Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

5.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Collett, Dunbobbin a Kevin Hughes gysylltiad personol ag Eitem 5 ar y Rhaglen: ‘Moderneiddio Ysgolion’ oherwydd eu bod yn llywodraethwyr ysgol.

 

Yn dilyn cyngor gan swyddogion, datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol â’r un eitem oherwydd ei fod yn aelod o’r tîm ymgyrchu i atal cyfuno ysgolion Licswm a Brynffordd.

6.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) ar 12 Ebrill 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod 12 Ebrill 2018.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 46: Gwasanaethau Ieuenctid Integredig - Atgoffodd y Cynghorydd Heesom y Prif Swyddog Dros Dro bod angen iddi gyfarfod ag o i drafod ei bryderon ynghylch darpariaeth ehangach y gwasanaethau ieuenctid trwy’r Sir, gan ychwanegu  na chafodd ei awgrymiad ar gyfer gweithdy ei ddatblygu. Wrth gofio’r drafodaeth, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno i wahodd y Cyngor Ieuenctid i drafod y problemau ac adrodd yn ôl. Cadarnhawyd hyn gan yr Hwylusydd a eglurodd nad oedd y Pwyllgor wedi cytuno i’r awgrym fel rhan o’i benderfyniadau. Yna, cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at yr angen am broses briodol i ymgynghori â phobl ifanc. 

 

Ar destun yr un eitem, gofynnodd y Cynghorydd Dunbobbin fod y cofnodion yn cynrychioli ei sylwadau o blaid ymgyrch Gwasanaeth Ategol Plant mewn Addysg (SSCE) dros bremiwm plant-ddisgyblion y lluoedd arfog y bu o mewn seminar yn ei gylch yng Nghaerdydd ynghynt yn y mis.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ganmol y Cyngor Ieuenctid ar ei ymateb i’r datganiad diweddar gan Airbus.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’r Cadeirydd i’w llofnodi, ar yr amod y gwneir yr addasiad gan y Cynghorydd Dunbobbin.

7.

Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gael diweddariad ar gynnydd o ran  datblygu gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, a diweddariad ar sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) y diweddariad gan GwE yn cynnwys adroddiad blynyddol 2017/18 yn nodi cryfderau’r safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth yn ogystal â meysydd i wella a datblygu.

 

Croesawodd y Pwyllgor gynrychiolwyr GwE, Arwyn Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Alwyn Jones, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, a draddododd gyflwyniad yn trafod y canlynol:

 

·         Taith Diwygiadau Cymru

·         Atebolrwydd

·         Tuag at system addysg sy’n hunan-wella

·         Llwyddiannau

·         Heriau

 

Yn ystod y cyflwyniad, rhannwyd gwybodaeth am waith paratoi ar gyfer y diwygiad addysg o ran datblygu cwricwlwm newydd gyda ffocws lleol yn hytrach na chenedlaethol a newid yn y diwylliant er mwyn cynorthwyo yn hytrach na herio ysgolion. Gwnaed cynnig i gyflwyno gweithdy i Aelodau yn yr hydref i egluro’r camau nesaf er mwyn eu helpu i ddeall y newidiadau sydd ar y gorwel.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cunningham ynghylch trefniadau llywodraethu, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod atebolrwydd rhanbarthol a lleol ar ffurf cydbwyllgor GwE (yn cynnwys cynrychiolwyr gan y chwe awdurdod lleol) a chyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr GwE a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Amlygodd bwysigrwydd sianelau cyfathrebu effeithiol er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn derbyn cymorth priodol a chyfeiriodd at gynlluniau busnes yn gosod manylion y cynnig ar gyfer pob awdurdod lleol yn y rhanbarth.

 

Holodd Rebecca Stark am amserlenni i ddangos sut y deuai wyth elfen y diwygiad addysg ynghyd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y cerrig milltir wedi eu pennu ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf ac y defnyddid dull graddol i baratoi ar gyfer y diwygiadau, mewn trafodaeth â Llywodraeth Cymru (LlC). Byddai’r amserlenni’n cael eu rhannu fesul clwstwr gyda’r bwriad bod pob partner yn cyrraedd yr un cam yr un pryd. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro y gellid rhoi’r amserlenni wedi eu cyhoeddi gan LlC ar gael i Aelodau a rhoddodd eglurdeb ynghylch amserlenni eraill ym maes gwaith yr awdurdodau lleol. Yn ymateb i bryderon ynghylch adnoddau ar gael yn fuan, cydnabu’r Rheolwr Gyfarwyddwr fod rhai deunyddiau’n araf deg yn dod ar gael ac y byddai’r paratoadau’n helpu i wneud y system rywfaint yn fwy cyson. Dywedodd Rebecca Stark am yr angen am arian i helpu ysgolion i weithredu’r newidiadau, yn arbennig yn y sector uwchradd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod sylwadau’n cael eu cyflwyno i LlC yn gofyn am arian i gefnogi ysgolion i ddod yn barod am y diwygiad a chyfeiriodd at y cynnydd posibl yn nifer y dyddiau hyfforddi ar gyfer athrawon er mwyn helpu ysgolion. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro o blaid y dull hwn oherwydd bod ysgolion eisoes wedi ymdopi â, a thrin pwysau ariannol a dywedodd bod rhywfaint o obaith y ceid arian gan Lywodraeth y DU. 

 

Bu i Lynn Bartlett groesawu’r ffocws ar gymorth i ysgolion ond dywedodd fod angen arian i gynorthwyo cydweithio rhwng ysgolion. Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am bwysigrwydd cyfeirio arian at glystyrau i roi’r gallu i’r ysgolion hynny wneud eu penderfyniadau allweddol eu hunain. Yn ymateb i sylwadau eraill, siaradodd am ragor o ffocws ar les fel rhan  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Item 4 - GwE presentation pdf icon PDF 669 KB

8.

Moderneiddio Ysgolion pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Diweddaru Aelodau ar gynnydd Moderneiddio Ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth gyflwyniad ar ddiweddariadau’r cynnydd o ran y rhaglen Moderneiddio Ysgolion a’r ffrydiau ariannu Grant Cyfalaf newydd sydd ar gael trwy Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn trosolwg ar y cynnydd o ran rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif, dywedodd eu bod yn dal i aros am benderfyniadau LlC ar y cais am Grant Maint Dosbarth Babanod ar gyfer Ysgol Glan Aber ac ar y cais am grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg ar gyfer Ysgol Glanrafon. Roeddent hefyd yn dal i aros am gadarnhad ynghylch y Grant Cyfalaf Blynyddoedd Cynnar ynghyd â’r meini prawf cymhwyso.

 

Soniodd y Cynghorydd Heesom am yr angen i ysgolion trwy’r Sir gael eu hystyried yn gydradd am wella adeiladau, yn arbennig Bryn Pennant ym Mostyn, sy’n ehangu ac mae angen trwsio’r to. Nododd yr Uwch Reolwr hyn a dywedodd fod ysgolion lle mae problemau o ran eu cyflwr wedi’u cofnodi ar restr a’u bod yn cael sylw pan mae arian ar gael. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom hefyd am newyddion ar Ysgol Mornant yn Picton.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Williams at fuddsoddiad yn Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gofyn am eitem yn y dyfodol ar gyrsiau sydd ar gael, cymwysterau lefel mynediad, niferoedd y myfyrwyr a’r rhai sy’n rhoi’r ffidil yn y to. Gofynnodd am ehangu capasiti yn y dyfodol yn Ysgol Uwchradd Castell Alun oherwydd nifer y datblygiadau tai sydd yn yr ardaloedd cyfagos. Dywedwyd bod y rhaglen yn hyblyg er mwyn gallu cynyddu’r capasiti ac y rhoddid cipolwg ar y cynnydd presennol mewn eitem Derbyniadau Ysgol yn hwyrach yn y flwyddyn. Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad i’r Cynghorydd Williams ar waith yn Ysgol Penyffordd a dywedodd yr eir i’r afael â materion a gododd yr ysgol ynghylch traffig trwy gyfrwng y cyfarfodydd rheolaidd.  

 

Wrth sôn am benderfyniad y Cabinet ar Ysgolion Licswm a Brynffordd, awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones y gellir ystyried yr opsiynau ar gyfer ehangu Brynffordd yn ysgol â defnydd neuadd bentref ar y cyd, a gallai hyn ddenu arian grant gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod angen cynorthwyo Ysgol Mornant lle’r oedd y gymuned yn buddsoddi yn y Gymraeg a dywedodd y gallai cysylltu â’r cymunedau arwain at ddod o hyd i ddull sy’n rhoi’r gallu i’r ddwy ochr gyrraedd eu hamcanion.

 

Eglurodd y Cynghorydd Roberts mai sail penderfyniad y Cabinet oedd graddfa’r cymorth i gynnal addysg yn y cymunedau hyn. Gobeithid y gallai’r Cyngor weithio â’r cymunedau hyn i greu ffederasiwn llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a chynnydd y cynllun Moderneiddio Ysgolion; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r ceisiadau am ragor o wybodaeth a’r buddsoddi pellach y soniodd yr Aelodau amdano.

9.

Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro adroddiad cynnydd diwedd y flwyddyn 2017/18 ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23, yn rhoi dadansoddiad ar flaenoriaeth y ‘Cyngor sy’n Dysgu’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Atgoffodd yr Hwylusydd yr Aelodau am y gweithdy sydd ar y gorwel a fydd yn helpu i ddeall adrodd ar berfformiad. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Mackie i drafod ar wahân ag Aelodau nifer o eitemau yn yr adroddiad blaenorol nad ydynt yn y diweddariad hwn. Holodd ynghylch y dyddiad terfyn ar gyfer cam gweithredu 3.1.1.2 ar wella sgiliau y dangosid ei fod wedi ei gwblhau 50% a holodd a ddylai’r sgôr risg ar gapasiti arweinyddiaeth i beidio ag ateb anghenion ysgolion fod yn Goch i gyfateb i’r anhawster wrth recriwtio athrawon rhai pynciau. 

 

Ar y pwynt diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn ymwybodol o’r problemau cyflenwi athrawon a chrybwyllodd nifer o opsiynau amrywiol i fynd i’r afael â hyn yn cynnwys manteision athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn cyflenwi yng Nghyfnod Allweddol 3. Dywedodd am yr angen i ysgolion weithio mewn partneriaeth â hyfforddwyr a chroesawodd y bartneriaeth hyfforddi athrawon newydd rhwng Prifysgolion Bangor a Chaer.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro fod rhai mesurau wedi eu haddasu i ddod yn fwy penodol trwy’r holl bortffolios. Dywedodd er nad oedd problemau mawr wrth recriwtio Penaethiaid yn Sir y Fflint, canfu problemau mewn rhai ysgolion wrth recriwtio haen ganol y tîm arwain. Fel ffordd ymlaen, awgrymodd ymgysylltu ag ysgolion trwy Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd i ddarganfod pa rai yw’r pwyntiau pwysau. Yna gellid adrodd trosolwg ar ganlyniadau dienw yn ôl wrth y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mackie hyn ac awgrymu ailadrodd yr ymarfer er mwyn gallu adnabod tueddiadau dros amser. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro yr eid i’r afael â phroblemau parhaus ag ysgolion unigolion trwy rolau cynghori a gweithdrefnau monitro ysgolion.

 

Dywedodd yr Hwylusydd y cytunodd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg ar Adnoddau Corfforaethol mewn cyfarfod yn ddiweddar i aros am y cynllun gweithredu i fynd i’r afael â meysydd lle mae tan-berfformio gyda sgôr risg Coch ac Oren a thuedd o berfformiadau’n gwaethygu.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod ansicrwydd arian grant yn bryder barhaus. Bu iddi groesawu penderfyniadau allweddol gan Weinidogion ar ailgyflwyno’r Grant Gwisg Ysgol ar gyfer Blwyddyn 1 a Blwyddyn 7 a dyfarnu’r Grant Llwyddiant y Lleiafrifoedd i Sir y Fflint yn dilyn lobïo lwyddiannus. Nid oedd eglurder ar arian grant ar gyfer ysgolion bychain a gwledig ac roedd swyddogion yn parhau i gyflwyno achos i LlC ar bwysigrwydd rhannu gwybodaeth ynghynt er mwyn gallu cynllunio.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes bod Aelodau’n ymgysylltu ag ysgolion i annog rhieni i ailgylchu gwisgoedd ysgol disgyblion.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion a’i dîm am y gwaith a wnaethant i gyflwyno’r adroddiad diweddar i’r Cabinet ar foderneiddio ysgolion.  

 

Yn dilyn sylwadau gan David Hÿtch ar gynyddu’r ganran bresenoldeb trwy bortffolio’r Unedau Atgyfeirio Disgyblion, cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at yr  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried, cyfeiriodd yr Hwylusydd at awgrym yn y cyfarfod blaenorol am weithdy ar y ddarpariaeth ôl-16 a oedd wedi ei threfnu ar gyfer ar ôl cyfarfod mis Medi. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am wahodd aelodau Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy i’r gweithdy.

 

Siaradodd y Cynghorydd Kevin Hughes am bwysigrwydd mynd i’r afael â thlodi’r mislif oherwydd pryderon ynghylch nifer y merched ifainc nad ydynt yn gallu fforddio cynnyrch hylendid. Dywedodd ei bod yn hanfodol bod ysgolion yn cynnig cymorth trwy gadw cyflenwad am ddim ac yn penodi pwynt cyswllt benywaidd. Aeth ati i gyfeirio at arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem hon ac i wella cyfleusterau mewn ysgolion.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog Dros Dro y mater cenedlaethol hwn a oedd hefyd yn effeithio ar ffigyrau presenoldeb ysgolion ac eglurodd fod gr?p llywio wedi ei sefydlu i adolygu a ffurfioli trefniadau mewn ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint y mae gan bob un gyflenwad o gynnyrch ar gael. Roedd ystod o weithgareddau’n cael eu gweithredu yn cynnwys datblygu mecanwaith adrodd corfforaethol (ar y cyd â’r tîm Cyfranogiad Ieuenctid) i sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu’n gywir a bod y Cyngor Ieuenctid yn cael ei gynnwys er mwyn helpu i hyrwyddo’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael. Er mwyn gwneud y gorau o’r arian grant, roedd opsiynau eraill yn cael eu trafod â gwneuthurwyr cynnyrch ac awdurdodau cyfagos i gael gwerth am arian.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r Cynghorydd Hughes am grybwyll y pwnc ac i’r Cyngor am bennu camau gweithredu.

 

Yn dilyn ymholiad gan David Hÿtch, dywedodd yr Hwylusydd fod yr adroddiadau gwybodaeth am losgi, fandaliaeth a lladrata yn Sir y Fflint yn cael eu trin gan y swyddog perthnasol.

Awgrymodd y Cynghorydd Roberts i’r diweddariad cynnydd blynyddol nesaf gan GwE fod yn eitem ar wahân mewn cyfarfod arbennig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r dyfodol fel y’i haddaswyd; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, wrth Ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng y cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

11.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yno.