Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Council Chamber, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:       I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

 

40.

Rhaglen Ysgolion Iach a Chyn Ysgol pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar y gwasanaeth a’r ffordd y mae ysgolion yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu adroddiad i ddarparu diweddariad ar y gwasanaeth a’r ffordd mae ysgolion yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.  Cyflwynodd yr wybodaeth gefndir a rhoddodd adroddiad ar Gynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru (WNHSS) a Chynllun Cyn-Ysgolion Iach a Chynaliadwy (HSPSS) fel y nodir yn yr adroddiad. Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu adroddiad hefyd ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) a’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP).  Roedd Rhaglen Waith Ysgolion Iach a Chyn-Ysgol Ebrill 2017 – Mawrth 2018 ynghlwm yn yr adroddiad.

 

Sylwodd y Cynghorydd Kevin Hughes ar y gostyngiad yn yr arian oedd ar gael i ysgolion a’r effaith bosibl ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu y gallai diffyg arian mewn ysgolion cynradd gyfyngu ar nifer y gweithgareddau a’r arbenigedd allanol y gallai ysgolion ymwneud â nhw. Mewn ymateb i sylwadau pellach gan y Cynghorydd Hughes yngl?n â phwysigrwydd iechyd y geg a deiet da i blant ifanc, esboniodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod iechyd y geg wedi’i gynnwys yn y meini prawf maethol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid llongyfarch pob ysgol yn Sir y Fflint ar eu llwyddiant i hyrwyddo Ysgolion Iach. Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Addysg y dylid gwahodd holl Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid i’r Digwyddiad Gwobrwyo Ysgolion Iach. Cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu i wahodd y Pwyllgor ar ôl trefnu dyddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu ragor o wybodaeth am gynnydd yr ysgolion uwchradd fel rhan o’r Cynllun Ysgolion Iach. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma yn y Cynlluniau Ysgolion Iach a Chyn-Ysgolion a llongyfarch yr ysgolion am y gwaith a wnaed hyd yma; a

 

(b)       Bod yr Aelodau’n cefnogi’r ysgolion a’r cyn-ysgolion i ymgysylltu’n weithredol ym mhob cam o’r cynlluniau.

 

 

41.

Canlyniadau Dysgwyr pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganlyniadau Dysgwr yn 2017

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar Ganlyniadau Dysgwyr yn 2017.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) yn parhau i weithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod yr holl ysgolion, ac yn enwedig yr ysgolion uwchradd, yn olrhain cynnydd eu disgyblion yn gywir yn erbyn targedau a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau gwell cyfatebiaeth rhwng y canlyniadau a ragwelir a’r canlyniadau gwirioneddol. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie nifer o bryderon yngl?n â chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd fod dirywiad parhaus wedi bod ym mherfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn ystod y blynyddoedd diweddar.  Roedd o’r farn y dylai Sir y Fflint fod yn uwch na’r 6ed safle yn y tablau perfformio. Ymatebodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) i’r sylwadau a phryderon a fynegwyd ac esboniodd mai’r 6ed safle oedd safle lleiaf y sir ond bod ganddynt ddyheadau uwch. 

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at Ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 - 2017, fel y nodwyd yn atodiad 2 yr adroddiad a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu data cymharol ar gyfer Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Choleg Cambria. Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Prif Swyddog Dros Dro i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Mackie ac esboniodd fod y meini prawf derbyn ar gyfer myfyrwyr Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn wahanol i feini prawf derbyn ysgolion uwchradd Sir y Fflint.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Geoff Collett hefyd ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 a gofynnodd am gynnwys gwybodaeth yngl?n â nifer y myfyrwyr na wnaeth gwblhau eu cyrsiau a’r rhesymau pam na wnaethant, yn Adroddiadau Canlyniadau Dysgwyr y dyfodol. Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn adroddiadau’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â phresenoldeb mewn ysgolion ac absenoldeb anawdurdodedig, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i rieni gael hyd at 10 diwrnod o absenoldeb anawdurdodedig.  Er gwaethaf ymdrechion ysgolion i annog rhieni i beidio â chymryd eu plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor, a’r wybodaeth a ddarparwyd ar effaith colli diwrnod o addysg, esboniodd fod rhai rhieni yn ystyried y penderfyniad fel ‘hawl’.  Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro sicrwydd fod gan ysgolion brosesau a data cadarn yn eu lle i adnabod patrymau presenoldeb a gweithdrefnau cadarn i fynd i’r afael â phroblem diffyg presenoldeb ymhlith disgyblion.

 

Dywedodd Mrs. Rebecca Stark y dylai ysgolion gael eu canmol am eu perfformiad yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofynnodd i’r neges honno gael ei rhoi i’r ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i ddarparu cymorth personol i benaethiaid a staff sydd yn y ‘rheng-flaen’ ac yn wynebu effeithiau’r toriadau ariannol i’r gyllideb addysg. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro yn cydnabod bod ysgolion o dan bwysau mawr a rhoddodd ei sicrwydd fod cymorth dynodedig ar gael gan ymarferwyr iechyd meddwl a bod cymaint o  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er mwyn i’r Pwyllgor ei hystyried. Dywedodd y byddai Adroddiad Monitro Gwelliant y 3ydd Chwarter yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 12 Ebrill 2018.  Dywedodd yr Hwylusydd hefyd y byddai’r ddwy eitem a ganlyn yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol, ac y byddai’r adroddiadau’n cael eu cyflwyno pan fyddai’n briodol:-

 

  • Canlyniad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion; a
  • Diweddariad ar y Rhaglen Gwella Gwyliau Ysgol

 

CYTUNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i gael ei diwygio;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd fel y bo’r angen; a

 

43.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.