Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas:Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Cynghrair Annibynnol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.
Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Cynghrair Annibynnol. Gan y penodwyd y Cynghorydd Dave Mackie i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Paul Shotton y Cynghorydd Sean Bibby fel Is-gadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Wisinger.
Enwebodd y Cynghorydd Veronica Gay y Cynghorydd Tudor Jones ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dave Mackie.
Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Sean Bibby fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Sean Bibby fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Mared Eastwood gysylltiad personol gan ei bod yn gweithio yn Caffi Isa, Mynydd Isa ac roedd yn aelod o weithgor ar gyfer trosglwyddo ased cymunedol arfaethedig yn New Brighton.
Datganodd y Cynghorydd Veronica Gay gysylltiad personol gan ei bod yn gweithio fel gwirfoddolwr yng Nghanolfan Gymunedol Sandy Lane.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mawrth 2017.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2017.
Materion yn Codi
Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton am gyflawniadau cadarnhaol Cambrian Aquatics yn ystod blwyddyn gyntaf gweithredu.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 10.10am)
|