Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

34.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Roedd disgyblion a chynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Argoed yn bresennol i arsylwi’r cyfarfod ac ar ran y Pwyllgor croesawodd y Cadeirydd hwy i’r cyfarfod.

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

36.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllido Addysg, gan gynnwys manylion am grantiau penodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar sefyllfa gyllido ddiweddaraf y Gwasanaethau Addysg wrth i ni ddynesu at gamau olaf y broses o bennu’r gyllideb ar gyfer 2019/20. Er bod rhywfaint o welliant o gymharu â’r rhagolwg gwreiddiol, mae Setliad Terfynol y Llywodraeth Leol yn dal yn annigonol i fodloni gofynion cyllido'r Cyngor.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod nifer o wasanaethau addysg yn dibynnu ar gyllid grant, sy’n mynd yn llai pob blwyddyn. Mae adolygiad cynhwysfawr o gyllidebau wedi dangos nad oes lle i wneud rhagor o arbedion na’r rheiny sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad heb beryglu cadernid gwasanaethau’r Cyngor a safonau ysgolion. Gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gost gweithredu’r dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer 2019/20, mae’r Cyngor wedi gwneud darpariaeth i godi’r sylfaen gyllido i gwrdd â chynnydd o 1%, gyda’r ysgolion yn amsugno’r balans sy’n weddill. Rhagwelir pwysau pellach o ran costau i ysgolion ym mis Medi 2019 pan fydd dyfarniad cyflog arall yn ddyledus. Yn ychwanegol, nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd o ran a fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ategol i gefnogi’r cynnydd ym mhensiynau athrawon, a amcangyfrifir i fod yn risg pellach o dros £2 filiwn.

 

Yn ystod proses y gyllideb, mae’r risg o ran yr effaith ar wasanaethau a safonau wedi’i chodi gyda Gweinidogion. Mae ymgysylltu helaeth wedi’i wneud gydag ysgolion a phartneriaid ar gyfrifoldebau a rennir ac mae’r ddeialog agored hon wedi’i chroesawu.

 

Soniodd y Cyng. Shotton am drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach yr wythnos honno lle amlygwyd effaith y pwysau ariannol hwn ar wasanaethau. Er y croesawir y dyfarniadau cyflog uwch i athrawon a staff ysgol, ni chydnabyddir y pwysau hwn yn llawn gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU. I gynorthwyo ysgolion gyda’r pwysau ariannol canol blwyddyn hyn, argymhellir bod y Cyngor Sir yn codi cyllideb ddirprwyedig ysgolion 2.47%. O ran cynyddu pensiynau athrawon, awgrymodd y Cyng. Shotton y dylai Aelodau ystyried cysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i dderbyn sicrwydd drwy Drysorlys y DU bod cyllid ar ddod.

 

Croesawodd y Cyng. Heesom y diweddariad hwn yn barod ar gyfer y drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Chwefror. Dywedodd pa mor bwysig yw cyllid i gefnogi darpariaethau chweched dosbarth yn y sir. Dywedodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid nad oes gwybodaeth wedi’i derbyn gan Lywodraeth Cymru eto o ran cyllid grant ar gyfer addysg ôl-16 yn 2019/20 a dywedodd y bydd gwasanaeth rhanbarthol GwE yn dyrannu’r cyllid Grant Gwella Addysg. Wrth fynd i gyfarfodydd cenedlaethol a rhanbarthol mae swyddogion yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd derbyn gwybodaeth ariannol yn amserol er mwyn galluogi’r Cyngor ac ysgolion i gynllunio’n effeithiol.

 

Dywedodd David Hÿtch nad yw’r dyfarniad cyflog cenedlaethol sydd wedi’i osod gan Lywodraeth y DU yn helpu i recriwtio a chadw staff ysgol, sy’n broblem ar draws y DU. Roedd yn croesawu’r cynnydd ond mynegodd bryderon ynghylch gallu ysgolion i amsugno’r costau ychwanegol, yn enwedig oherwydd nifer yr ysgolion uwchradd sydd eisoes mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol. Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar gynnydd y Cyngor o ran y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i gyrraedd y targedau a chyflawni’r amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wella safonau cyrhaeddiad disgyblion Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.

 

Mae fforwm amlasiantaethol yn gyfrifol am fonitro a gweithredu’r cynllun hwn, ac mae Sian Hilton yn darparu capasiti ychwanegol dros dro yn y Cyngor. Mae’r fforwm yn adolygu cynnydd tri is-gr?p sy’n canolbwyntio ar safonau, y ddarpariaeth a’r gweithlu. Fel rhan o’r adroddiad, tynnwyd sylw at lwyddiant y Cyngor wrth ddenu buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfradd ymyrraeth o 100% i gynyddu capasiti Ysgol Glanrafon a darparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar cofleidiol. Amlygwyd nifer o lwyddiannau allweddol wrth gyrraedd targedau Llywodraethu Cymru ar gyfer 2018-19.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y cynnydd hyd yma.

 

Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Fforwm, siaradodd y Cyng. Roberts am ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo addysg plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac i ddatblygu dwyieithrwydd mewn ysgolion Saesneg. Cyfeiriodd at effaith gadarnhaol yr Urdd o ran annog pobl ifanc i gystadlu drwy gyfrwng y Gymraeg a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu’r iaith y tu allan i’r ysgol/gweithle. Dywedodd y byddai’n rhaid cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Sir y Fflint er mwyn cyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Aeth ymlaen i ganmol Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon am ganlyniadau ei harolwg Estyn diweddar.

 

Yn dilyn pryderon Rebecca Stark ynghylch y seilwaith ffordd o gwmpas Ysgol Glanrafon, cynghorodd y Prif Swyddog fod swyddogion yn ymwybodol o’r problemau ac y bydd asesiad o effaith traffig yn ystyried rheoli llif y traffig a diogelwch disgyblion.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cyng. Smith, dywedodd y Cyng. Roberts a’r Prif Swyddog fod sylwadau wedi’u gwneud ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer twf a datblygiad ysgolion Cymraeg llai wrth iddynt gael eu sefydlu.

 

Tra bod David Hÿtch yn croesawu canlyniadau cadarnhaol dysgwyr ail iaith mewn ysgolion Saesneg, roedd yn pryderu ynghylch effaith y newidiadau pellach yn y cwricwlwm ar ysgolion uwchradd Saesneg.

 

Roedd Rebecca Stark hefyd yn teimlo y gall y lleihad mewn dewisiadau Cymraeg yn yr ysgol uwchradd arwain at ddisgyblion yn dewis peidio ag astudio iaith arall.

 

Galwodd y Cyng. Gladys Healey ar ddiwydiannau i wneud mwy i gynnwys y Gymraeg yn y gweithle.

 

Dyfynnodd y Cyng. Mackie o adroddiad a oedd yn amlygu’r anawsterau a brofir gan ysgolion uwchradd wrth recriwtio athrawon sy’n medru’r Gymraeg.

 

Roedd y Cyng. Jones yn croesawu’r cynnydd wrth weithredu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a soniodd am dwf y Gymraeg mewn ardaloedd trefol. Diolchodd i’r Aelodau am gymryd rhan yn yr arolwg diweddar a gynhaliwyd ar draws y Cyngor, a oedd yn dangos cynnydd o ran y Gymraeg.

 

Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod pryderon megis effaith llai o ddewisiadau ar gyfer disgyblion a’r buddsoddiad sydd  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Dysgu o'r Grwp Monitro Perfformiad Ysgol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Rhoi sicrwydd i Aelodau ynghylch  prosesau monitro perfformiad ysgolion.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor am waith y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion sy’n fecanwaith ar gyfer cefnogi gwelliant mewn ysgolion.

 

Mae dull y gr?p hwn yn cynnwys darparu proses adeiladol a chadarn i nodi – gydag ysgolion - unrhyw faes sydd angen cefnogaeth i’w wella. Mae nifer yr ysgolion sy’n rhan o’r broses wedi lleihau’n sylweddol. Mae rhestr o themâu cyffredin wedi amlygu meysydd allweddol y gall gwasanaeth rhanbarthol GwE ymateb iddynt a thargedu cefnogaeth yn briodol; dau ohonynt yw ansawdd arweinyddiaeth ganol ar lefel uwchradd a thracio perfformiad disgyblion.

 

Bu i’r Cadeirydd longyfarch yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion am ei phenodiad a chanmol y cynnydd sydd wedi’i wneud.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cyng. Heesom ar gyfansoddiad y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol, eglurwyd bod yr aelodaeth wedi bod drwy wahoddiad agored. Croesawir Aelodau sy’n mynegi diddordeb mewn ymuno â'r gr?p, gan gynnwys y Cyng. Heesom sy’n dymuno cynrychioli ei ardal.

 

Er y cydnabyddir pwysigrwydd gwella ysgolion, dywedodd David Hÿtch y dylid rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi yn hytrach na herio, oherwydd y pwysau amrywiol sydd ar ysgolion. Siaradodd y Prif Swyddog am ei chyfrifoldeb statudol dros safonau addysg er lles dysgwyr. Dywedodd fod sawl rheswm pam bod ysgolion yn mynd i drafferthion a bod her a chefnogaeth yn angenrheidiol i ddeall y rhesymau a gweithio’n effeithiol gyda GwE i dargedu cefnogaeth. Mae’r adborth gan ysgolion sy’n mynd drwy’r broses wedi bod yn gadarnhaol ac fe gynhelir cyfarfodydd mewn modd proffesiynol sy’n cynnwys Ymgynghorwyr Gwella Ysgol.

 

Ar ôl bod yn rhan o’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol, roedd Rebecca Stark yn teimlo bod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol o ran nodi'r gefnogaeth sydd ei hangen.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi gwaith y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol wrth iddo barhau i weithio yn yr un modd gyda'r ysgolion sydd wedi’u targedu.

39.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn y drafodaeth a gafwyd yn gynharach, y bydd adroddiad ar leoliadau y tu allan i'r sir yn cael ei gyflwyno i gyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 7 Mehefin 2019.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau am weithdai Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ysgolion (12 Ebrill am 2pm) a Darpariaeth Addysg Ôl-16 ac Ymgynghoriad Ynghylch Cludiant Ôl-16 (11 Chwefror am 2pm). O ran yr olaf, gofynnodd y Cyng. Williams am sicrhau bod gwybodaeth ar gael am y cyrsiau, fel y gofynnwyd eisoes.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a

 

 (b)      Awdurdodi’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

40.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a 15 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.