Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd. 

 

Enwebodd y Cynghorydd Christine Jones y Cynghorydd Ian Dunbar ac fe eiliwyd y cynnig yn briodol. 

 

Enwebodd y Cynghorydd Mike Peers y Cynghorydd Owen Thomas ac fe eiliwyd y cynnig yn briodol. 

 

Pan gynhaliwyd pleidlais, CYMERADWYWYD enwebiad y Cynghorydd Ian Dunbar.

 

Diolchodd y Cynghorydd Dunbar y Pwyllgor am eu henwebiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Penodi’r Cynghorydd Ian Dunbar fel Is-gadeirydd y Pwyllgor

 

2.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd David Wisinger gysylltiad personol sy’n rhagfarnu, gan ei fod yn un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd John Summers, ag eitem rhif 7.2 ar y rhaglen – Cais Llawn – Dymchwel yn rhannol, er mwyn hwyluso gwaith ad-drefnu mewnol ac adeiladu estyniad newydd i adeilad presennol yr ysgol a newidiadau allanol gyda newidiadau cysylltiedig allanol i’r tir /maes parcio, a darparu ystafelloedd dosbarth a mannau storio dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, Golftyn Lane, Cei Connah (056851).  

 

Datganodd y Cynghorydd Christine Jones hefyd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu â’r eitem uchod am ei bod hithau’n un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd John Summers ac am fod aelodau ei theulu'n mynychu Ysgol Uwchradd John Summers  ac Ysgol Uwchradd Cei Connah. 

 

Datganodd y Cynghorydd Ian Dunbar hefyd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem rhif 7.2 ar y rhaglen, gan ei fod ef yn un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd Cei Connah. 

 

Datganodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke ei bod eisoes wedi gwneud ei phenderfyniad o ran y cais ac ar ôl cael cyngor cyfreithiol, byddai’n siarad fel Aelod lleol dim ond cyn i’r eitem gael ei thrafod ac yna byddai’n gadael yr ystafell ar ôl siarad – eitem rhif 7.5 ar y rhaglen – Cais Llawn – Codi Siop Fferm a gwaith cysylltiedig, ffurfio mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr yn Fferm Coppy, Cilcain Road, Gwernaffield (056664). 

 

3.

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod.

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) na argymhellodd y swyddogion i unrhyw rai o’r eitemau ar y rhaglen gael eu gohirio.

 

6.

Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio A'R Amgylchedd)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) yn amgaeedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y’u dangosir ar y rhestr Ceisiadau Cynllunio

sydd ynghlwm fel atodiad.   

 

6a

056524 - A - Cais llawn - Adeiladu 14 o dai 3 ystafell wely ar wahân a gwneud gwaith cysylltiedig i'r dwyrain o 19 a 20 Manor Drive, Bwcle. pdf icon PDF 101 KB

Fel yn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

6b

056851 - A - Cais llawn - Dymchwel rhannol, er mwyn hwyluso gwaith ail-gyflunio mewnol ac adeiladu estyniad newydd i adeilad presennol yr ysgol, a newidiadau allanol gyda newidiadau cysylltiedig allanol i'r tir/maes parcio, a darparu ystafelloedd dosbarth a mannau storio dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, Golftyn Lane, Cei Connah. pdf icon PDF 101 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

6c

055871 - A - Cais Llawn - Gwelliannau ac estyniad i drac fferm, cynllun y llawr caled ar gyfer parcio a symud cerbydau, gwella'r cyfleusterau toiled, golchi ac ymolchi, darparu cysylltiadau i ddarpar ymwelwyr (gan gynnwys man gwaredu dwr llwyd) a thirlunio er mwyn cefnogi safle Ardystiedig i gael ei gyflwyno i'r Clwb Gwersylla a Charafanio (ôl-weithredol) yn Fferm Ynys Hir, Ffordd Picton, Picton. pdf icon PDF 99 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

6d

056757 - A - Cais Llawn - gosod monopol 17.5m i gefnogi 2 antena o fewn amdo, 2 gabinet offer a datblygiad ategol ar Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd. pdf icon PDF 89 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

6e

056664 - A - Cais Llawn - Codi siop fferm a gwaith cysylltiol, ffurfio mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr yn Fferm Coppy, Ffordd Cilcain, Gwernaffield. pdf icon PDF 119 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

6f

055736 - A - Cais llawn - Codi 2 uned Dosbarth A3 gyda gwelliannau i dir y cyhoedd cysylltiedig ac ail-gyflunio parcio ym Mharc Siopa Brychdyn, Brychdyn pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

6g

055774 - A - Cais llawn - Datblygiad arfaethedig o 27 annedd (Cam 3) yn Cae Eithin, Ffordd y Pentre, Northop Hall. pdf icon PDF 144 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

6h

056700 - A - Cais llawn - Codi estyniad deulawr, garej cysylltiedig a phortsh yn 21 Springfield Drive, Bwcle. pdf icon PDF 79 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

6i

056557 - A - Cais llawn - Codi estyniad i Unedau 1 a 2 yn Nant y Gain, Pentre, Cilcain. pdf icon PDF 76 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

055447 - Apêl gan Mr. E. Davies yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais amlinellol i godi annedd ar Paper Mill Lane ac Old Paper Mill Lane, Oakenholt - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 90 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

            That the decision of the Inspector to dismiss this appeal be noted.

 

7a

055725 - Apêl gan Broomco (3857) Limited yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer manylion diwygiedig annedd i lain 3 yn Iard Bryn Llwyd, Stryd y Gogledd, Caerwys - CANIATEIR. pdf icon PDF 62 KB

Fel yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

            That the decision of the Inspector to allow this appeal be noted.

 

8.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            On commencement of the meeting there were 15 members of the public in attendance.