbydau a chreu mynediad dros dro i safle Ysgol Fabanod Penyffordd, Abbotts Lane, Penyffordd. pdf icon PDF 122 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

61d

057623 - A - Newid defnydd tir i barc gwyliau a hamdden defnydd cymysg ar dir yn Chwarel Maes Mynan, Ffordd Dinbych, Afonwen. pdf icon PDF 136 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

61e

055798 - A - Materion A Gadwyd Yn Ôl (Mynediad, Ymddangosiad, Tirlunio, Gosodiad a Graddfa) yn ofynnol yn ôl Amod Rhif 2 o ganiatâd cynllunio amlinellol cyf: 051831 yn Station Yard, Ffordd Corwen, Coed Talon. pdf icon PDF 111 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

61f

056215 - Apêl gan Jones Engineering & Construction Cyf yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer disodli'r annedd bresennol a chodi 3 o anheddau yn Cornerways, Ffordd Cefn Bychan, Pantymwyn - GWRTHODWYD pdf icon PDF 55 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

61g

056703 - Apêl gan Mr. O. McKay yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio i godi 3 annedd yn Centre Point Garage, Denbigh Road, Afonwen - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 59 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol: