Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 49 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 22 Mehefin 2017

 

 

 

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017 wedi cael eu cylchredeg i’r Aelodau gyda’r agenda.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a llofnododd y Cadeirydd nhw.

8.

Amrywio Trefn Yr Agenda

Cofnodion:

Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd i newid trefn yr agenda drwy ddod ag eitem 7, Adroddiad Alldro Cynllun Gwella 2016/17, ymlaen.

9.

Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 pdf icon PDF 159 KB

Pwrpas: Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar Adroddiad Alldro Cynllun Gwella 2016/17 i ystyried y cynnydd tuag at gyflawni’r effeithiau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tanberfformio perthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.

 

                        Gofynnodd Mr David Hytch a oedd problem o ran recriwtio staff addysgu mewn ysgolion. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod ysgolion yn Sir y Fflint wedi gallu recriwtio i swyddi arweinyddiaeth heb anhawster, ond y bu gostyngiad yn nifer y ceisiadau sy’n dod i law. Dywedodd fod pryder cyffredinol yngl?n â cheisiadau am uwch swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion.

 

                        Cyfeiriodd Mr David Hytch at dudalen 86 o’r adroddiad, a’r strategaeth o ran atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau ysgol. Mynegodd bryder nad oes gan yr Awdurdod y capasiti ariannol i fynd i’r afael â’r mater yn llawn. Cydnabu’r Prif Swyddog Dros Dro ei bod yn sefyllfa heriol a’i bod yn cael ei rheoli gystal â phosibl gyda’r adnoddau sydd ar gael. Eglurodd fod matrics manwl yn gefn i’r gwaith o atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau ysgol.

 

                        Ceisiodd y Cynghorydd David Williams eglurhad yngl?n â’r cymorth i’r Gwasanaeth Ieuenctid, llesiant ac iechyd, ac addysg oedolion. Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro sicrwydd fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn rhan o bortffolio’r Gwasanaeth a dywedodd fod y Strategaeth Gwella Addysg yn gynllun mwy manwl sy’n gyrru busnes y Gwasanaeth o ddydd i ddydd. Cynigiodd ddarparu rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ieuenctid i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

                        Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau a chyfeiriasant at y cymwysterau, yr hyfforddiant a’r llwybrau a ddarperir i bobl ifanc drwy’r fframwaith achredu yn y Gwasanaeth Ieuenctid. Wrth ymateb i gwestiynau pellach am addysg oedolion, eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant fod y grant ar gyfer dysgu oedolion yn isel ond fod gwaith ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru (LlC) i adolygu’r grant, a gyda Choleg Cambria a Dysgu Oedolion Cymru yngl?n â’r ddarpariaeth addysg oedolion.

 

                        Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin am y canlyniadau Cymraeg yn CA2 a’r Cyfnod Sylfaen, eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro fod y garfan Gymraeg yn ysgolion cynradd Sir y Fflint yn fach a bod y data’n gallu amrywio. Cyfeiriodd at y cymorth pwrpasol sy’n cael ei ddarparu gan Dîm Ymgynghorol Cymraeg yr Awdurdod a’r Gwasanaeth Rhanbarthol.

 

                        Ymatebodd y Prif Swyddog Dros Dro i’r sylwadau ac i bryderon Mr. Hytch yngl?n â pherfformiad a gosod targedau ac eglurodd y fethodoleg gosod targedau rhwng yr Awdurdod a’r Gwasanaeth Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu adroddiad monitro alldro Cynllun Gwella 2016/17 a llongyfarchodd y Gwasanaeth ar ei gyflawniadau.

10.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas: Ystyried y targedau a'r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir, mae'r Cyngor (Gwelliant) Cynllun 2017-23 ac yn rhoi adborth i'r Cabinet cyn ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir ar gyfer ei gyhoeddi terfynol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ystyried y ddogfen targedau a cherrig milltir, Cynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23, ac i roi adborth i’r Cabinet cyn iddi gael ei mabwysiadu gan y Cyngor Sir i’w chyhoeddi’n derfynol.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro wybodaeth gefndir ac adroddiad ar Gynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23, a’r ddogfen arfaethedig “Sut Rydyn ni’n Mesur” a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Dywedodd fod prif strwythur y Cynllun yr un fath â’r cynlluniau blaenorol a’i fod yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y chwe blaenoriaeth yn edrych ar brosiectau ac uchelgeisiau’r Awdurdod yn y tymor hir, dros y pum mlynedd nesaf.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd David Mackie at dudalen 49 o’r adroddiad a mynegodd bryder yngl?n â’r targedau oedd wedi’u gosod. Mewn ymateb eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro y fethodoleg gosod targedau a’r anawsterau a brofwyd gan Benaethiaid wrth osod targedau perfformiad. Dywedodd fod y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn gadarnhaol at ei gilydd a bod perfformiad disgyblion wedi gwella ar ôl y Cyfnod Sylfaen. Eglurodd fod ysgolion yn gosod eu targedau eu hunain a soniodd am yr anhawster o ragweld perfformiad plant bach pan fyddant yn ifanc iawn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei bod yn glod i’r ysgolion eu bod wedi cyflawni uwchlaw’r targedau, oedd yn rhai i ymgyrraedd atynt.

 

Gan gyfeirio at dudalennau 48 a 49 o’r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at yr angen i gefnogi athrawon sy’n wynebu ymddygiad anodd a heriol yn y dosbarth a dywedodd nad oedd y Cynllun yn ôl pob golwg yn cyfeirio at gyrff allanol; enwodd wasanaethau teulu seicolegol Barnardo’s a’r Gwasanaeth Iechyd fel enghraifft. Dywedodd hefyd fod angen annog plant i fanteisio ar Brydau Ysgol am Ddim. Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) y cynllun cynhwysiant a’r cymorth sydd ar waith er mwyn i ddisgyblion ac athrawon weithio’n effeithiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes sut yr oeddid yn ymdrin ag absenoldeb o’r ysgol pan nad yw’r disgyblion wedi cael caniatâd. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) fod y lefelau absenoldeb heb ganiatâd yn isel yn Sir y Fflint. Fodd bynnag, roedd lefel uchel o absenoldeb gyda chaniatâd ac roedd Gr?p Gorchwyl a Gorffen, gyda phenaethiaid ac asiantaethau perthnasol, wedi’i sefydlu i edrych ar y mater. Dywedodd y gallai penaethiaid awdurdodi 10 diwrnod o absenoldeb gwyliau i ddisgyblion.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir (atodiad 2) a Chynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23 ac yn hysbysu’r cabinet, cyn iddynt gael eu mabwysiadu gan y Cyngor Sir i’w cyhoeddi’n derfynol.

11.

Canolfan Ymyrraeth Gynnar a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas: Rhoi diweddariad ar drefniadau amlasiantaeth newydd ar gyfer ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig adroddiad ar drefniadau aml-asiantaeth newydd i ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â phrofiadau plentyndod niweidiol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac amlinellodd nod allweddol y Ganolfan Cymorth Cynnar, sef rhoi sylw i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol allweddol ac uchelgais y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gael gwasanaethau mwy safonol a chost effeithiol sy’n sicrhau canlyniadau da i bawb yn Sir y Fflint. Dywedodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig i’r Ganolfan gychwyn lansiad meddal ar 30 Mehefin 2017. Mae’r lansiad  meddal yn ymateb i atgyfeiriadau presennol gan bartner asiantaethau a chynhelir lansiad llawn ym mis Hydref 2017 yn dilyn seminarau gwybodaeth ehangach..

 

Yn ystod y drafodaeth ymatebodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig i’r cwestiynau am atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd, a strategaethau ymyrraeth gynnar.

 

Roedd yr aelodau’n cefnogi datblygu’r Ganolfan Cymorth Cynnar a chanmolasant bawb a fu’n ymwneud â’i sefydlu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygu’r Ganolfan Cymorth Cynnar ac yn cefnogi’r cynigion i gynnal lansiad llawn yn hydref 2017.

 

12.

TRAC/Lles pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas: Hysbysu’r Aelodau ynghylch prosiectau sy’n cael eu datblygu/ gweithredu i gefnogi lles mewn ysgolion.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) adroddiad diweddaru ar y datblygiadau diweddar i gefnogi llesiant, gan gyfeirio’n arbennig at ddefnyddio Arian Cymdeithasol Ewrop. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y prif bwyntiau i’w hystyried, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

                        Mewn ymateb i sylw gan y Cadeirydd yngl?n â mynediad i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) fod CAMHS yn gweithredu o fewn yr amserlenni ac nad oes ganddynt restr aros yn Sir y Fflint.

 

                        Yn ystod y drafodaeth codwyd iechyd meddwl a llesiant ac effaith defnyddio cyfryngau cymdeithasol a bwlio ar blant.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a gwreiddio gweithio drwy bartneriaeth ym maes llesiant a’i fod yn cefnogi datblygu’r Gr?p Strategol Llesiant Emosiynol.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig i ymestyn prosiect TRAC hyd at 2022.

13.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Williams a ellid rhoi diweddariad yngl?n ag arian Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cytunwyd y byddai’r adroddiad ar Drefniadaeth Ysgolion sydd i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref 2017 yn cynnwys y diweddaraf am Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor yngl?n â defnyddio cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd, cytunwyd y câi adroddiad ar Ddefnyddio Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd ei baratoi ar gyfer y cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 23 Tachwedd 2017. 

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad ar Ysgolion Iach a’r Rhaglen Cyn-ysgol a oedd i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd, cynigiodd y Prif Swyddog Dros Dro gysylltu ag ysgolion gyda golwg ar wahodd cynrychiolydd i ddod i’r cyfarfod i roi mwy o ddealltwriaeth a manylion am y Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn  cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol drafft, a

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel bydd yr angen yn codi.

14.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol, a dim ond un aelod o’r wasg.