Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Canolfan Chwaraeon Dŵr Cambrian, Wepre Drive, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy CH5 4HA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

17.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Andy Dunbobbin gysylltiad personol ag eitem 3 ar y rhaglen gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Cei Connah sy’n darparu cymorth ariannol i Cambrian Aquatics.

 

Datganodd y Cyng. Tudor Jones gysylltiad personol ag eitem 3 hefyd.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

18.

Pwll Nofio Cei Connah: Cynllun Busnes Strategol Cambrian Aquatics 2018/21

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad ar gynnydd gan Cambrian Aquatics.

Cofnodion:

            Diolchodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i Cambrian Aquatics am wahodd y Pwyllgor i gynnal eu cyfarfod yn y ganolfan a gofynnodd i’r pedwar cyfarwyddwr gyflwyno eu hunain.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau darparodd y cyfarwyddwyr gyflwyniad manwl a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:-

 

  • Crynodeb o’r Ail Flwyddyn
  • Targedau Mai 2019 (cynlluniau gweithredu i droi’r holl feysydd yn ‘wyrdd’)
  • Manteision cymunedol a chymdeithasol
  • Crynodeb o 2018/19
  • Amcanion Blwyddyn 3
  • Crynodeb

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i’r cyfarwyddwyr am eu cyflwyniad a llongyfarch y tîm am eu llwyddiannau hyd yma.Amlinellodd y cymorth a ddarperir gan y Cyngor ond soniodd hefyd am y pryderon ynghylch y risgiau i'r fenter.Dywedodd y bydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Bwrdd i ddeall a thrafod y meysydd sy’n peri pryder a dywedodd y dylai’r tîm fod yn falch iawn o’u gwaith a’r hyn maent wedi'i gyflawni, yn enwedig y cynnydd mewn cyfranogwyr ‘dysgu nofio’.

 

            Cytunodd y Cadeirydd gan ddweud eu bod wedi cael dechrau digon anodd ond bod y rhaglen ‘dysgu nofio’ yn allweddol i’r busnes. Soniodd y Rheolwr Cyllid am y rhaglen ‘dysgu nofio’ a dywedodd ei bod yn falch iawn bod y Bwrdd yn edrych ar ehangu’r rhaglenni nad ydynt yn ymwneud â nofio, a fydd yn cynorthwyo i greu refeniw parhaus.

 

            Bu i’r aelodau longyfarch y Bwrdd am ei lwyddiannau.Dywedodd y Cyng. Andy Dunbobbin ei fod yn fodlon cwrdd â’r Bwrdd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Hamdden Cyngor Tref Cei Connah i drafod prosiectau newydd.Canmolodd y Cynghr. Sean Bibby a Janet Axworthy y Bwrdd a chytuno i roi gwybod i'w Cynghorau Tref/Cymuned am y gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn, gobeithio, darparu cymorth ariannol yn y dyfodol.

 

            Soniodd y Cyng. Tudor Jones am gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i leihau’r Grant Nofio Am Ddim a gofynnodd sut mae Cambrian Aquatics yn paratoi ar gyfer gwneud iawn am y gostyngiad hwn.Eglurodd y cyfarwyddwyr eu bod wedi cynnal cyfarfodydd i drafod eu pryderon ynghylch effaith y gostyngiad hwn, yn enwedig ar gyfer pobl dros 60 oed, ac maent yn cytuno bod modd symud ymlaen gyda dull ar y cyd ar draws pyllau nofio Sir y Fflint.

 

            Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y cyfarwyddwyr i sylwadau a chwestiynau gan yr Aelodau yngl?n â llif arian a chronfeydd wrth gefn, y costau arfaethedig a’r amserlen ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweiriadau, ac aelodaeth y Bwrdd. Soniodd y Prif Swyddog am sgiliau amrywiol yr Aelodau Bwrdd.

 

            Bu i’r Pwyllgor darfod y dewisiadau o ran grantiau a Chronfa Mantais Gymunedol Wheelabrator Parc Adfer.Mae cyfle i wneud cais am gymorth grant gan fod hyn wedi’i dargedu yn ardal Partneriaeth Glannau Dyfrdwy.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r cyfarwyddwyr am ymateb i gwestiynau a sylwadau’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a chymeradwyo’r Cynllun Busnes gyda Cambrian Aquatics.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.