Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

40.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2019.

 

            Roedd gan Mr David Hytch ddau sylw i’w gwneud am y cofnodion. Yn gyntaf, ar dudalen 4 cyfeiriwyd ato fel y Cynghorydd Hytch ac yn ail, ar dudalen 8 gofynnodd am gael newid ei sylw yngl?n â’r graff i gynnwys y geiriau canlynol: “Cyfeiriodd Mr Hytch at y graff a oedd, yn ei farn ef, yn agored i gael ei gamddehongli”.

            Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey, yn amodol ar y newidiadau a restrir uchod, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau a restrir uchod, bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

41.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a oedd wedi’i diweddaru ers y cyfarfod diwethaf, ac a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Roedd yr holl gamau gweithredu yn codi o’r cyfarfod blaenorol ar 20fed Rhagfyr wedi’u cwblhau.

 

            Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Hughes adroddiad am gyfarfod diweddar y gwnaeth gymryd rhan ynddo yng Nghaerdydd yn dilyn ystyriaeth o’i rybudd o gynnig yn gofyn am gymorth i gyflwyno Hyfforddiant Cymorth Cyntaf mewn Ysgolion gyda sefydliadau eraill fel y Groes Goch yn bresennol. Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod lleol a oedd wedi anfon cynrychiolydd. Cafodd y Gr?p ei sefydlu i sicrhau bod Hyfforddiant Cymorth Cyntaf ac Achub Bywyd ar gael mewn ysgolion a’r gobaith oedd y byddai hyfforddiant adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR) a Diffibriliwr hefyd yn dod yn orfodol.  Dywedodd y Cynghorydd David Williams fod hyfforddiant Cymorth Cyntaf eisoes yn rhan o sesiynau ABCh yn ei ysgol ef, a dywedodd ei fod yn hapus i roi gwybodaeth i aelodau am gynnwys yr hyfforddiant hwn yn ei ysgol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Mackie pam roedd yr eitem ar Dlodi Plant wedi cael ei symud i’r cylch nesaf. Mewn ymateb, cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ac esboniodd fod y Strategaeth ddrafft yn dal i gael ei llunio ac y byddai’n cael ei chyflwyno gerbron y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020. 

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.                              

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Cymeradwyo’r fersiwn ddiwygiedig o Raglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)     Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen; a

 

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gwblhau’r materion sy’n weddill.

 

42.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynllun gweithredu’r Awdurdod ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol/rhanbarthol.

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.  Byddai’r fframwaith statudol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol yn ymdrin ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a Phobl Ifanc ag Anawsterau neu Anableddau Dysgu (AAD) mewn addysg a hyfforddiant ôl-16. Roedd yr amserlen ar gyfer rhoi’r Ddeddf ar waith bellach wedi symud i fis Medi 2021 er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i weithio drwy’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori.

 

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr adroddiad ar gyfarfod o’r Fforwm ADY a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol a oedd yn trafod y swydd-ddisgrifiad ar gyfer swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mewn ysgolion.  Cadarnhaodd fod Jan Williams wedi cael ei phenodi dros dro fel Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar a bod y Bwrdd Iechyd yn edrych ar y sefyllfa ariannu er mwyn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig. Cyfeiriodd at Gynllun Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Sir y Fflint a’r gwaith oedd yn cael ei wneud i ddeall ‘beth oedd darpariaeth gyffredinol’. Roedd ysgolion yn gweithio mewn clystyrau yn Sir y Fflint ac yn rhanbarthol, gyda chydweithwyr Addysg Bellach a’r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhan o’r trafodaethau hyn. Cyfeiriodd hefyd at amserlen Llywodraeth Cymru, y goblygiadau o ran cost i’r Cyngor a’r angen am gyngor cyfreithiol clir i ddeall sut i ddehongli’r Ddeddf er mwyn sicrhau y byddai’r disgyblion sydd â’r angen mwyaf yn elwa ar hyn. O ran addysg ôl-16, dywedodd fod y sefyllfa yn aneglur ar hyn o bryd a bod angen eglurder ar y ddarpariaeth gyffredinol a’r fecanwaith ar gyfer datganoli’r arian ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16.      

 

            Roedd y Cadeirydd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon yr awdurdodau lleol.

 

             Mynegodd y Cynghorydd Mackie ei bryder nad oedd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r cymorth TG sydd ei angen ar unwaith a mynegodd ei bryder ynghylch yr amserlen 2-3 blynedd bosibl ar gyfer dod o hyd i’r cymorth hwn a’i roi ar waith. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ffurfiol eto. Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb a luniwyd gan ranbarth Gogledd Cymru wedi cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ac roedd papur yn cael ei ysgrifennu i’w gyflwyno gerbron yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i’w ystyried; byddai cymhlethdod y system ofynnol yn achosi’r oedi posibl. 

 

            Gofynnodd Mrs Rebecca Stark gwestiynau am y swydd-ddisgrifiad, gan godi pryderon am y llwyth gwaith, yr oedi o ran y ddarpariaeth cymorth TG, y diffiniad o ddarpariaeth gyffredinol a gofynnodd a fyddai hyn yn aros yn rhanbarthol neu a fyddai’n dod yn genedlaethol. Hefyd, gofynnodd a oedd y rhaglen hyfforddi staff yn ddigon cadarn i sicrhau ei bod yn rhoi sylw i anghenion disgyblion. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn fel gweithred niwtral o ran cost ac ni chafwyd unrhyw awgrym a fyddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu am y cyfrifoldebau ychwanegol a fyddai’n dod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Presenoldeb Ysgol pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Darparu adroddiad i’r Aelodau ar bresenoldeb ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Yn gyntaf cyflwynodd yr Uwch Reolwr Mr John Grant (Uwch Ymgynghorydd Dysgu – y Gwasanaeth Ymgysylltu, Cynhwysiant a Chynnydd) a amlinellodd ei brofiad i’r pwyllgor. Cafodd ei groesawu gan y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor. 

 

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am lefelau presenoldeb ar draws ysgolion Sir y Fflint. Nodwyd bod absenoldebau oherwydd salwch yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r absenoldebau a bod lefelau absenoldeb cyson yn dal i fod yn gymharol uchel.

 

            Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu fod sicrhau presenoldeb mewn ysgolion yn anodd gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion a oedd yn adrodd am broblemau iechyd meddwl ac nad oeddynt yn ymgysylltu â’r ysgol ac roedd cydweithwyr CAMHS yn rhoi cymorth i’r disgyblion hyn.  Esboniodd fod y gwasanaeth yn ceisio bod yn fwy hyblyg gan ymateb i anghenion y plant ac y byddai deall yr heriau yn ei gwneud yn bosibl i fwrw ymlaen â chynllun hirdymor. Yna, cyfeiriodd at Gynhadledd Penaethiaid Ysgolion lle’r oedd cydweithwyr wedi trafod a chydnabod y pwysau a oedd yn gysylltiedig. Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 1 yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Mr Hytch at wyliau yn ystod y tymor a gofynnodd a oedd yn gyfreithiol i’w hawdurdodi a pha mor gadarn oedd y ffigyrau, hefyd cwestiynodd  ffigyrau presenoldeb y chwartel a fyddai’n gallu symud o wyrdd i goch petai llawer o ddisgyblion yn dal y ffliw.  O ran addysg uwchradd, gofynnodd a oedd ffigyrau absenoldeb yn cynnwys gallu plentyn i ymdopi â’r addysg a ddarparwyd ac a fyddai’r pwysau hwn yn gallu achosi absenoldebau oherwydd iechyd meddwl. Roedd o’r farn nad oedd addasu’r cwricwlwm yn gweithio bob amser, a dywedodd fod angen darparu cymorth i’r haen islaw anghenion arbennig.  Hefyd, gofynnodd a oedd gan y Gwasanaeth Iechyd yr adnoddau i gefnogi hyn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at absenoldebau heb eu hawdurdodi ac absenoldebau wedi’u hawdurdodi ar gyfer gwyliau teuluol, a gofynnodd faint o’r rhain oedd yn bobl sy’n aildroseddu?  Yn ôl yr hyn roedd yn ei ddeall, roedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo 10 diwrnod o wyliau a bod gwyliau yn rhatach yn ystod y tymor hyd yn oed os oedd rhieni wedi cynnwys y gosb ariannol hefyd.  Ategodd y Prif Swyddog y sylw hwn drwy ddweud ei fod yn anodd iawn, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, i blant ddal i fyny gyda’u haddysg ond roedd yr achosion o hyn yn digwydd yn amlach mewn ysgolion cynradd nag mewn ysgolion uwchradd. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr fod swyddogion yn gweithio gyda Phenaethiaid Ysgolion er mwyn rhoi hyder iddynt herio rheini. Roedd y sefyllfa yn wahanol os oedd plentyn yn absennol yn aml oherwydd salwch ond roedd Penaethiaid bellach yn gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth feddygol.

 

            Cytunodd y Prif Swyddog â sylwadau Mr Hytch ar chwarteli ond dywedodd fod hyn yn cyfrif am ganran fach. Hefyd, dywedodd ei bod hi wedi cyfarfod Penaethiaid i drafod cyllidebau ar gyfer pob math o anghenion. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod perthynas dda gyda chydweithwyr CAMHS ac roedd pob  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.