Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol a sy’n rhagfarnu mewn cysylltiad ag eitem 6 yn y rhaglen – Adroddiad Blynyddol ar Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf gan mai ef yw Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Hamdden Treffynnon a bod ganddo gysylltiad personol fel landlord Llyfrgell Aura a chaffi NEWydd. 

 

Datganodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin gysylltiad personol mewn cysylltiad ag eitem 6 yn y rhaglen gan ei fod yn aelod o Bwyllgor Canolfan Chwaraeon Cei Connah.

 

Hefyd datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol mewn cysylltiad ag eitem 6 yn y rhaglen gan ei fod yn Ymddiriedolwr Hen Faddonau Bwcle.

 

Datganodd y Cynghorydd Dave Mackie gysylltiad personol gan fod aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ffrind a chymydog. 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Mai  2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018.

 

Cywirdeb

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Sean Bibby ei fod wedi mynychu'r cyfarfod ond dywedodd ei fod wedi ei gofnodi fel pe bai wedi cyflwyno ymddiheuriad.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

13.

Symud o Neuadd y Sir i Unity House pdf icon PDF 87 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith, yn enwedig mewn perthynas â gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r gwasanaethau a staff sy’n symud a gwaith ar gynllun mewnol yr adeilad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd y gwaith o symud o Neuadd y Sir i Unity House ac ar y gwaith oedd yn mynd ymlaen gyda gwasanaethau a staff yn symud, a chynllun mewnol yr adeilad.  

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) mai symudiad rhannol yw hwn ac y byddai nifer sylweddol o weithwyr yn parhau yng Nghamau 1 a 2 Neuadd y Sir am y tymor canolig.  Eglurodd fod ystod o waith wedi digwydd i sicrhau y gallai’r symud ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn galendr a oedd yn cynnwys gwaith adeiladu yn Unity House, gwaith gyda staff gwasanaeth ac undebau i baratoi ar gyfer adleoli a gwaith i gaffael cynllunydd mewnol i gwblhau’r dasg o drefnu’r gofod yn Unity House.Adroddodd ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad llawn ar gynnydd a gwaith a gynlluniwyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) mai’r gwasanaethau a nodwyd i symud i Unity House oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynllunio a’r Amgylchedd, Addysg a staff y Ganolfan Gyswllt.  Mae’r atodiad i'r adroddiad yn nodi’r nifer o staff sydd i symud, y gofod sydd ei angen o ran desgiau a'r lleoedd parcio sydd ar gael.Y bwriad oedd mai Unity House fyddai un o’r prif swyddfeydd a byddai wedi’i gynllunio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen nad ydynt yn derbyn ymholiadau lle gall aelodau o’r cyhoedd gerdded i mewn, ond bod staff yn cyfarfod aelodau o’r cyhoedd a phartneriaid drwy apwyntiad. Er mwyn sicrhau fod y symud yn llwyddiannus roedd cynlluniau ychwanegol yn cael eu datblygu oedd yn cynnwys cynllun cyfathrebu mewnol ac allanol clir a chynllun teithio ar gyfer mynediad i’r safle.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r symud yn arwain at arbediad refeniw blynyddol i’r cyngor ac roedd cynlluniau i gynnwys y costau a ragwelwyd o fewn cyllidebau presennol.Siaradodd o blaid y symud rhannol ac eglurodd y byddai'r Gwasanaethau Corfforaethol, y Gwasanaethau Democrataidd, Gwasanaethau’r Aelodau a Chyllid yn parhau ar safle Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug hyd nes y byddai penderfyniad hirdymor yn cael ei wneud. Wrth gyfeirio at adnewyddu Unity House, dywedodd fod y cydbwysedd rhwng buddsoddiad doeth a darparu amgylchedd o ansawdd wedi ei ystyried yn ofalus ac am fuddsoddiad cymharol gymedrol fod yr Awdurdod wedi moderneiddio’r adeilad ac wedi darparu gofod swyddfa sydd fel newydd ac yn addas i staff ei ddefnyddio.Hefyd fe wnaeth y Prif Weithredwr sylw ar yr effaith negyddol roedd cyflwr yr adeilad yn ei gael ar drigolion lleol a staff y Cyngor a dywedodd fod gwneud y gwelliannau wedi bod yn angenrheidiol.   

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin o blaid y buddsoddiad yn Unity House a gwnaeth sylw ar fanteision yr adeilad.Dywedodd fod staff yn frwd am y symud a bod y gwelliannau wedi codi morâl y staff.

 

                        Awgrymodd y Cynghorydd David Wisinger fod ymweliad safle yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor i Unity House. Mynegodd bryderon yn ymwneud â threfniadau parcio ar gyfer staff ac ymwelwyr.Eglurodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid sefydliadol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 17 Medi, a gofynnodd i Aelodau anfon unrhyw awgrymiadau am eitemau yr oeddent yn dymuno eu hychwanegu at y Rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod.  

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Tudor Jones am ddiweddariad ar y trosglwyddiadau ased "llai" dywedodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor a fyddai'n cael ei gynnal ar 17 Medi, i ddarparu diweddariad ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cafodd ei chyflwyno, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os oes angen. 

15.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

                        Dywedodd y Cadeirydd fod Swyddogion wedi argymell fod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r eitem ganlynol gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sensitif yn fasnachol sy’n perthyn i drydydd parti a bod budd y cyhoedd o beidio â datgelu’r wybodaeth yn fwy na budd y cyhoedd o  ddatgelu’r wybodaeth.  

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y penderfyniad i wahardd y wasg a'r cyhoedd ar gyfer yr eitem ganlynol i’w wneud gan y Pwyllgor a gofynnodd i Aelodau bleidleisio ar y cynnig.Pan roddwyd y mater i bleidlais penderfynwyd gwahardd y wasg a'r cyhoedd am weddill y cyfarfod.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

16.

Adroddiad Blynyddol Llyfrgelloedd a Hamdden Aura Cyf ac Arlwyo a Glanhau Newydd Cyf

Derbyn adolygiadau blynyddol ar gynnydd y ddau sefydliad a’u Cynlluniau Busnes ail flwyddyn

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad i dderbyn yr adroddiadau diwedd blwyddyn drafft (31 Mawrth 2018) yn ffurfiol a ddarparwyd gan Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf i’w Byrddau Partneriaeth priodol gyda'r Cyngor ym Mai 2018. Dywedodd fod y ddau adroddiad yn dangos cynnydd da.      

 

                        Rhoddodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) wybodaeth gefndir gan adrodd ar y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

                        Yn ystod y drafodaeth cododd Aelodau gwestiynau’n ymwneud â darpariaeth barhaus caeau chwaraeon pob tywydd yn ogystal â’r gwaith o'u cynnal a’u cadw, cysondeb darpariaeth gwasanaethau ieuenctid ar draws y Sir a Chanolfan Chwaraeon Cei Connah.

 

            Llongyfarchwyd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) gan yr Aelodau ar ei swydd newydd gyda Chyngor Bwrdeistref Wrecsam a diolchodd yr Aelodau iddo am ei waith caled a'i lwyddiannau yn ystod ei gyfnod gyda'r Awdurdod. 

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf yn ystod 2017/18 yn cael ei nodi: a

 

 (b)      Bod cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf yn ystod eu blwyddyn gyntaf o weithredu yn cael ei groesawu.

17.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd yna un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.