Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

33.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

34.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 309 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer y gyllideb a phwysau costau ar gyfer Addysg ac Ieuenctid ar ôl cwblhau'r gwaith sydd ar y gweill ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a phenderfyniad cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC).   Roedd LlC wedi cadarnhau’n ddiweddar y byddent yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru ar 16 Rhagfyr gyda Setliad Dros Dro yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod.   Byddai cwblhau’r broses o osod y gyllideb yn gyfrifoldeb ar gyfer y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Ionawr – Mawrth.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid)  Arbedion Effeithlonrwydd arfaethedig Cynllun Busnes y Portffolio, fel y nodwyd yn yr adroddiad ac egluro bod cyllidebau wedi'u gostwng cymaint ag sy'n ddiogel er mwyn diogelu cyllidebau dirprwyedig ysgolion.     

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon o ran unrhyw gynnydd yn y tybiaethau gweithiol ar Dreth y Cyngor ac roedd yn teimlo y byddai'n annerbyniol cynyddu Treth y Cyngor yn uwch na 5%.   Awgrymodd bod dewisiadau effeithlonrwydd pellach yn cael eu harchwilio a bod Aelodau’n derbyn cynllun gwariant portffolio er mwyn dadansoddi a deall cyllidebau portffolio yn well.   Gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth ar y pwysau sy’n cael ei achosi gan ddiffygion ariannol ym malansau ysgolion.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol na fyddai unrhyw arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn cael eu ceisio o bortffolios ac na fu ceisiadau newydd gan Aelodau i ystyried meysydd newydd o arbedion effeithlonrwydd.   Eglurodd Rheolwr Cyllid Addysg mai un o'r pwysau mwyaf sylweddol ar gyllideb ysgol oedd cyflwyno Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan fod hyn yn ei gwneud yn ofynnol fod gan ysgolion adnoddau ychwanegol i gefnogi disgyblion gydag ADY.   Amlinellodd hefyd y pwysau ar gyllidebau ysgol yn dilyn Dyfarniad Cyflog Athrawon na fyddai’n cael ei ariannu’n llawn.  

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr.David Hytch, eglurodd y Prif Swyddog, nad oedd yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn y Gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn golygu colli swydd swyddog ac y byddai'r cyllid ychwanegol a nodwyd ar gyfer y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn gymorth i atgyfnerthu'r strwythur rheoli drwy benodi i swydd Uwch Reolwr.  

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones am adolygiad actiwaraidd o Gronfa Bensiynau Clwyd, eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod yr adolygiad bron â’i gwblhau.   Rhagwelir y byddai gostyngiad yn y swm a delir gan y Cyngor o oddeutu £2m.  

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at yr heriau y mae ysgolion uwchradd sydd â diffyg yn eu cyllidebau yn eu hwynebu a gofyn a oedd ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi i archwilio a oes modd canfod rhagor o arbedion effeithlonrwydd.   Nododd hefyd y rhaglen 'Mockingbird’ gan egluro ei fod yn enghraifft dda o atgyfnerthu darpariaeth mewn modd sy'n effeithlon yn ariannol.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyfer ysgolion sy'n profi anawsterau ariannol.   Amlinellodd y Cytundeb Diffyg Trwyddedig ar gyfer ysgolion gyda diffyg yn y gyllideb ac adrodd bod adolygiad o’r Cytundeb wedi’i gynnal yn ddiweddar gyda fersiwn  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 294 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) grynodeb o gynnydd ar berfformiad yng Nghynllun y Cyngor ar bwynt canol blwyddyn 2019/20, sy'n berthnasol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.   Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriad ac yn canolbwyntio ar feysydd sy’n tanberfformio, gyda’r Prif Swyddog yn darparu gwybodaeth fanwl ar y meysydd canlynol:-

 

·         Mynediad at gynnyrch ar gyfer mislif mewn ysgolion; a

·         Chyllid cyfyngedig i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio hysbys a gwaith cynnal a chadw asedau Addysg ac Ieuenctid.

           

Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i ddarparu cynnyrch ar gyfer mislif y gellir ei ailddefnyddio, felly roedd angen newid yn ystod y broses gaffael.   Roedd hyn wedi’i ddatrys a rhagwelir y byddai’r targed yn cael ei ddiwallu erbyn diwedd y flwyddyn.   Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o drafodaethau blaenorol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gostyngiad mewn cyllid i ysgolion a’r effaith yr oedd hyn yn ei gael ar gyllideb atgyweiriadau a chynnal a chadw.   Roedd sylwadau’n cael eu cyflwyno gan Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg a’r Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion bod Awdurdodau Lleol yn derbyn cyllid ychwanegol i fynd i'r afael ag atgyweiriadau a chynnal a chadw adeiladau ysgolion.   

 

            Holodd y Cynghorydd Heesom pam fod rhannau o thema Cyngor Uchelgeisiol Cynllun y Cyngor yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor hwn.   Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog yn ystod adolygiad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 teimlwyd y dylai Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif fod o dan thema Cyngor Uchelgeisiol ac felly byddent yn parhau i gael eu hadrodd i’r pwyllgor hwn.   Roedd creu un Gwasanaeth Archifau ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf, hefyd yn rhan o thema Cyngor Uchelgeisiol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y cam gweithredu bod staff addysgu yn derbyn datblygiad proffesiynol o ansawdd drwy’r system hunanwerthuso a oedd yn dangos statws COG ‘melyn' a holi pam fod y statws yn 'felyn' ac a ellir darparu diweddariad cynnydd.   Mewn ymateb atgoffodd y Prif Swyddog y Pwyllgor yngl?n â chyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru a fyddai’n cael ei weithredu erbyn 2022 ac egluro bod y cam gweithredu i gefnogi staff addysgu yn parhau i fod yn risg er mwyn sicrhau bod safonau mewn ysgolion yn cael eu diogelu.   GwE oedd wedi darparu mwyafrif yr hyfforddiant ac roedd holl ysgolion Sir y Fflint wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn symud ymlaen yn dda â’r hyfforddiant drwy weithio ar y cyd.   Awgrymwyd bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor tuag at ddiwedd tymor yr haf i nodi pa waith oedd wedi’i gyflawni.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mackie y newidiadau canlynol o ran camau gweithredu a risgiau a nodwyd yn atodiadau'r adroddiad:-

 

  • 3.1.4.1 (CP) Newid polisi wedi’i gytuno erbyn chwarter un a gweithredu polisi diwygiedig a chynaliadwy – angen teitl cliriach ar gyfer y cam gweithredu.
  • 1.5.6.4 (CP) Perfformiad wedi’i fesur gan ddefnyddio mesurydd perfformiad newydd ac ystyrlon – angen i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. 

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 11.00 am a daeth i ben am 12.04 pm.)

 

 

 

 

…………………………

Y Cadeirydd