Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Derek Butler gysylltiad personol mewn perthynas ag eitem 6.1 ar y rhaglen (063337) gan ei fod yn aelod o Fwrdd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ond nid oedd yn aelod o’r Cydbwyllgor a oedd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais. Ar y sail honno, byddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ac yn pleidleisio. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi eu dosbarthu cyn y cyfarfod ac wedi eu hatodi i’r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:
https://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4995&LLL=0 |
|
Late Observations 2.2.2022 PDF 270 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Ionawr 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Dunbar eu cynnig a’u heilio.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir a phriodol. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni argymhellwyd gohirio dim un o’r eitemau. |
|
Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Ceisiadau Cynllunio sydd wedi ei chynnwys fel atodiad. |
|
As in Report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwyno caniatâd cynllunio, yn unol ag argymhelliad y swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol i gyflwyno a chytuno ar Fesurau Osgoi Rhesymol priodol i ddiogelu amffibiaid yn ystod unrhyw ddatblygiad ar y safle a nodyn yn adlewyrchu cyngor CNC mewn perthynas â’r angen am drwyddedau dan Reoliad 55 yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y diwygiwyd) pe bai Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn cael ei ganfod yn ystod y gwaith. |
|
063337 Collated Photos PDF 855 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dirprwyo’r ymateb terfynol i Ymgynghoriad Adran 42 ar HyNet (Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol) i swyddogion gan ymgynghori ag aelodau lleol allweddol a effeithir gan lwybr y biblinell carbon deuocsid newydd arfaethedig a’r biblinell presennol, sy’n gorffen yn nherfynell nwy Y Parlwr Du.
Yn dilyn cyflwyno’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu, a ddisgwylir yn ystod haf 2022, bydd yn rhaid ymgynghori â’r Cyngor eto a bydd gofyn iddynt gynhyrchu Adroddiad ar yr Effaith Leol. Bydd y Pwyllgor Cynllunio’n cael eu hysbysu ar y cam hwn mewn perthynas â’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ac yn cael cyfle i gynnig sylwadau ar y cynnig a chynnwys yr Adroddiad ar yr Effaith Leol gan y Cyngor mewn perthynas â’r cyflwyniad. |
|
Aelodau o'r cyhoedd a'r wasg hefyd yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol a neb o’r wasg. |