Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Derek Butler a Dave Mackie gysylltiad personol â’r eitem ganlynol:  Eitem 6 - Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd 

 

Datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol â’r eitem ganlynol:  Eitem 7 – AURA – Adnewyddu Contract Gwasanaeth 

 

36.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 9 Rhagfyr 2019.

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod ar 9 Ragfyr 2019 yn gofnod cywir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geoff Collett eu bod yn cael eu cymeradwyo ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

37.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor.    Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar y Rhaglen i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, i’w gynnal 16 Mawrth. 

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Tudor Jones, cytunwyd y byddai eitem ar Cambrian Aquatics yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried yng nghyfarfod y dyfodol o’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad ar olrhain camau gweithredu a chyfeiriodd at y cam gweithredu a gododd o gyfarfod 1 Gorffennaf, yngl?n â Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor a Gwasanaeth a Rennir gyda Wrecsam, a oedd ar y gweill.  Rhoddodd wybod fod pob cam gweithredu arall wedi’i gwblhau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo; 

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

(c)        Bod eitem ar Cambrian Aquatics yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried yng nghyfarfod y dyfodol o’r Pwyllgor; a

 

(d)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

 

38.

Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd sydd wedi ei wneud mewn cyflawni dyheadau gwerth cymdeithasol y Cyngor ac i drafod y polisi drafft ar gyfer gwerth cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a rhoddodd wybod bod y Cyngor wedi mabwysiadu ei Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn gynharach eleni, i nodi sut y gellid cyflawni mwy o fantais gymunedol o wasanaethau a gwariant presennol y Cyngor.  Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar y gwaith a wnaed ers y dyddiad hwn, ar ddulliau sy’n dod i’r amlwg a fabwysiedir i ddarparu gwerth cymdeithasol ac ar feysydd gwaith y dyfodol.  Gofynnwyd hefyd i’r aelodau ystyried Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft a greodd fframwaith galluogi i gryfhau’r dull i gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy wariant y Cyngor a gaffaelwyd.  

 

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r adroddiad.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ynghylch y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at y meysydd o ddarparu gwerth cymdeithasol yn y 12 mis nesaf, darparu gwerth cymdeithasol drwy gaffael, cynnydd hyd yn hyn a gweithgarwch y dyfodol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin am eglurhad ynghylch y term ‘lleol’ a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad.  Gofynnodd hefyd sut yr oedd y Polisi Gwerth Cymdeithasol yn cysylltu â menter Caffael Llywodraeth Cymru GwerthwchiGymru.  Holodd y Cynghorydd Dunbobbin a oedd y pecyn meddalwedd a oedd yn ofynnol i alluogi rheolaeth effeithiol o werth cymdeithasol ar draws y Cyngor, wedi’i brynu gan ddarparwr lleol. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin, rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod bod tair haen, sef Sir y Fflint, is-ranbarthol a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn bennaf.  Gan gyfeirio at Fenter Caffael Llywodraeth Cymru GwerthwchiGymru, cadarnhaodd y gallai gynnwys gofynion polisi gwerth cymdeithasol.  Ar y mater o gyflenwi meddalwedd, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y cafwyd proses gaffael agored, ond nid oedd modd ei gyrchu’n lleol.  Gan ymateb i gwestiwn arall a godwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin ynghylch is-gontractio, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod is-gontractio’n rhoi cyfle i gontractwyr lleol chwarae mwy o ran mewn prosiectau mwy.

 

Cytunwyd y byddai adroddiad arall yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r data a gafodd ei ddal drwy’r system TGCh gwerth cymdeithasol newydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at y cyfleoedd i ddarparu gwerth cymdeithasol sylweddol, fel y manylwyd yn adran 1.05 o’r adroddiad, a mynegodd amheuon ynghylch y cyfle am fuddsoddiad yn y dyfodol gan Aura.

 

Croesawodd y Cynghorydd Paul Johnson yr adroddiad a rhoddodd sylwadau ar fodel Preston, lle’r oedd gwerth cymdeithasol wrth wraidd strategaeth economaidd y Cyngor.  Gofynnodd sut y gellid trosi’r Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol i adeiladu cyfoeth cymunedol.  Fe wnaeth y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) gydnabod y pwyntiau a godwyd a chytunodd fod peth tebygrwydd gyda model Preston wedi’i ystyried yn ystod datblygiad o’r Strategaeth.  Rhoddodd y Cynghorydd Johnson sylw ar yr angen i godi proffil y Polisi Gwerth Cymdeithasol.  Cytunodd y Prif Swyddog fod angen codi proffil Gwerth Cymdeithasol yn Sir y Fflint a rhoddodd sylw, ar ymweliad i Preston, eu bod â brand wedi’i ddiffinio’n glir ac roedd y neges yn gyson ar draws pob maes gwasanaeth.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Tudor  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).  

 

 

40.

Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd

Pwrpas:        Derbyn adroddiad fesul cam ar gynnydd hyd yma yn trosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd o dan Fodel Cyflawni Amgen (MCA) y Cyngor erbyn Ebrill 2021.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad fesul cam ar gynnydd hyd yma ar drosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd o dan Fodel Cyflawni Amgen (MCA) y Cyngor erbyn Ebrill 2021, a gytunwyd gan y Cabinet mewn egwyddor.  Cynghorodd mai’r amcan oedd diogelu dyfodol Theatr Clwyd ac mai model ymddiriedolaeth annibynnol oedd y model a ffafriwyd i gyflawni hyn. Byddai angen gwneud penderfyniad terfynol ar wneud trosglwyddiad erbyn canol 2020 i ganiatáu digon o amser ar gyfer cynllunio trosiannol. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd i ddiogelu trosglwyddiad i fodel ymddiriedolaeth annibynnol ar gyfer Theatr Clwyd ar ffurf cwmni cyfyngedig drwy warant gyda statws elusennol, ar gyfer 1 Ebrill 2021; a

 

(b)       Chefnogi penderfyniad terfynol ar drosglwyddiad yn 2020, yn seiliedig ar adroddiad diwydrwydd dyladwy llawn a therfynol.

 

41.

Aura – Adnewyddu’r Contract Gwasanaeth

Pwrpas:        Ystyried yr estyniad arfaethedig i’r contract gwasanaeth Aura.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad i ystyried y bwriad i ymestyn y contract gwasanaeth gydag Aura.  Rhoddodd wybod bod y contract gwasanaeth cychwynnol gydag Aura am gyfnod o dair blynedd, gan ddod i ben 31 Awst 2020. Roedd y cytundeb rhwng y Cyngor ac Aura’n cynnwys opsiwn i ymestyn y contract am ddwy flynedd arall drwy gytundeb ar y ddwy ochr.  Mae’r adroddiad yn argymell gweithredu cytundeb o’r fath ac yn ymdrin â phrif delerau’r cytundeb hwnnw.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd Arweinydd y Cyngor a’r Prif Swyddog i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi’r bwriad i ymestyn y contract gwasanaeth gydag Aura am ddwy flynedd arall (1 Medi 2020 tan 31 Awst 2022); a

 

(b)       Bod Aura’n cael eu gwahodd i gyflwyno’r iteriad nesaf o’u cynllun busnes i Drosolwg a Chraffu ddechrau blwyddyn ariannol 2020/21, a chynnwys datganiad penodol o amcanion gwerth cymdeithasol yn unol â Strategaeth Gwerth Cymdeithasol sydd newydd ei mabwysiad gan y Cyngor.

 

42.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.25am)