Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O ran eitem 6.5 (062300) dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, er nad oedd ganddi gysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu, ei bod hi fel Aelod Lleol wedi mynegi pryderon ynghylch y cais ar ran trigolion lleol. Oherwydd hynny, ni fyddai’n siarad nac yn pleidleisio ar y cais.
O ran eitem 6.2 (062917) dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay fod pobl wedi cysylltu â hi ar fwy nag un achlysur yngl?n â’r cais. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd cyn y cyfarfod ac a oedd wedi’u hatodi i'r rhaglen ar wefan y Cyngor:
https://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4861&LLL=1 |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Mai 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021 yn gywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Richard Lloyd a Chris Bithell eu cynnig a’u heilio.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni argymhellwyd gohirio dim un o’r eitemau. |
|
Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio a oedd ynghlwm fel atodiad. |
|
As in Report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwrthod caniatâd cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad. |
|
As in Report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod bod yr ymgeisydd yn derbyn Rhwymedigaeth Adran 106 i ffurfioli’r taliad blynyddol a wneir i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer rheoli Gwarchodfa Natur Coed y Felin ac amrywio’r cytundeb cyfreithiol presennol sy’n cynnwys cyfyngiad ffrwydradau uwch o 20mm/s ppv ar gyfer fferm Gwrachen, a’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. Hefyd, yn amodol ar y tri amod a gyflwynwyd gan United Utilities fel y’u gwelir yn y sylwadau hwyr. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio i amrywio’r amod cynllunio a’r Cytundeb Adran 106 cysylltiedig fel y nodir yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad swyddog, am y rhesymau canlynol: Bod y cynnig yn (i) gorddatblygu’r safle a (ii) heb gynllun priffyrdd digonol i ddarparu mynediad. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod nid oedd yr un aelod o’r wasg yn bresennol. |