Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

25.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:  I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

26.

Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:  Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio Newid Sefydliadol ar gyfer 2019/20

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad oedd yn cyfeirio at y pwysau ariannol ac arbedion effeithlonrwydd oedd yn wynebu’r portffolio Newid Sefydliadol yng nghyllideb 2019/20.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gweithdai Aelodau wedi cael eu cynnal ar 13 a 23 Gorffennaf a 18 Medi, 2018 lle darparwyd gwybodaeth am y rhagolygon ariannol lleol diweddaraf yng nghyd-destun y sefyllfa genedlaethol gyffredinol. Cynhaliwyd gweithdy ychwanegol yn benodol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 11 Hydref, 2018 lle rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ddeall cyllidebau portffolios yn fwy manwl ac ystyried lefelau risg a chydnerthedd pob maes gwasanaeth.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog esboniad manwl o arbedion effeithlonrwydd y portffolio cynllunio busnes, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Cymunedol) wybodaeth am yr arbedion a gyflawnwyd fel rhan o’r Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a Modelau Cyflenwi Amgen ond mynegodd ei bryder am y risg i’r gwasanaethau pe bai rhagor o arbedion yn cael eu gwneud.

 

Hefyd, cyflwynodd y Rheolwr Ariannol (Gwasanaethau Cymunedol) ddiweddariad ar y setliad cychwynnol gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi arwain at gynnydd o £1.9m yn y bwlch cyllidebol. Roedd swyddogion yn gweithio ar fanylion cyhoeddiadau cyllideb y Llywodraeth Ganolog ar hyn o bryd, a pha arian ychwanegol gellid ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y math o lefel y byddai’n rhaid codi Treth y Cyngor er mwyn diwallu’r diffyg ariannol presennol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau ei fod yn falch bod Aura a NEWydd wedi gallu sicrhau arbedion effeithlonrwydd a dywedodd fod y ddau yn datblygu’n dda.  Dywedodd y dylid llongyfarch y Cyngor am gynnal gwasanaethau er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol anodd. 

 

Diolchodd nifer o Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad a’u canmol am yr arbedion effeithlonrwydd roeddynt wedi’u gwneud gan lwyddo i gynnal gwasanaethau a gollwyd mewn Cynghorau cyfagos.  Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn gobeithio byddai unrhyw arian a fyddai’n dod i Lywodraeth Cymu gan y Llywodraeth Ganolog yn cael ei anfon ymlaen at awdurdodau lleol. Roedd y Cynghorydd David Wisinger yn cytuno a dywedodd fod angen sicrhau tegwch o ran yr arian oedd yn cael ei ddarparu i Dde Cymru a Gogledd Cymru. Cyfeiriodd hefyd at gyfarfod diweddar yr ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Lafur Cymru a dywedodd fod nifer o gwestiynau a phryderon yn ymwneud ag arian i Ogledd Cymru wedi cael eu mynegi. Cytunodd y Cynghorydd Janet Axworthy â’r sylwadau a wnaed ond mynegodd ei phryderon ynghylch yr oedi hir cyn derbyn cyhoeddiadau ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyllidebau blaenorol a’r anhawster roedd hyn yn ei greu i Gynghorau wrth bennu cyllidebau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sean Bibby at sgyrsiau roedd wedi’u cael gyda’i etholwyr a’r diffyg dealltwriaeth am yr ymdrech oedd yn cael ei wneud gan y Cyngor i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a gwarchod gwasanaethau. Dywedodd fod angen gwell cyfathrebu gyda’r cyhoedd yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd Geoff Collett yn cytuno a dywedodd fod angen gwneud mwy i roi gwybod  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.