Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.   Fel Cynghorydd, roedd David Healey wedi’i benodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Paul Cunningham David Hytch fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor a chafodd hyn ei eilio.

 

Yn dilyn pleidlais cafodd David Hytch ei benodi fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Diolchodd David Hytch i’r Pwyllgor am eu hyder ynddo.

       

PENDERFYNWYD:

 

Bod David Hytch yn cael ei benodi fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

            Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

4.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.