Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

17.

Cofnodion pdf icon PDF 231 KB

Pwrpas:        I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Mehefin 2019 a chofnodion y Cyd-gyfarfod o Gyfarfod Trosolwg a Craffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 25 Gorffennaf 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019.

 

Cywirdeb

 

Tudalen 6, Paragraff 3: Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r cofnodion gael eu diwygio fel eu bod yn dweud y canlynol:‘Dywedodd y Cynghorydd Mackie fod TGAU Lefel 2+ yn cael ei ystyried yn gyflawniad safon aur ond yn ôl StatsCymru mae canran y disgyblion sy’n cyrraedd y safon hwnnw ymhob sir yng ngogledd Cymru wedi gostwng rhwng 2013, pan gymerodd GwE’r awenau, a 2018. Dim ond tair sir arall sydd wedi gweld gostyngiad, mae 13 wedi gwella.Mae siroedd gogledd Cymru wedi gostwng 37 safle yn ystod yr amser hwnnw.Yn ystod cyfarfod mis Tachwedd 2018 dywedodd Cydbwyllgor GwE:“Mae Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd (Medi 2017) yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer datblygiadau rhanbarthol dros y tair blynedd nesaf.Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a oes modd i'r Pwyllgor weld y strategaeth honno, gan obeithio ei bod yn nodi newidiadau, targedau ac yn dangos cynnydd. 

 

Tudalen 7, Paragraff 4: Gofynnodd Mr David Hytch i’r frawddeg gyntaf gael ei diwygio fel ei bod yn dweud y canlynol: ‘Dywedodd y Cadeirydd bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran perfformiad y Gymraeg mewn ysgolion cynradd ond mynegodd bryderon ynghylch yr anawsterau wrth recriwtio ieithyddion cymwys i addysgu Cymraeg fel ail iaith yn ogystal â staff ar bob lefel sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg’.

 

 (ii)      Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019.           

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

18.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd wedi cael ei diweddaru ers y cyfarfod diwethaf ac ynghlwm wrth Atodiad 1. Tynnodd sylw at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2019.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol ac adroddodd ar y canlyniadau fel y manylwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad. Dywedodd bod adroddiad ar waith y Gwasanaeth Cerdd wedi cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel eitem i’w threfnu’n ddiweddarach yn y flwyddyn.    

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu cyfarfod y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, ac esboniodd fod llythyr wedi cael ei anfon at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor, ar gyfer yr Awdurdod ac ysgolion yn Sir y Fflint, ynghylch goblygiadau o ran adnoddau’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Dywedodd bod y Gweinidog wedi ymateb ac y byddai’n anfon copi o’r llythyr a anfonwyd gan y Cadeirydd a’r ymateb a dderbyniwyd at y Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Yn ogystal, cyflwynodd yr Hwylusydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu yn dilyn y pryderon a godwyd gan y Cydbwyllgor yngl?n â’r angen am adnoddau digonol  i ateb heriau lleoliadau y Tu Allan i’r Sir. Dywedodd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn nodi achos busnes yr Awdurdod ac yn gofyn am gyllid, ac y byddai’n anfon copi o’r llythyr at y Pwyllgor cyn gynted ag y byddai ar gael.

 

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyniad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac fe gadarnhaodd, yn dilyn cyfnod ymgynghori, fod Llywodraeth Cymru wedi oedi cyflwyniad y Ddeddf er mwyn darparu ar gyfer yr addasiadau angenrheidiol.  Rhagwelwyd y byddai’r Ddeddf nawr yn dod i rym yn 2021 ond roedd rhaid aros i weld  a fyddai cyllid ychwanegol i gynorthwyo â rhoi’r Ddeddf ar waith ar gael.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie a fyddai modd ychwanegu eitem ar Fformiwla Ariannu Ysgolion at Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor i’w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Ysgolion fod y Fformiwla Ariannu Ysgolion yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac ei fod yn cael ei adolygu’n flynyddol gyda’r Fforwm Cyllideb Ysgolion. Cytunodd i ddarparu adroddiad i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett ynghylch yr angen am gyllid digonol ar gyfer ysgolion, esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod ymgyrch gadarn wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru gan y Prif Weithredwr, Arweinydd y Cyngor, a Chymdeithasau eraill, i sicrhau bod llywodraeth leol yn derbyn rhan deg o unrhyw gyllid ychwanegol er mwyn ateb y pwysau ariannol o ddyfarniadau tâl athrawon a chyfraniadau pensiwn a hefyd yr angen am fuddsoddiad sylweddol mewn Addysg.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Fargen Dwf Gogledd Cymru a mynegodd bryderon ynghylch cysylltedd digidol  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Balansau Wrth Gefn Ysgol Blwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2019 pdf icon PDF 324 KB

Pwrpas:        I roi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cyfeiriodd at lefel cyffredinol cronfeydd wrth gefn ysgolion Sir y Fflint a oedd wedi cynyddu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd diffyg net ysgolion uwchradd yn gyffredinol wedi cynyddu o £0.169m (13.1%). Gosodwyd hyn yn erbyn cynnydd o £0.172m (7.2%) mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd a chynnydd o £0.057m mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion arbenigol. Roedd y dadansoddiad o’r balansau wrth gefn ar gyfer bob ysgol ar ddiwedd Mawrth 2019 ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod cyllidebau ysgolion uwchradd yn parhau i fod dan bwysau.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd gan 7 o’r 11 ysgol uwchradd yn Sir y Fflint ddiffygion o £1.879m. Roedd lefel y cronfeydd wrth gefn a gynhaliwyd gan ysgolion uwchradd gyda balansau cadarnhaol yn 1% o’r gyllideb a oedd yn amlygu pryderon yngl?n â gwydnwch ariannol y sector ysgol uwchradd yn Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Swyddog fod mesurau caledi parhaus a newidiadau i ddemograffeg yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol ac yn codi’r cwestiwn a oedd y fformiwla ariannu yn darparu adnoddau digonol i ysgolion uwchradd llai allu gweithredu’n gynaliadwy. Roedd y pwysau hyn ar gyllidebau ysgolion uwchradd i’w weld ar draws Cymru a Lloegr.

 

Wrth drafod sefyllfa ysgolion cynradd yn Sir y Fflint, dywedodd y Prif Swyddog bod balansau ysgolion cynradd wedi’u cynnal yn dda er gwaethaf pwysau caledi parhaus, fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai niferoedd disgyblion ysgolion cynradd yn gostwng ac y byddai hyn yn creu heriau ar gyfer Penaethiaid Ysgolion Cynradd wrth reoli’r gyllideb yn y dyfodol.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd 6 ysgol gynradd gyda balansau diffygiol, o gymharu â 3 ysgol gynradd yn y flwyddyn flaenorol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau’n gysylltiedig â balansau ysgolion, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd, ar y cyfan, bod gwerth y balansau dros ben yn ysgolion Sir y Fflint yn fwy na’r balansau diffygiol.  Esboniodd, yn ymarferol, bod balansau dros ben eisoes wedi’u hymrwymo gan ysgolion ar gyfer prosiectau penodol, neu ar gyfer ansicrwydd o ran cyllid a newidiadau o ran niferoedd disgyblion. Yn unol â’r Rheoliadau, roedd Cynllun Ariannu Ysgolion yr Awdurdod yn gofyn bod ysgolion yn cyflwyno cynllun gwariant yn dangos yr hyn yr oedd y corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud â balans yr ysgol a oedd yn fwy na therfynau penodol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog hefyd ar falensau diffygiol a dywedodd wrth i lefelau cyllid i ysgolion leihau oherwydd mesurau caledi a oedd yn wynebu llywodraeth leol roedd perygl y byddai mwy o ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol.Cyfeiriodd at Argymhelliad 4 yn Adroddiad Arolygu Estyn yn dilyn yr Arolwg diweddar o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod a dywedodd bod y Tîm Rheoli Portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r Tîm Cyllid Ysgolion wedi cytuno ar ystod o gamau gweithredu a fyddai’n ffurfio rhan o ymateb yr Awdurdod i  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Sir y Fflint pdf icon PDF 189 KB

Pwrpas:        Hysbysu'r Aelodau o ganlyniad yr Arolwg diweddar gan Estyn o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir Y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar ganlyniad yr Arolwg Estyn diweddar ar Wasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint. Dywedodd bod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn fodlon iawn â chanlyniad cadarnhaol yr Arolwg, natur gadarnhaol adroddiad Estyn, a’r meysydd sylweddol o gryfder a gydnabuwyd gan dîm Estyn o ran y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr yn Sir y Fflint. Cadarnhaodd yr adroddiad arolygu arweinyddiaeth gadarn y gwasanaethau addysg ar draws y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y meysydd yr oedd angen eu gwella ym marn Estyn wedi’u hadlewyrchu yn yr argymhellion yn yr adroddiad arolygu er mwyn i’r Cyngor fynd i’r afael â nhw. Esboniodd eu bod eisoes wedi’u nodi fel blaenoriaethau drwy brosesau hunanwerthuso’r Portffolio ac wedi’u cynnwys fel camau gweithredu yng Nghynllun Busnes y Portffolio (o’r enw Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg).  Byddai’r cynnydd o ran yr argymhellion yn cael ei adrodd i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn rheolaidd. Dywedodd y byddai adroddiad ar Gynllun Gweithredu Ôl Arolwg yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 7 Tachwedd.

 

                      Diolchodd y Prif Swyddog i’w thîm am eu gwaith caled ac am y gefnogaeth gan bawb yn ystod y broses arolygu. Dywedodd y bu’r Tîm Arolygu’n deg ond yn llym ac fe ategodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn falch iawn â’r canlyniad.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Ian Roberts ei ddiolch i’r Prif Swyddog a’i thîm, y Penaethiaid a phawb am eu gwaith caled a’r canlyniad cadarnhaol a oedd yn adlewyrchu safon y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu i ddysgwyr a phobl ifanc yn Sir y Fflint. 

 

                      Mynegodd y Cadeirydd longyfarchion i’r Prif Swyddog a’i thîm ar ran y Pwyllgor am eu cyflawniad a hefyd yr astudiaeth achos o Sir y Fflint a ddefnyddiwyd ar wefan Estyn i ddangos arferion effeithiol wrth ddatblygu dysgu cynnar.   

 

                      Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Geoff Collett ynghylch sgiliau bywyd disgyblion, dywedodd y Prif Swyddog y byddai model cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno a fyddai’n rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion, yn enwedig ar lefel ddiweddarach, i sicrhau bod y cwricwlwm yn eang ac yn diwallu anghenion dysgwyr unigol, gan symud oddi wrth enwi a chodi cywilydd ar ysgolion nad oedd yn cyflawni’r safon aur. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion y byddai Iechyd a Lles wedi'u pwysoli’n gyfartal â chyflawniadau academaidd yn y cwricwlwm newydd.

 

                      Soniodd y Cadeirydd am y materion a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor ynghylch canlyniadau TGAU Iaith Saesneg yn yr haf 2018 a’r eithriadau wrth osod ffiniau graddau. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion fod y newidiadau o ran ffiniau graddau wedi cael eu trafod yn ystod cyfarfod diweddar Ffederasiwn y Prifathrawon ond nid oedd y materion a brofwyd y llynedd yn dod i’r amlwg eto eleni. Cafwyd sicrwydd gan CBAC fod y safonau yr un fath ar draws yr holl fyrddau arholi a bod y mater hwn yn cael ei fonitro’n agos. 

 

Soniodd Mr David Hytch am reoli perfformiad a diffyg cyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Presenoldeb a Gwaharddiadau Ysgol pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Darparu adroddiad i’r aelodau ar berfformiad y portffolio o ran presenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer 2017-18; trosolwg o’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg ac amserlen ddiwygiedig ar gyfer adrodd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) adroddiad ar berfformiad y portffolio o ran presenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer 2017-18; trosolwg o’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg ac amserlen ddiwygiedig ar gyfer adrodd yn y dyfodol. Dywedodd y byddai’r fformat diwygiedig yn sicrhau bod gan yr Aelodau’r cyfle i ystyried a chwestiynu’r data a byddai hyn yn cefnogi monitro pellach o gynnydd yn erbyn yr argymhellion o’r arolygiad Estyn diweddar yn ymwneud â phresenoldeb a gwaharddiadau.

 

Esboniodd yr Uwch Reolwr bod presenoldeb ar draws ysgolion Sir y Fflint yn dangos tuedd gyffredinol o leihad, gyda salwch yn gyfrifol am y mwyafrif o absenoldebau. Roedd y lefelau o absenoliaeth parhaus yn gymharol uchel. Yn unol â’r tueddiadau cenedlaethol, roedd y lefelau o waharddiadau parhaol a chyfnod penodol yn cynyddu, yn enwedig o fewn ysgolion uwchradd.

 

Cododd y Cynghorydd Dave Mackie sawl pwynt yngl?n â chysondeb a fformat y data ar bresenoldeb yn y tablau yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Soniodd am waharddiadau a phwysleisiodd yr angen i ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn eu cadw ym myd addysg a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar weddill bywyd plentyn. Siaradodd am yr angen i ddarparu cyllid digonol i ysgolion i gefnogi’r ddarpariaeth honno. Cytunodd yr Uwch Reolwr i ddiwygio fformat y data a gyflwynwyd yn y tablau ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol ac fe ymatebodd i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie. Cyfeiriodd hefyd at bwrpas gwaharddiadau a soniodd am y gwaith a wnaed gan ysgolion i sicrhau creadigrwydd wrth ddefnyddio cosbau. Dywedodd bod cyllid yn broblem fawr o ran sut y gallai ysgolion fod mor effeithiol a chefnogol ag yr oeddent yn dymuno bod wrth ymdrin ag ymddygiad amhriodol. 

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai’r Awdurdod yn cyflwyno cais am gyllid grant ar gyfer iechyd meddwl a byddai modd ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant a phecynnau unigol i gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc.  Soniodd hefyd am yr angen i weithio’n agos â’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod y systemau a’r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan ysgolion mor effeithiol â phosibl. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad ysgolion unigol gan Estyn yn nodi bod ymddygiad disgyblion yn ysgolion Sir y Fflint yn dda. Fodd bynnag, roedd angen cydnabod bod pobl ifanc yn fwyfwy agored i faterion yn ymwneud â chyffuriau a’r effaith yr oedd profiadau anodd yn ystod plentyndod yn ei gael ar blant. I gloi, soniodd y Prif Swyddog am yr angen am ymyrraeth arbenigol a dywedodd bod “plentyn wedi’i wahardd yn blentyn mewn perygl”. Dywedodd bod disgwyl i ysgolion wneud y penderfyniad i wahardd disgybl yn ofalus iawn ac ystyried a oedd dewis arall i ymdrin â’r mater ar yr pryd. 

 

Fe soniodd Mr David Hytch am absenoldebau anawdurdodedig yn ystod y tymor.  Roedd yr Uwch Reolwr yn cydnabod y pwyntiau a godwyd a dywedodd y byddai ysgolion yn cael eu herio yngl?n â lefel yr absenoldeb y maent yn ei awdurdodi, a allai arwain at lefel gynyddol o  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 305 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad cynnydd diwedd blwyddyn 2018/19 ar Gynllun y Cyngor  ar gyfer 2018/23  gan ddarparu dadansoddiad o’r flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. 

 

Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol gyda 92% o’r gweithgareddau wedi gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% ar y trywydd cywir, roedd 20% yn cael eu monitro a 10% wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%), mân risgiau (14%) neu’n risgiau ansylweddol (11%). 

 

Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalennau 98 a 99 yr adroddiad, IP 3.1.1.6 ac IP 3.1.1.7, a dywedodd nad oedd unrhyw ddata wedi’i ddarparu ar gyfer y flwyddyn wirioneddol. Cyfeiriodd hefyd at dudalen 103, IP 3.1.6.1, a dywedodd nad oedd data ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Darparodd y swyddogion eglurhad ynghylch y dadansoddiad a gyflwynwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

23.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.