Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Gofal a Thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru, Rowley's Drive, Shotton, Glannau Dyfrdwy, CH5 1PY

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Please note the venue 

Eitemau
Rhif eitem

18.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Fel Trysorydd Gofal a Thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru, diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones am gefnogaeth y Cyngor gan dynnu sylw at y wybodaeth a oedd i'w gweld yn dangos y gwaith a wnaed gan Ofal a Thrwsio.

19.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

20.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 25 Mehefin 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2018.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 13: Symud o Neuadd y Sir i Unity House - mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dunbar ar le parcio a oedd ar gael, dywedodd y Prif Swyddog bod digon o leoedd ar gyfer nifer y gweithwyr a oedd i fod i symud.  Atgoffawyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Wisinger o’i gais i'r Pwyllgor gael ymweld â safle Unity House.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

21.

Gwytnwch Cymunedol pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Darparu manylion pellach ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2018/19 ymlaen, a chynnydd ar brif feysydd gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i roi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd mewn meysydd gwaith allweddol mewn perthynas â blaenoriaeth Cymunedau Gwydn a oedd yn rhan o’r thema ‘Cyngor Cysylltiedig' yng Nghynllun y Cyngor.  Roedd cyfrifoldeb dros hyn bellach yn rhan o bortffolio’r Prif Swyddog ar ôl i Ian Bancroft adael.

 

Roedd twf y sector cyhoeddus trwy ddatblygu mentrau cymdeithasol a llwyddiant Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a Modelau Cyflawni Amgen yn bwysig i helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn a hunangynhaliol.  Rhoddwyd trosolwg o chwe thema Gwytnwch Cymunedol yr oedd camau gweithredu wedi'u nodi arnynt yng Nghynllun Cyflawni Lles 2018-23 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Cher Lewney, y Rheolwr Cyflawni Rhaglenni – Cwsmeriaid Digidol a Gwytnwch Cymunedol, a ddosbarthodd sleidiau cyflwyniad a oedd yn nodi'r prif egwyddorion a chamau gweithredu ar gyfer pob thema.  Byddai’r rhain yn cael eu hategu drwy ddatblygu fframweithiau gwerthuso i helpu i reoli gwytnwch cymunedol ar draws y Sir.

 

Darparodd Emma Blacklock, Uwch-arweinydd Cymorth i Deuluoedd, ddiweddariad ar gynnydd o ran gweithgareddau ardal yn Holway a oedd yn galluogi’r Cyngor a’i bartneriaid i ymgysylltu â thrigolion a chael eu barn ar welliannau posib’ i’w hystadau.  Roedd digwyddiad arall wedi’i gynllunio at ddiwedd y mis i’w gysylltu â 'Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’.

 

Rhannodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) wybodaeth am ddatblygiad y Rhaglen Arweinyddiaeth a oedd yn y camau cyntaf o gael ei phrofi.  Roedd wedi’i bwriadu ar gyfer unigolion a oedd yn gweithio gyda chymunedau i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i gyflawni newid yn llwyddiannus.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Hutchinson am waith mewn ardaloedd, eglurodd y Prif Swyddog bod tair ardal wedi’i dewis yn seiliedig ar waith a gychwynnwyd yn flaenorol ac y byddai modd ystyried ardaloedd eraill dros amser.  Roedd y Cyngor yn arwain rhai o’r themâu ac roedd eraill yn gyfrifoldeb i bartneriaid fel Prifysgol Glynd?r ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Wrth nodi Gwytnwch Cymunedol fel elfen allweddol o Gynllun y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod enghreifftiau gwych o drosglwyddo asedau cymunedol.  Cyfeiriodd at y Cynllun Cyflawni Lles fel templed defnyddiol i roi sicrwydd am y gwaith a oedd yn cael ei wneud er budd y Sir gyfan.

 

Roedd y Cadeirydd yn cytuno a disgrifiodd y Cynllun fel offeryn defnyddiol i fonitro cynnydd.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y rhaglen Llwglyd dros y Gwyliau a chroesawodd ddatblygu canolfannau bwyd i drechu tlodi bwyd.  Mewn ymateb i sylwadau am bwysigrwydd cysylltiadau ag Iechyd, cyfeiriodd yr Uwch-arweinydd Cymorth i Deuluoedd at hyrwyddo sgrinio iechyd mewn digwyddiadau cymunedol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyflawni Rhaglenni bod swyddogion y Cyngor yn ymgysylltu â chynrychiolwyr Iechyd i drafod gwasanaethau ar y cyd a chyfeirio at fathau eraill o gymorth fel rhaglenni gweithgareddau cymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones yngl?n â gweithgarwch yn Holway, eglurwyd bod pob un o’r 406 eiddo wedi derbyn gwybodaeth yn annog trigolion i gymryd rhan yn y gweithgareddau.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Mullin sylw hefyd ar lwyddiant y rhaglen Llwglyd dros  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

Item 4 - Community Resilience slides pdf icon PDF 829 KB

22.

Trosglwyddo Ased Cymunedol – Trosolwg o Gynnydd pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Darparu cynnydd ar holl Drosglwyddiadau Ased Cymunedol sydd wedi datblygu trwy gwblhau Cynllun Busnes Cam 2 ac felly yn agos at eu cwblhau neu wedi trosglwyddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Cymunedol) adroddiad yn manylu ar statws pob un o’r 30 Trosglwyddiad Asedau Cymunedol a oedd un ai wedi'u trosglwyddo neu'n agos at gael eu cwblhau.

 

Nodwyd mai blaenoriaeth y Cyngor oedd sicrhau bod trosglwyddiadau a oedd yn agos at gael eu cwblhau'n cael eu cwblhau a bod y rhai a oedd wedi'u trosglwyddo'n gynaliadwy yn y tymor hir.  Rhannwyd gwybodaeth ar y tri cham trosglwyddo a’r gefnogaeth a oedd ar gael i ddod o hyd i broblemau’n gynnar a lleihau’r risg o fethu.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw rai o’r trosglwyddiadau a oedd wedi’u gwneud yn profi anhawster.  Roedd gwaith mentrau cymdeithasol yn cynnwys gwirio bod yr holl fentrau cymdeithasol yn iawn er mwyn cefnogi sefydliadau drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Asedau eglurhad i'r Cynghorydd Hutchinson yngl?n ag adeilad penodol ym Mwcle.  Eglurodd na allai’r broses ond cychwyn ar ôl i sefydliad gyflwyno datganiad o ddiddordeb ac y gallai sefydliadau gael cyllid grant ychwanegol drwy drefniadau prydlesu.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Paul Shotton y trosglwyddiadau asedau cymunedol llwyddiannus a oedd wedi'u cwblhau yn Sir y Fflint.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at ddau ased a oedd wedi’u trosglwyddo’n gynharach a gofynnodd i’r rhain gael eu hychwanegu at y rhestr o’r rhai a gwblhawyd.  Soniodd bod Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn faes cyfrifoldeb allweddol a gofynnodd a oedd cymorth swyddog penodol wedi'i neilltuo i sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro'n ofalus.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid y byddai’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn rhoi ymateb a rhoddodd hithau sicrwydd bod cefnogaeth barhaus i'w chael, gan gynnwys gwiriadau.  Atgoffodd y Rheolwr Asedau’r Pwyllgor yngl?n â’r cymorth annibynnol a oedd yn cael ei ddarparu gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i sefydliadau drwy gydol y broses.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i fanylion trosglwyddiad yr ased cymunedol ar gyfer Neuadd Bentref Carmel gael ei ychwanegu at y rhestr, yn dilyn gohebiaeth gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu'r gwaith a wnaed a’r cymorth a roddwyd i sefydliadau drwy'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

23.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid sefydliadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a dywedodd efallai y byddai angen cyfarfod arbennig i ystyried dewisiadau Cam 1 ar gyfer cyllideb 2019/20, gan ddibynnu ar ganlyniad y gweithdai i Aelodau a fyddai'n cael eu cynnal yn fuan.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol fel y'i cyflwynwyd; ac

 

 (b)      Awdurdodi’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

24.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.