Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Tudor Jones yn datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar eitem 4 ‘Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon’ gan ei fod yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr y ganolfan hamdden a landlord y llyfrgell a’r caffi.     Roedd hefyd yn llofnodwr y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer defnyddio cyfleusterau chwaraeon yn Ysgol Treffynnon.    Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r Cynghorydd Jones yn cymryd rhan yn yr eitem fel cyfrannwr ac yn ymateb i unrhyw gwestiynau ond byddai'n gadael yr ystafell ar gyfer y bleidlais.    Yna byddai’r Cynghorydd Jones yn cymryd ei le ar y Pwyllgor ar gyfer gweddill yr eitemau ar y rhaglen.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 49 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Mehefin 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

8.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan ei bod yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

9.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon

Pwrpas: Darparu diweddariad i’r Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad i ystyried cynnydd Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon yn ystod tri mis cyntaf gweithredu ers trosglwyddo ar 31 Mawrth 2017. 

 

 Trosglwyddwyd yr adeilad a gweithwyr ac adleoliwyd y llyfrgell i’r ganolfan hamdden gan mai dyma’r trosglwyddiad ased mwyaf gan y Cyngor.  Tynnodd y Prif Swyddog sylw at y dogfennau a oedd ar gael oedd yn dangos y broses gadarn ar ddiwydrwydd cynlluniau busnes hyd at bwynt trosglwyddo.    Rhannodd fanylion y gefnogaeth refeniw a ddarparwyd gan y Cyngor ac arian cyfalaf a ddyrannwyd i ddelio gyda materion yn y dyfodol. 

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Tudor Jones (yn siarad fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr y ganolfan hamdden) a Mr Chris Travers (Rheolwr y ganolfan hamdden) i roi eu safbwynt ar y cynnydd a wnaed ers y trosglwyddo. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r Prif Swyddogion Newid Sefydliadol ac amrywiol adrannau’r Cyngor am eu gwaith i gefnogi’r trosglwyddiad.    Rhoddodd drosolwg byr o’i gyfraniad at y prosiect a chanmolodd y Cyngor am ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn fuan.    Eglurodd bod yr oedi byr cyn trosglwyddo yn angenrheidiol i ddatrys materion a bod y ganolfan hamdden wedi aros yn agored yn ystod y trawsnewid.    Soniodd am sefydlu’r Bwrdd Ymddiriedolwyr aml-fedrus i gefnogi datblygiad y cynllun busnes a chanmolodd frwdfrydedd y gweithwyr a gyfrannodd at sefyllfa bresennol y ganolfan hamdden. 

 

 Canmolodd y Cynghorydd Ian Dunbar fenter y Cyngor ar Drosglwyddo Ased Cymunedol i helpu’r prosiect a chynnal asedau angenrheidiol ar draws holl ardaloedd y sir.    Cytunodd â’r farn mai llif arian a chynllunio busnes oedd y ddau brif ffactor. 

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Paul Shotton, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddysgu o fodel Trosglwyddo Ased Cymunedol Pwll Nofio Cei Connah.   Soniodd am yr ymgysylltu gyda Chynghorau Tref a Chymuned ac y croesawyd y gefnogaeth ariannol a gynigiwyd gan rai ohonynt.  Hefyd canmolodd y gymuned am eu hewyllys da i gefnogi’r cyfleusterau fyddai o fudd i’r gymuned ehangach.    Aeth ymlaen i roi gwybodaeth am y cae bob tywydd a thelerau’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth. 

 

Fel Rheolwr Canolfan Hamdden Treffynnon, rhoddodd Mr Chris Travers fanylion amrywiol brosiectau cyfalaf ar y gweill a chrynhodd y perfformiad ariannol hyd at 30 Mehefin 2017 a oedd yn dangos sefyllfa gyfforddus. 

 

Soniodd y Prif Swyddog am y buddion ar gael drwy drosglwyddo’r cyfleusterau cymunedol drwy gynnig oriau agor hyblyg a mynediad i arbedion fel rhyddhad trethi.  Talodd deyrnged i ymdrechion gweithwyr, y Bwrdd a chydweithwyr Undebau Llafur drwy ddod o hyd i atebion gwaith. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Billy Mullin yr agwedd ‘gallu gwneud’ a ddangoswyd gan bawb oedd yn rhan o’r prosiect. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Reece i’r wybodaeth a anfonwyd at Gynghorau Tref a Chymuned gael ei hanfon at Gyngor Cymuned Bagillt fel y ward gyfagos.    Awgrymodd bod y Pwyllgor yn ymweld â Chanolfan Hamdden Treffynnon mewn cyfarfod yn y dyfodol i weld y gwaith a wnaed yno. 

 

Croesawodd y Cynghorydd David Wisinger yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a’r syniad o rentu gofod i wneud defnydd llawn o’r adeilad.  Yngl?n â darparu ystafell  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Model Cyflenwi Amgen Arlwyo a Glanhau Newydd

Pwrpas: Darparu diweddariad i’r Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad diweddariad ar ddatblygiad Model Cyflawni Amgen ar gyfer Rheoli Cyfleusterau oedd yn arwain at drosglwyddo Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol gyda Teckal Exemption.

 

Rhoddwyd trosolwg o weithgareddau oedd yn arwain at sefydlu’r cwmni ar 1 Mai 2017.  Drwy ddefnyddio Teckal Exemption, roedd y cwmni yn eiddo i’r Cyngor ond roedd yn elwa o allu gweithio i raddau cyfyngedig gydag asiantaethau eraill.    Roedd diwydrwydd ar gynllunio busnes cadarn yn rhan o’r broses ac roedd Bwrdd aml-fedrus wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr yn y gymuned leol.  Roedd system ariannol newydd wedi’i fabwysiadu i adlewyrchu’r gwahanol ffordd yr oedd y cwmni’n gweithio. 

 

Gwahoddwyd Mr Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd a Mr Darren Jones, Cadeirydd y Bwrdd i rannu eu barn ar gynnydd ers trosglwyddo’r cwmni. 

 

Yn ystod eu cyflwyniad, cyfeiriwyd at fudd set sgiliau cyfunol y Bwrdd i helpu i gefnogi datblygiad y cwmni.    Roedd yr oedi byr cyn y dyddiad lansio o ganlyniad i’r angen i fynd i’r afael â materion technegol a ddatryswyd drwy gydweithio effeithiol gydag adrannau’r Cyngor.    Dywedwyd bod symud y gweithwyr i’r cwmni wedi cynnwys canlyniadau cadarnhaol, ynghyd ag ymatebion gan ddefnyddwyr gwasanaeth y rhan fwyaf wedi eu cadw.     Rhoddwyd adroddiad calonogol ar berfformiad ariannol yn erbyn targedau wrth gydnabod yr amcanion tymor hir i ddatblygu busnes a lleihau cymhorthdal.  Byddai cynnwys ymgynghorydd i adolygu’r cynllun busnes hefyd yn helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer cynnydd a rhoi cyngor ar faterion llywodraethu.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Ian Dunbar, cafwyd trafodaeth yngl?n â glanhau eiddo gwag.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am drefniadau gyda phrydau ysgol a dywedwyd am y defnydd o ddulliau marchnata a chefnogaeth ar gyfer dewisiadau iach, tra byddai hyblygrwydd ar fframweithiau caffael yn helpu i fwyhau effeithiolrwydd.    Ar effaith posibl y dreth prentisiaeth, roedd y cwmni wedi cael gwybod bod hyn yn rhan o drefniadau’r Cyngor.    Ymatebwyd i ymholiadau’r Cynghorydd David Wisinger hefyd yngl?n ag effeithiau posibl Brexit.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar ffigurau a ddangoswyd yn adroddiad y Cabinet o Chwefror 2016, eglurwyd bod llawer o waith wedi'i wneud ar gyllid ers hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a wnaed mewn perthynas â throsglwyddo Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol gyda Teckal Exemption.

11.

Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas: Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad diweddariad i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yn y Cynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi canlyniadau cadarnhaol yn gyffredinol gyda llithriad bach ar y Trosglwyddo Ased Cymunedol a’r Model Cyflawni Amgen fel yr eglurwyd yn gynharach yn y cyfarfod.      Nid oedd yr un o’r dangosyddion perfformiad chwarterol na meysydd risg wedi eu nodi’n goch.     Dywedodd y Prif Swyddog bod y meysydd yng Nghynllun (Gwella) newydd y Cyngor ar gyfer 2017-23 oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor o dan y flaenoriaeth 'Cyngor Cysylltiol'.

 

Holodd y Cadeirydd am y dyddiadau terfyn a statws cwblhau a ddangoswyd ar ddatblygiad mentrau cymdeithasol a dywedwyd y rhagwelir y byddai hwn yn brosiect tair blynedd. 

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Ian Dunbar, rhoddwyd diweddariad ar gwblhau Trosglwyddo Ased Cymunedol yn ystod y flwyddyn.  Ar Gam 4 Neuadd y Sir, hysbyswyd yr Aelodau nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ond gwneir mwy o waith dros amser. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad canlyniad Cynllun Gwella 2016/17 yn cael ei nodi.

12.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg Adnoddau Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol i’w hystyried.   Yn dilyn yr awgrym i’r Pwyllgor ymweld â Chanolfan Hamdden Treffynnon, sylwyd na fyddai hyn yn bosibl ar gyfer y cyfarfod nesaf.     Byddai opsiynau ar gyfer lleoliad arall yn cael eu hystyried a gwahoddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynychu ar gyfer yr eitem ar Fodel Cyflawni Amgen Gofal Cymdeithasol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd am farn ar lefel y manylion yn yr adroddiadau ac yn gyffredinol dywedodd yr Aelodau eu bod yn fodlon gyda’r wybodaeth. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.

13.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.