Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Andy Dunbobbin ddatgan cysylltiad personol yn eitem 4 ar yr agenda – Trosolwg Polisi Derbyniadau Ysgol, ac eitem 5 ar yr agenda, gan ei fod yn Gadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.  

 

Bu i’r Cynghorydd Janet Axworthy ddatgan cysylltiad personol yn eitem 4 ar yr agenda – Trosolwg Polisi Derbyniadau Ysgol, ac eitem 5 ar yr agenda, gan ei fod yn Gadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Penarlâg.

 

Datganodd y Cynghorydd David Healey gysylltiad personol yn yr eitem 5- Moderneiddio Ysgolion, gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Castell Alun.

 

Bu i’r Cynghorydd Geoff Collett ddatgan cysylltiad personol yn eitem 5 ar yr agenda – Moderneiddio Ysgolion, gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Pen Coch, yr Wyddgrug.

28.

Cofnodion pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 1 Tachwedd  2018.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2018. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei fod wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau i’r cyfarfod, gan ofyn i’r cofnodion gael eu newid i gofnodi hyn.  Soniodd hefyd am adeilad y Clwb Ieuenctid o fewn ei ward a chododd bryderon bod risg tân gan ystyried cyflwr cyfredol yr adeilad.  Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y mater hwn yn cael ei ymdrin.

 

Materion yn Codi 

 

Canlyniadau Dysgwyr 2018 (Dros Dro) 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am ddiweddariad ar y llythyr a anfonwyd ar ran y Pwyllgor i CBAC yn amlinellu ei bryderon ynghylch newid mewn ffiniau gyda’r pwnc Saesneg, ac yn gwahodd cynrychiolwyr o CBAC i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y mater.  Dywedodd yr Hwylusydd ei bod wedi dosabrthu ymateb gan y CBAC i’r Pwyllgor.Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ar y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng y Penaethiaid a’r CBAC ers y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor.  Dywedodd bod pryderon mawr wedi’u mynegi gan Benaethiaid, a hefyd mewn ymatebion lleol a rhanbarthol, ac wedi’u rhoi gerbron y CBAC yn ystod y cyfarfod hwn a gofynnwyd am ddadansoddiad mwy manwl.   Pwysleisiodd y Prif Swyddog bod eglurhad i’r pryderon a godwyd yn cael eu ymlid yn weithredol a cheisir am sicrwydd na fyddai sefyllfa tebyg yn digwydd yn y dyfodol.  Dywedodd bod y mater o bryder sylweddol ar draws Cymru gyfan, a bod ymgyrch cyd-lynol i sicrhau bod y mater yn cael ei ymdrin yn iawn.

 

Yn ystod y trafodaethau cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr arall i CBAC, i gynnwys gwybodaeth am y sylwadau rhanbarthol parhaus sydd yn cael eu gwneud, ac i egluro na fyddai angen presenoldeb cynrychiolwyr CBAC mewn cyfarfod gyda’r Pwyllgor ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa a’u gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol os yw’n briodol.

 

Mynegodd Mr David Hytch bryderon ynghylch myfyrwyr sydd wedi bod dan anfantais yn dilyn y newidiadau diweddar.  Cydnabu’r Cynghorydd Ian Roberts a’r Prif Swyddog y pwyntiau a wnaethpwyd a dywedwyd bod hyder yn y system wedi’i danseilio ar draws Cymru, a chyfeiriwyd at yr anawsterau a oedd wedi codi ym mhynciau Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ogystal â Saesneg.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie siomedigaeth yn yr ymateb a gafwyd gan CBAC i’r llythyr a anfonwyd gan y Pwyllgor, a deimlodd nad oedd wedi mynd i’r afael â phryderon y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 (b)      Bod llythyr ymateb yn cael ei anfon at CBAC yn egluro na fydd angen eu         presenoldeb yng nghyfarfod o’r Pwyllgor ar hyn o bryd, ond y bydd y           Pwyllgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa a gwahodd cynrychiolwyr o  CBAC         i gyfarfod yn y dyfodol os yw’n briodol.

29.

Trosolwg Polisi Derbyn Ysgol pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Darparu aelodau â throsolwg o’r polisi a'r wybodaeth ddiweddaraf o ran niferoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i roi trosolwg polisi a diweddariad ar y niferoedd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Derbyniadau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Soniodd y Rheolwr Derbyn am y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a dywedodd bod niferoedd pob ysgol yng Nghymru yn cael ei gyfrifo yn unol â'r fethodoleg Asesiad Cenedlaethol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd yr holl ysgolion gyda Nifer Derbyn a gytunwyd a oedd yn dod o’r niferoedd a gyfrifwyd. Eglurodd nad oedd hawl awtomatig i gael lle mewn ysgol penodol ac pe bai mwy o geisiadau yn dod i law na’r lleoedd sydd ar gael, mae’n rhaid i’r lleoedd gael eu dyrannu yn unol â’r meini prawf mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael fel y nodir yn y polisi derbyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Derbyn ei bod yn bwysig bod ceisiadau am dderbyniad wedi’u dychwelyd erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gan fod ceisiadau hwyr yn cael eu hymdrin ar ôl i’r rheiny a oedd yn cyrraedd ar amser.  Golygir hyn os yw’r ysgol a ffefrir yn llawn, er mai’r ysgol honno oedd yr agosaf i gyfeiriad cartref y plentyn, byddai cais hwyr yn cael ei wrthod a byddai’r rhiant yn cael cynnig hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Roedd y broses hwn yn unol â threfniadau derbyn a gyhoeddwyd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at y broses apêl a'r nifer o apeliadau a gadarnhawyd.Ailadroddodd y Prif Swyddog os bydd cais am dderbyniad yn cael ei wrthod, byddai gan y rhiant hawl apelio i’r panel apêl a fyddai’n annibynnol ac yn diduedd. Eglurodd hefyd nad oedd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael yn angenrheidiol yn arwain at apeliadau gan fyddai rhieni efallai yn derbyn ail neu drydydd ysgol a ffefrir neu ysgol arall gyda lle ar gael.  

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett ynghylch â datblygiadau preswyl newydd sy'n cael eu hadeiladu, a'r effaith ar ysgolion lleol, rhoddodd y Prif Swyddog amlinelliad o sut y mae’r Awdurdod yn cynllunio a rheoli lleoedd ysgolion a’r data a ddefnyddir i gynorthwyo. Mewn ymateb i sylwadau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Collet, dywedodd y Prif Swyddog os oes gan yr Aelodau ymholiad neu bryder penodol ynghylch ysgol(ion) yn eu Ward yna dylent gysylltu â hi, a byddai’n dangos sut mae lleoedd ysgolion yn cael eu cynllunio a'u rheoli yn fwy manwl. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Geoff Collet sylw ar y broses derbyn i ysgolion uwchradd.Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod derbyniad plentyn i ysgol gynradd ddim yn sicrhau y bydd y plentyn yn cael lle mewn ysgol uwchradd yn yr un ardal. Pwysleisiodd swyddogion nad oedd dalgylchoedd na lleoedd ysgolion dynodedig. Soniodd y Swyddog Derbyniadau am y gwaith a gyflawnwyd i sicrhau bod rhieni yn gwneud penderfyniadau gwybodus a dywedodd bod disgwyl i ysgolion gydymffurfio â'r wybodaeth a ddarperir i rieni. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym y dylid ychwanegu blwch ticio i’r ffurflen gais derbyn  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Moderneiddio Ysgolion pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Diweddaru Aelodau ar gynnydd Moderneiddio Ysgolion

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaethpwyd gyda’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, a ffrydiau ariannol Grant Cyfalaf ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at y Rhaglen y 21ain Ganrif (Band A) a dywedodd bod prosiectau yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Ddosbarth Glannau Dyfrdwy wedi’u cwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb. Roedd y prosiectau sydd ar ôl yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac Ysgol Gynradd Penyffordd a fyddai’n dod â rhaglen Band A i ddiwedd. Yn ogystal, soniodd y Prif Swyddog ar adolygiad ardal Brynffordd a Licswm, ac ymgynghoriad ar ffederasiwn rhwng Ysgol Wirfoddol A Gynorthwyir Nercwys ac Ysgol Wirfoddol A Reolir Nannerch. 

 

Gan gyfeirio at Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain ganrif (Band B) dywedodd bod Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau y bydd hwn yn cael ei ariannu gan gyllidebau cyfalaf a refeniw. Dywedodd y Prif Swyddog bod awdurdodau lleol wedi cael newyddion cadarnhaol yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfraddau ymyrraeth gwell gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen buddsoddi, fodd bynnag byddai bodloni’r costau cyfraniadau’r Cyngor dal yn heriol. Soniodd y Prif Swyddog hefyd ar ddatblygiadau sydd yn ymwneud â’r prosiect cyfalaf ar gyfer Portffolio Uned Cyfeirio Disgyblion ac ar gyfer Ysgol Gynradd Queensferry, grant Llywodraeth Cymru ar Faint Dosbarth Babanod, Rhaglen a Ariennir gan y Cyngor, Grant Cymraeg Llywodraeth Cymru, a Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar y dyluniad o’r adeiladau ysgol newydd, dywedodd y Prif Swyddog bod proses ymgynghori manwl yn cael ei gyflawni gyda holl rhanddeiliaid allweddol cyn y cymeradwyir dyluniad adeilad ysgol newydd. Hefyd dywedodd bod safonau gwyddonol a thechnegol a oedd yn gorfod cael eu bodloni gan brosiectau adeiladu newydd. Mewn ymateb i’r sylwadau pellach a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Heesom, soniodd y Prif Swyddog ar gynnydd y Cynllun Moderneiddio Ysgolion ac eglurodd bod hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd i fynd i'r afael â'r ddarpariaeth o fewn y Sir.  Cynigiodd y Prif Swyddog i gyfarfod â’r Cynghorydd Heesom i drafod yn fanwl unrhyw faterion penodol yr oedd ganddo ynghylch darpariaeth yn ei Ward.   

 

            Ymholodd y Cynghorydd Dave Mackie am ddyddiad y cyfarfod Cabinet yn adran 1.18 o’r adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog bod y dyddiad hwn yn anghywir a byddai’n dosbarthu copi o adroddiad y Cabinet a oedd yn nodi'r penderfyniad i waith gael ei gyflawni ar yr un pryd gan yr un contractwr/ tîm ar gyfer y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ynghylch cyllid cyfalaf a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a oedd yn fath o Gynllun Ariannu Preifat ac astudiaeth manwl, a gyflawnwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol y Deyrnas Unedig a ddaeth i gasgliad bod y model menter cyllid preifat wedi profi i fod yn fwy drud ac llai effeithlon wrth ddarparu ysbytai, ysgolion  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Cynllun y Cyngor 2018/19 - Monitro Canol blwyddyn pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro ar ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

                        Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol. Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio. 

 

                        Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr adroddiad cynnydd perfformiad sydd wedi’i atodi i’r adroddiad hwn. Gan gyfeirio at dangosydd 3.1.2.1, dywedodd mai dim ond un ysgol oedd mewn categori pryder statudol Estyn. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y risgiau sy’n gysylltiedig â diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol a dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar 16 Mai, i roi diweddariad ar newidiadau deddfwriaethol.  Dywedodd y Prif Swyddog bod cynaliadwyedd cyllid grant ar gyfer addysg yn parhau i fod yn risg byw a sylweddol mewn nifer o feysydd. a chyfeiriodd at Ddyfarniad Cyflog Athrawon ar gyfer 2018-19 a 2019-20, cyfraniadau pensiwn cynyddol cyflogwr, a chyllid grant ar gyfer ysgolion. 

 

                        Mewn ymateb i'r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ynghylch y ddarpariaeth o Wasanaethau Ieuenctid yn ei ardal, eglurodd y Prif Swyddog bod yr Awdurdod yn cwrdd â’i ofynion statudol ac yn darparu lefel uchel o wasanaeth i fodloni anghenion pobl ifanc yn y dyfodol. Pwysleisiodd bod diffyg cyllid yn broblem cenedlaethol a felly roedd y gwasanaeth yn gorfod bod yn fwy creadigol yn y ffordd yr oedd gwasanaethau ieuenctid yn cael eu darparu ac yn symud ymlaen.  

 

Soniodd Mr David Hytch am yr ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw o fewn portffolio’r ysgolion. Cydnabu’r Prif Swyddog y pwyntiau a wnaeth Mr Hytch ac eglurodd bod ysgolion yn cael gwybod am eu sefyllfa o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw  yn cael eu cyflawni drwy wybodaeth manwl ar yr adroddiad arolwg cyflwr ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i bob ysgol unigol ar draws Sir y Fflint.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r adroddiad.

32.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wneud y newidiadau canlynol i'r Rhaglen:-

 

  • y dylai adroddiad Rhaglen Ysgolion a Chyn Ysgol Iachus gael eu symud yn ôl i’r cyfarfod a drefnwyd ar 31 Ionawr i 21 Mawrth;

 

  • bod yr adroddiad ar Gludiant Ôl-16 i’w gyflwyno i’r cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhelir ar 16 Mai; a

 

  • bod cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei drefnu hefyd yn ystod mis Mai 2019

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

33.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.