Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau cysylltiad.

10.

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a oedd y sylwadau a ddangoswyd dan ‘nodwyd’ ar gyfer eitem 6.1 ar y rhaglen yn ymateb gan yr Awdurdod Cynllunio. Cadarnhaodd y Cyfreithiwr mai dyma oedd ymateb yr Awdurdod Cynllunio i’r sylwadau blaenorol.

 

11.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Mehefin 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2017.

 

            Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at ddiwygiad i dudalen 6 y cofnodion a nododd y dylid diwygio’r paragraff olaf i ddweud:-

 

            Datganodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke ei bod eisoes wedi penderfynu ynghylch y cais ac ar ôl cymryd cyngor cyfreithiol, byddai’n siarad fel Aelod lleol yn unig cyn i’r eitem gael ei thafod ac yna byddai’n gadael yr ystafell ar ôl siarad – eitem rhif 7.5 ar y rhaglen - Cais Llawn – Codi Siop Fferm a gwaith cysylltiedig, creu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr yn Coppy Farm, Ffordd Cilcain, Gwernaffield (05664).

            Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylw ar arddull newydd y cofnodion ac awgrymodd y dylid nodi’n glir yn y cofnodion pan fod siaradwyr trydydd parti yn cael eu recordio. Awgrymodd hefyd y dylid cynnwys crynodeb o’r drafodaeth yn y cofnodion. Nododd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) y byddai arddull newydd y cofnodion yn cael ei adolygu gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio ymhen 12 mis.

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd yr Arweinydd Tîm - Gwasanaeth Pwyllgorau y byddai’r recordiadau o holl gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol yn y llyfrgell we-ddarlledu ar wefan y Cyngor.

           

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad a restrwyd uchod, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

12.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) na argymhellodd y swyddogion i unrhyw rai o’r eitemau ar y rhaglen gael eu gohirio.

13.

Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio A'R Amgylchedd)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) yn amgaeedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi penderfyniadau fel y’u dangosir ar y rhestr Ceisiadau Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

13a

052119 - A - Cais llawn - Datblygiad arfaethedig ysbyty a chanolfan ail-alluogi ar gyfer pobl dan anfantais oherwydd anhwylder ar y sbectrwm awtistig a/neu anableddau dysgu, gan gynnwys blociau preswyl arfaethedig ac adeiladu byw'n annibynnol (a gymeradwywyd eisoes dan ganiatâd cynllunio 045395) yng Ngwaith Alyn (gynt) a Chwrs Golff Kinsale (rhan ohono), Mostyn. pdf icon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

13b

056601 - A - Cais Llawn - Codi 7 annedd yn Ivy Cottage, Queen Street, Leeswood pdf icon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

13c

056806 - R - Cais Llawn - Adeiladu pedair annedd yn Top-yr-Allt, Bryn Llinegr, Pen-y-ffordd. pdf icon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

13d

056521 - A - Cais Llawn - Adeiladu 8 annedd yn New Inn, Station Road, Sandycroft. pdf icon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

13e

056796 - A - Cais Llawn - Estyniad unllawr i gefn Catchpenny Cottage, Bretton Lane, Bretton pdf icon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

13f

053466 - Apêl gan Mr R. Furse yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer y cynnig i adeiladu un uned breswyl ar y llawr cyntaf yn adeilad gogleddol yr ysgubor ac ehangu'r uned llawr daear i'r bae cyfagos, gan gynnwys cael gwared ar ris C21. Newid y wal derfyn ar gornel ogledd orllewinol yr ysgubor mewn rwbel a adferwyd mewn morter calch i gyd-fynd â'r wal bresennol, a pheintio'r pâr o ddrysau Ffrengig newydd ym mhaent gwyrdd had llin yr ystâd. Ffurfio agoriad ffenestr yn y drws presennol ar y drychiad deheuol yn Neuadd Nercwys, Nercwys - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13g

053467 - Apêl gan Mr R. Furse yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer un uned breswyl ar y llawr cyntaf yn adeilad gogleddol yr ysgubor ac ehangu'r uned llawr daear i'r bae cyfagos, gan gynnwys cael gwared ar ris C21. Newid y wal derfyn ar gornel ogledd orllewinol yr ysgubor mewn rwbel a adferwyd mewn morter calch i gyd-fynd â'r wal bresennol, a pheintio'r pâr o ddrysau Ffrengig newydd ym mhaent gwyrdd had llin yr ystâd, ffurfio agoriad ffenestr yn y drws presennol ar y drychiad deheuol yn Neuadd Nercwys, Nercwys - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13h

053469 - Apêl gan Mr R. Furse yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith o adeiladu adeilad i gartrefu gosodiad biomas ac i storio offer a deunyddiau fferm yn Neuadd Nercwys, Nercwys - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13i

053470 - Apêl gan Mr R. Furse yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer y gwaith o adeiladu adeilad i gartrefu gosodiad biomas ac i storio offer a deunyddiau fferm yn Neuadd Nercwys, Nercwys - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13j

050788 - Apêl gan Mr R. Furse yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer trawsnewid ac adeiladu estyniad i ffermydd moch segur, er mwyn storio cerbydau ac offer garddio er budd yr annedd bresennol yn Neuadd Nercwys, Nercwys - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13k

050789 - Apêl gan Mr R. Furse yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer trawsnewid ac adeiladu estyniad i ffermydd moch segur, er mwyn storio cerbydau ac offer garddio er budd yr annedd bresennol yn Neuadd Nercwys, Nercwys - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13l

055951 - Apêl gan Mr. a Mrs J. Clare yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer codi un annedd, creu mynedfa newydd a gosod tanc draenio nad yw'n gysylltiedig â'r prif danc - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i wrthod yr apêl hon.

13m

055310 - Apêl gan Elan Homes Ltd yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod rhoi caniatâd cynllunio i godi 24 annedd a garejys cysylltiedig, creu maes parcio, gerddi a mannau agored a dymchwel yr orsaf wasanaeth bresennol a thai allan yng Ngorsaf Wasanaeth Argoed, Priffordd, New Brighton - WEDI'I GANIATÁU. pdf icon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Mike Peers fod y Pwyllgor wedi gwrthod y cais hwn yn unfrydol a chyfeiriodd at y cyngor a roddwyd yn flaenorol yn 2010 gan y Swyddog Cynllunio fod angen tai fforddiadwy ar y safle, ond yn hytrach na’u rhoi ar y safle dylid defnyddio’r arian ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle.Fodd bynnag, rodd yr Arolygydd wedi nodi nad oedd hyn yn cyd-fynd â’r Cynllun Datblygu a fabwysiadwyd felly nid oedd angen ymrwymiad o’r datblygiad apêl.

 

            Gwnaeth sylwadau hefyd am adroddiad yr Arolygydd, ond cwestiynodd y sylwadau yn yr adroddiad a oedd yn nodi na ddarparwyd unrhyw dystiolaeth a dywedodd fod tystiolaeth wedi ei darparu ar ran y Pwyllgor Cynllunio. Cwestiynodd sylwadau’r Arolygydd ynghylch cymeriad y datblygiad a darpariaeth tai fforddiadwy.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl hon.

14.

Members of the Public and Press in Attendance

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 13 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.