Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr Arian Cyfatebol ar gyfer cynigion ardaloedd chwarae a gofynnodd a ddylai ddatgan cysylltiad gan ei fod yn Gynghorydd Cymunedol.Bu i bob Aelod a oedd yn bresennol, ar wahân i Lynn Bartlett a’r Cynghorwyr Tudor Jones a Martin White, ddatgan cysylltiad personol mewn perthynas ag eitem rhif 4 ar y rhaglen - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

 

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 20 Rhagfyr 2018 a 31 Ionawr 2019.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 a 31Ionawr 2019.

 

20 Rhagfyr 2018

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at yr ail argymhelliad fel y dangosir ar dudalen 7 y cofnodion a gofynnodd a oedd gweithdy ar waith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion wedi’i drefnu. Cadarnhaodd yr Hwylusydd fod y gweithdy hwn wedi’i drefnu ar gyfer 12 Ebrill am 10.00am. Roedd gwahoddiad ar ffurf e-bost wedi’i anfon at yr holl Aelodau ac fe gytunwyd i ail gylchredeg hyn i’r Cynghorydd Heesom.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at ei sylwadau ar dudalen 7 y cofnodion a gofynnodd am gynnwys y canlynol ar ddiwedd y trydydd paragraff:-

 

 ‘sydd yn ffurf ar Gynllun Ariannu Preifat a daeth astudiaeth fanwl, a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Genedlaethol y Deyrnas Unedig i’r casgliad bod y model menter cyllid preifat wedi bod yn ddrytach ac yn llai effeithlon wrth ddarparu ysbytai, ysgolion ac isadeiledd cyhoeddus eraill nag arian cyhoeddus. Bellach dim ond 10% o wahaniaeth oedd o ran cost i'r Awdurdod o gyllid cyfalaf yn erbyn Model Buddsoddi Cydfuddiannol, ac anogodd na ddylid ystyried y Model hwn.’ Yn flaenorol, roedd 50% o wahaniaeth ond yn yr adroddiad ym mhwynt 3.10 roedd wedi newid i 35% ac felly dim ond 10% o wahaniaeth oedd yn bod erbyn hyn a dyma’r rheswm pam y gofynnodd am y diwygiad hwn. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Mackie ac roedd o’r farn y dylid cofnodi ei bwynt ond gwahoddodd yr Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y mater.

 

Darparodd yr Aelod Cabinet Addysg y wybodaeth ddiweddaraf am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a dderbyniwyd gan CLlLC ac esboniodd y byddai 81% o’r gost yn cael ei thalu gan Lywodraeth Cymru a 19% gan Awdurdodau Lleol ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith a oedd unrhyw wybodaeth am y cyfraddau llog a godir mewn perthynas â benthyca’r Cyngor.Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog bod y sefyllfa yn newid yn gyson gydag ansicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar y manylion mewn perthynas â’r llwybr Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer cyllid ynghyd â Band B a Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geoff Collett..

 

31 Ionawr 2019

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2019.

 

Materion yn Codi

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 12 y cofnodion a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfraniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chostau Pensiynau Ysgol.Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y costau wedi’u talu gan y Llywodraeth Ganolog, roedd 85% wedi’i drosglwyddo i Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu’r 15% arall. Cadarnhawyd y byddai'r ysgolion yn derbyn y swm llawn o’r cynnydd pensiynau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ond roedd ansicrwydd o ran y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn newyddion da a'i fod yn gobeithio y bydd modd ariannu bargeinion tâl yn genedlaethol.

 

Ar dudalen 16, dywedodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Ystyried yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae cyn cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint, Marianne Mannello (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru) a'r Swyddog Dylunio Chwarae – Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a’u gwahodd i gyflwyno’r adroddiad. Darparodd yr adroddiad drosolwg o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir y Fflint 2019 a’r Cynllun Gweithredu Drafft ar gyfer 2019/2020. Roedd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol dan Fesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010 i adrodd i Lywodraeth Cymru a byddai dogfen ddrafft yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru maes o law. Roedd Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir y Fflint yn ddogfen fyw gyda Chynllun Gweithredu’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol. Roedd hwn yn ofyniad statudol ac amlinellodd yr awdurdod lleol sut yr oedd yn bwriadu mynd i’r afael â diffygion a chynnal lefelau presennol yn y cynllun gweithredu. Esboniodd y Swyddog Datblygu Chwarae y byddai’r Cyngor yn gallu cael mynediad at gyllid drwy gynlluniau gweithredu tuag at gynlluniau megis y cynlluniau chwarae sirol ac y gellir darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws y sir i bob plentyn.

 

Mewn ymateb i sylw ar y ceisiadau llwyddiannus am gyllid, esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru fod lobïo cenedlaethol yn parhau i geisio sicrhau cyllid ond roedd hyn yn dal yn ddibynnol ar yr arian oedd ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Mackie y Swyddog Datblygu Chwarae am ei hymroddiad gan ddweud ei bod yn frwdfrydig, yn benderfynol ac yn ofalgar a bod yr adroddiad yn eithriadol o dda.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am wybodaeth ar y Strategaeth a oedd yn cysylltu meysydd chwarae a oedd yn rhan o Aura. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Datblygu Chwarae bod y Cyngor yn gysylltiedig ag Aura gyda’r Asesiad O Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a bod meysydd chwarae yn rhan fawr o hyn.

 

Yna gofynnodd y Cynghorydd Heesom sawl cwestiwn mewn perthynas â chyllid cytundeb adran 106 ar gyfer ardaloedd chwarae a ddarparwyd gan ddatblygwyr i’r ddarpariaeth Ysgol a gofynnodd a fyddai modd defnyddio peth o’r arian hyn ar gyfer darpariaeth ieuenctid a fyddai’n fuddiol iawn. Ymatebodd y Swyddog Dylunio Chwarae gan ddweud fod dwy ran i’r Cyllid Adran 106, y cyfraniad addysg a’r cyfraniad man agored cyhoeddus, ac nid oeddent yr un fath. Amlinellodd y broses o wneud penderfyniad ar gyfer dyrannu’r cyllid, boed hynny ar gaeau chwaraeon neu ardaloedd chwarae er enghraifft, cyfleusterau mannau agored cyhoeddus, a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag Awdurdodau Lleol a Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom fod cyllid Cytundeb 106 yn swm sylweddol o arian a gofynnodd sut yr oedd y cyllid yn cael ei fonitro.Dywedodd y Swyddog Dylunio Chwarae fod adroddiad arolwg i asesu cyflwr yr holl feysydd chwarae wedi'i gynnal a’i gyhoeddi. Adroddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru ar y trafodaethau a gynhelir ar draws Gymru mewn perthynas â chyllid Cytundeb Adran 106 i edrych ar yr holl ardaloedd o fannau agored y gallai plant chwarae arnynt. Nid oedd hon yn broses hawdd ond gyda’r templed cenedlaethol roedd potensial i edrych ar le'r oedd yr arian  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhaglen Ysgolion Iach a Chyn Ysgol pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniad ymchwil Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Iechyd, Lles a Diogelu adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniad ymchwil Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Ysgolion Iach, Cynllun Cyn Ysgol Iach y bu pob un o’n hysgolion yn rhan ohonynt a’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol.Roedd y Rhaglen Ysgolion Iach wedi bod yn weithredol am 17 o flynyddoedd ac wedi darparu dull ysgol gyfan at les a bellach wedi ehangu i Ysgolion Cyn Ysgol Iach. Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis diwethaf a chyfeiriodd aelodau at y targedau a ddengys yn Adran 1.04 a oedd wedi’u cwrdd ac roedd hefyd yn falch o gadarnhau fod 10% o ysgolion wedi ennill y statws gwobr ansawdd genedlaethol.

 

Parhaodd i ddarparu gwybodaeth am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol a oedd yn darparu brecwast, cinio a chyfleoedd i wneud ymarfer corff a choginio ar ddau safle gyda chynigion i ymestyn hyn i Ysgol Uwchradd Y Fflint ac Ysgol Gynradd Queensferry.Cyfeiriodd yr Aelodau at y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mewn partneriaeth â gwneuthurwyr polisïau Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK a Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru i gael data ar les. Bu i’r holl ddisgyblion ysgol uwchradd gymryd rhan yn yr astudiaeth yn yr hydref 2017 gydag 82% o ddisgyblion yn cymryd rhan yn yr arolwg.Roedd yr arolwg yn cynnwys bwyd, ffitrwydd a gweithgarwch corfforol, iechyd emosiynol, defnydd a chamddefnydd sylweddau a rhyw a pherthnasau.Roedd cael ysgolion i gymryd rhan yn llwyddiant aruthrol yn enwedig oherwydd pwysigrwydd y data.Yn y Gwanwyn 2018 roedd pob ysgol wedi derbyn ei adroddiad unigol ac ym mis Tachwedd 2018 cwblhawyd yr adroddiad sirol cyntaf.Roedd embargo ar ddata cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru hyd at fis Ebrill.Roedd Cynlluniau Gweithredu ym mhob ysgol a oedd dan arweiniad disgyblion ym mhob Ysgol Uwchradd ac roedd Cynllun Gweithredu Sirol yn cael ei ddatblygu a fyddai’n cael ei rannu wedi i’r data cenedlaethol gael ei gyhoeddi. Roedd cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymweld â dau ddigwyddiad ysgol ac yna darparodd wybodaeth am yr elfennau pwysicaf. Roedd Sir y Fflint o fewn y cyfartaledd cenedlaethol ac roedd hyn yn y cynllun 4 blynedd a gydag arolwg arall yn cael ei gynnal yn yr hydref. Byddai’r data yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ac i sicrhau cyfleodd i ymgysylltu â rhieni yn y cynlluniau gweithredu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes fod hwn yn adroddiad ardderchog ond nid oedd yn un hawdd i’w ddarllen o ystyried bod y ffigyrau ar alcohol yn 51% a chyffuriau yn 31% gan nodi bod Canabis yn gyffur sy’n arwain at eraill ac ni ddylid ei fychanu. Mynegodd bryder o ran y 22% o blant 13 oed neu iau oedd yn weithredol yn rhywiol pan mae’r oedran cydsynio yw 16 mlwydd oed, roedd hwn yn ystadegyn pryderus iawn. Nid oedd y gymdeithas yn gwneud digon i’r plant hyn ac roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro ar gyfer Chwarter 3 (Hydref i Ragfyr 2018) 2018/19 ar gyfer y flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw at feysydd canlynol yr adroddiad:-

 

  • Soniodd yr Aelod Cabinet am gyfarfod cenedlaethol diweddar, yno codwyd y cwestiwn am ddiwrnodau hyfforddiant staff ac roedd yn hapus iawn â’r newyddion hyn. Er y cydnabyddir yr effaith ar rieni yn gorfod canfod gofal plant am ddiwrnod ychwanegol, roedd y cyfle i staff addysgu gael y diwrnod hwn gyda’i gilydd yn amhrisiadwy;
  • Roedd y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn dal heb ei ddatrys ac roedd yn parhau i fod yn risg;
  • Roedd Derbyniadau Ysgol ar gyfer mis Medi 2019 wedi dechrau ond roedd yr angen am hyblygrwydd yn parhau er mwyn delio â chyfnodau prysur o ran derbyniadau; a
  • Threfnwyd gweithdy ar waith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion ar 12 Ebrill ond cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael i Awdurdodau Lleol er mwyn i ysgolion gefnogi eu rhaglenni cyfalaf. Disgwylir am fwy o wybodaeth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y diwrnod hyfforddiant staff ychwanegol i drafod y cwricwlwm newydd a oedd yn amhrisiadwy i ysgolion gydweithio ac ystyried yr arferion gorau. Cytunodd y Prif Swyddog gan ddweud y byddai’r Gweinidog yn hoffi gweld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd yn rhanbarthol i sefydlu arfer orau.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr arian a gynigiwyd ar gyfer atgyweiriadau ysgol ond ychwanegodd nad oedd y derbyniadau cyfalaf yno. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r cyllid incwm yn galluogi’r Cyngor i dalu am rai costau a oedd eisoes wedi'u hysgwyddo mewn perthynas â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac yna byddai’r arian hynny ar gael i’w ail-fuddsoddi.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch y gallu i gynyddu capasiti mewn ysgol lle mae uno ag ysgol arall wedi’i ystyried, dywedodd y Prif Swyddog, drwy gyfuniad o gyllid grant dynodedig a’r cyllid gan Lywodraeth Cymru, y byddai modd mynd i’r afael â hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr adroddiad brawychus diwethaf a sut yr oeddem yn ymdrin â phobl ifanc, yr ystafell dosbarth, y gymdeithas ac yn 1.09 sefydlu cyngor yr ifanc, adfywio rhai o’r cyfleoedd i bobl ifanc, roedd y Gwasanaeth Ieuenctid o bwysigrwydd mawr ac yn hynod werthfawr. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn symudol ac yn hyblyg wrth i dîm y rheng flaen ymweld â chymunedau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ac alcohol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

7.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wneud y newidiadau canlynol i'r Rhaglen:-

 

  • Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai a gofynnodd a ddylid gwahodd cynrychiolydd o Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd i egluro sut maent yn gweld yr effeithiau ar ysgolion y cynigion ôl-16. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y rhan helaeth o ddisgyblion ôl-16 a all gael eu heffeithio o Goleg Cambria ac y dylid gwahodd cynrychiolydd o’r Coleg hefyd.

 

  • Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cyfarfod ar y cyd ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 7 Mehefin a dywedodd y byddai Estyn yn cynnal archwiliad o’r Cyngor ar yr wythnos yn dechrau ar 3 Mehefin. Roedd llawer o waith i Swyddogion cyn yr Archwiliad hwn a gofynnodd i’r Pwyllgor a fyddai modd aildrefnu’r cydbwyllgor yng ngoleuni hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks am gael anfon dymuniadau gorau gan y Pwyllgor at y Cynghorydd Sian Braun gan ei bod wedi torri ei ffibwla a’i chrimog. Gofynnodd hefyd am gael anfon llythyr at Mr David Hytch yn ei longyfarch yn dilyn ei briodas yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Cymeradwyo drafft y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y'i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwyng cyfarfodydd, yn ol yr angen

7.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.