Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

12.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Ar ran y Pwyllgor, cymrodd y Cadeirydd y cyfle i longyfarch Claire Homard ar ei phenodiad diweddar fel Prif Swyddog.

 

Yn dilyn ei gais, darllenodd y Cadeirydd ddatganiad ar y cyd gan y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a Rheolwr Cludiant a Logisteg mewn perthynas â chludiant i’r ysgol i Ysgol Uwchradd Penarlâg:

 

 ‘Yn dilyn diddymu gwasanaeth fysiau masnachol rhif 7X, a oedd yn gweithredu o Manor Lane i Goleg Glannau Dyfrdwy ac a ddefnyddiwyd gan nifer o ddisgyblion nad oedd yn gymwys, i deithio i Ysgol Uwchradd Penarlâg, mae’r Cyngor wedi derbyn nifer o geisiadau am gludiant am ddim i’r ysgol.

 

Mae asesiad o’r llwybrau cerdded ar gael i bob disgybl sydd wedi ymgeisio am gludiant wedi’i gwblhau, sydd wedi canfod rhai mân ddiffygion ac felly mae’r llwybrau cerdded sydd ar gael wedi’i hystyried yn ffinio ar fod yn beryglus o ardaloedd Pentre, Mancot a Sandycroft.

 

Fodd bynnag, gyda rhywfaint o fân welliannau, gall y llwybrau hyn fod ar gael i’r disgyblion gerdded yn ddiogel i’r ysgol yn y dyfodol.    Felly byddwn yn rhoi cludiant i holl ddisgyblion sy’n ymgeisio drwy’r broses briodol am gyfnod o 12 mis i alluogi ar gyfer adolygiad o’r llwybrau cerdded sydd ar gael i’w gynnal yn ystod y cyfnod hwn gyda’r bwriad o roi’r gorau i gynnig cludiant o fis Medi 2019.  Bydd hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ddisgyblion presennol sy’n derbyn cludiant sydd wedi cymhwyso ar sail llwybr peryglus o’r ardaloedd uchod.' 

 

Bydd copi o’r datganiad yn cael ei anfon ar e-bost i holl Aelodau’r Pwyllgor. Gofynnodd y Cynghorydd Mackie i ddau Aelod lleol Mancot gael eu cynnwys hefyd.

13.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

14.

Cofnodion pdf icon PDF 45 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mai a 28 Mehefin                                    2018, a chofnodion y cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu                              Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 24 Mai 2018, fel cofnod cywir.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mai a 28 Mehefin 2018, a’r cyd-gyfarfod gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 24 Mai 2018.

 

Cofnodion 24 Mai, 2018

 

Ar gofnod rhif 1, dylid newid y frawddeg i adlewyrchu bod y Cynghorydd Healey i’w benodi fel y Cadeirydd.

 

Cofnodion 24 Mai 2018 (cyd-gyfarfod)

 

Ar gofnod rhif 4, gofynnodd y Cynghorydd Williams a oedd ystod ddigonol o gyrsiau galwedigaethol ar gael mewn ysgolion a dosbarthiadau'r chweched er mwyn darparu mwy o ddewisiadau i bobl ifanc.  Eglurodd y Prif Swyddog bod gwaith arwyddocaol yn cael ei wneud gan ysgolion uwchradd i nodi ystod o ddewisiadau cwricwlwm i weddu’r cyrsiau’n briodol a bodloni anghenion holl ddysgwyr, o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Datganodd y Cynghorydd Heesom ei siom na dderbyniwyd y cofnodion yn gynt. Ar gofnod rhif 5, cyfeiriodd at y drafodaeth fanwl ar ddiogelu plant a dywedodd nad oedd ei gais am wybodaeth wedi ei ddilyn, gan bwysleisio ei bryderon am ddiffyg gwasanaethau ieuenctid yn ei ward. Dywedodd y Prif Swyddog bod y Cynghorydd Heesom wedi cael gwybod bod trefniadau yn cael eu gwneud i drefnu cyfarfod er mwyn trafod ei bryderon. Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom hefyd at yr ymdrechion i gael gwared â chlwb ieuenctid gwag o’i ward.

 

Cofnodion 28 Mehefin, 2018

 

Cofnod rhif 7: Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan David H?tch am Governors Cymru, soniodd y Prif Swyddog am Governors Cymru a sefydlwyd er mwyn cefnogi ysgolion yn ychwanegol at y gefnogaeth a hyfforddiant parhaus a ddarperir gan GwE. Cytunodd yr Awdurdod i dalu tanysgrifiad am y 12 mis cyntaf ar gyfer holl ysgolion Sir y Fflint i gael mynediad at gefnogaeth gan Governors Cymru.

 

Yn ystod trafodaeth am yr un eitem, holodd nifer o aelodau am gynnwys penderfyniad (a) a oedd yn seiliedig ar argymhelliad yr adroddiad i dderbyn Adroddiad Blynyddol GwE. Gwnaed y sylw nad oedd yr Adroddiad Blynyddol wedi cael ei drafod a dim ond rhan ohono a oedd wedi ei atodi i’r rhaglen, yn hytrach na’r fersiwn yn ei chyfanrwydd oedd wedi ei rannu gydag Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Nodwyd bod copi o’r adroddiad llawn wedi cael ei anfon ar e-bost ar wahân i’r Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog y gwneir pob ymdrech i sicrhau cydraddoldeb yn y wybodaeth a rennir gan GwE i bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar draws y rhanbarth. Cytunodd y Pwyllgor y dylid tynnu penderfyniad (a) o’r cofnodion gan nad oedd yn gymwys.

 

Soniodd y Prif Swyddog y byddai pryderon am lefelau recriwtio a chadw yn yr haenau arweinyddiaeth uwch i ganolig yn cael ei gynnwys fel eitem yng Nghyfarfod nesaf Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd a bydd adborth yn cael ei roi i’r Pwyllgor.

 

Cofnod rhif 8: O ran ei sylwadau am ddosbarth y Chweched yng Nglannau Dyfrdwy, pwysleisiodd y Cynghorydd Williams ei gais am fanylion o fuddsoddiad y Cyngor, unrhyw gyfraniadau ariannol tuag at gludiant i’r ganolfan, rhestr o’r cyrsiau sydd ar gael, ynghyd â'r niferoedd ar y gofrestr a niferoedd a chwblhaodd y cyrsiau ar  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Dyfarniad Tâl Athrawon 2018 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am gost amcangyfrifedig a sefyllfa gyllido                         bresennol y dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer athrawon a                   staff cymorth ysgolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad gyda manylion am amcan gost a safle cyllid presennol ar gyfer y dyraniadau cyflog cenedlaethol i athrawon a staff cymorth ysgolion. Roedd hyn yn fater o bryder sylweddol gan fod y pwysau ariannol sy’n wynebu cynghorau ac ysgolion yn golygu nad oedd capasiti i dderbyn unrhyw bwysau ariannol pellach.

 

Disgrifiodd y Prif Swyddog y sefyllfa fel un 'difrifol' a rhoddodd ganmoliaeth i ymdrechion y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor i wneud sylwadau nad ellid disgwyl i’r Cyngor dalu cost dyfarniad cenedlaethol lle nad oedd ganddo lawer o ddylanwad drosto. Roedd amcan lefel uchel o gyfran Sir y Fflint o gyllid ychwanegol i’w ddarparu gan Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynnydd mewn cyflog yn gyfystyr â thua 50% o gyfanswm y bil. Yn ychwanegol at y cynnydd mewn cyflog, roedd gwybodaeth ddiweddar am y cynnydd rhagweladwy mewn costau cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon yn achosi mwy o bryder. Tynnwyd sylw at y risgiau i gadernid ariannol ysgolion a goblygiadau posibl o ran staffio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at Grynodeb Gweithredol yr adroddiad ac eglurodd nad oedd dyfarniad cyflog athrawon wedi ei gyllido’n llawn yn Lloegr, fel yr eglurwyd yn llawn ym mharagraff 1.01. Aeth ymlaen i bwysleisio pwysigrwydd o sefydlu’r egwyddor mai’r rhai sy’n gyfrifol am ddyfarnu’r cynnydd mewn cyflog a ddylai ei gyllido.

 

Eglurodd y rheolwr cyllid bod y cynnydd mewn costau cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon yn anrhagweladwy a bod gwybodaeth hwyr yn effeithio gallu ysgolion a chynghorau i gynllunio’n effeithiol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes y dylai difrifoldeb y mater gael ei gyfleu i breswylwyr, ac yn arbennig i rieni mewn perthynas â’r goblygiadau i ddysgwyr ifanc. Wrth ddiolch i’r uwch swyddogion a’r Arweinydd am ymgyrchu, dywedodd bod cydgyfrifoldeb ar holl aelodau etholedig i godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa. Ychwanegodd ei fod yn cefnogi cynnydd mewn cyflog, ond y dylai'r gost gael ei gyllido'n llawn.

 

Dywedodd David Hÿtch er bod y cynnydd mewn cyflog i athrawon yn hir-ddisgwyliedig, cwestiynodd beth oedd modd ei gyflawni. Cyfeiriodd at yr ystod graddau a dywedodd bod y cynnydd ar gyfer yr Uwch Raddfa Gyflog ac Arweinyddiaeth yn dal i fod o dan lefelau chwyddiant. Ychwanegodd na fyddai’r newidiadau yn mynd i’r afael â phroblemau gyda recriwtio a chadw, llanw athrawon na’r gwahaniaeth rhwng athrawon dosbarth a’r rhai ar lefelau rheolaethol.

 

Cynigodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor gefnogi’r safbwyntiau a fynegwyd bod y sefyllfa yn annerbyniol ac y dylai’r dyfarniad gael ei gyllido’n genedlaethol wrth i’r Cyngor barhau i ymgyrchu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd White at gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Airbus a dywedodd y dylai addysg bobl ifanc hefyd gael ei gyllido’n iawn er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial cyflogadwyedd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd o gyfathrebu rheolaidd gydag ysgolion a Phenaethiaid er mwyn rhannu gwybodaeth a chynnig cefnogaeth ar y darlun sy’n newid yn gyflym. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ymwybodol o werthfawrogiad ysgolion o’r ddeialog gyfredol.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r penderfyniadau gwahanol i adlewyrchu’r pryderon a godwyd, yn ychwanegol at y pwynt  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar weithgareddau’r rhaglen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Claire Sinnott, Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) a gyflwynodd adroddiad ar yr ystod o weithgareddau a gynhaliwyd drwy’r Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau Ysgol.

 

Roedd y cynllun yn cynnwys darparu prydau iach, addysg bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol a sesiynau cyfoethogi i ddisgyblion mewn dwy ysgol yn Sir y Fflint am 12 diwrnod yn ystod gwyliau'r haf.  Cyflwynwyd y rhaglen mewn nifer o gynghorau yng Nghymru yn dilyn adborth o gynllun peilot, a chafodd ei gyllido’n rhannol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Rhannwyd gwybodaeth am y dull o ddarparu yn Sir y Fflint a gafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â chydweithwyr ar y gr?p llywio. Dyma’r tro cyntaf i'r cynllun gael ei weithredu yn Sir y Fflint ac adroddwyd deilliannau cadarnhaol o'r ddwy ysgol a gymerodd ran - Ysgol Treffynnon ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant. Roedd y gweithgareddau coginio yn arbennig o boblogaidd ymysg y disgyblion ac amlygwyd hyn fel sgil allweddol ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Anfonwyd holl ymatebion i’r ffurflenni gwerthuso a gwblhawyd gan ddisgyblion a rhieni yn Sir y Fflint i CLlLC ar gyfer eu dadansoddi, ynghyd â’r rhai o awdurdodau eraill.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Roberts y swyddog ar lwyddiant y rhaglen yr oedd yn dyst iddo ar ôl mynychu'r ddwy ysgol.

 

Cafodd y fenter ganmoliaeth gan David Hÿtch, a awgrymodd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu i ddiolch i’r busnesau lleol a gefnogodd y rhaglen. Mewn ymateb i’r sylwadau ar lefelau presenoldeb y cynllun yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant, eglurwyd bod gan ddisgyblion fynediad at fys mini trwy gydol y rhaglen. O ran marchnata, roedd cydnabyddiaeth bod presenoldeb cynyddol ar gyfryngau cymdeithasol yn bwysig, ynghyd ag ymgysylltu'n gynnar gyda rhieni a busnesau lleol.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Heesom, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu y byddai copi o adroddiad dadansoddi CLlLC ar y canfyddiadau cenedlaethol yn cael ei rannu gydag Aelodau. Disgwylid ei dderbyn erbyn diwedd mis Tachwedd, ynghyd â manylion meini prawf cymhwyso ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf.

 

Teimlai’r Cynghorydd White y byddai’n ddefnyddiol i’r dadansoddiad gynnwys adborth gan y ddwy ysgol am y ffordd yr oedd cyfranogwyr y rhaglen o Flwyddyn 6 wedi trosglwyddo i'w hysgol newydd, o’i gymharu â’r rhai nad oedd yn rhan o'r rhaglen.

 

Mynegodd y Prif Swyddog ei gwerthfawrogiad i Claire Sinnott am ei brwdfrydedd wrth gydlynu gweithgareddau’r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo gwaith y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol 2018 a'r cynnydd a wnaed;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen yn yr awdurdod yn 2019 a thu hwnt; a

 

 (c)      Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i ddiolch i fusnesau lleol a ddarparodd fwyd a chefnogaeth i’r rhaglen a’r staff a roddodd o’u hamser.

17.

BALANSAU CRONFEYDD WRTH GEFN YSGOLION Y FLWYDDYN SY'N DOD I BEN AR 31 MAWRTH 2018 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Rhoi adroddiad I’r aelodau ynghylch balansau diwedd blwyddyn                yr ysgolion fel yr oeddent ar 31 Mawrth 201/8

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Pobl ac Adnoddau) yr adroddiad blynyddol ar falensau cronfeydd wrth gefn ysgolion yn Sir y Fflint, fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2018. Roedd yr adroddiad hefyd wedi cael ei ystyried yn ddiweddar gan y Pwyllgor Archwilio.

 

Roedd lefel cyffredinol y cronfeydd wrth gefn wedi lleihau o 11% ers y llynedd ac roedd cynnydd o 47% yn niffyg net y cronfeydd wrth gefn gan ysgolion uwchradd wedi ei osod yn erbyn cynnydd o 15% mewn cronfeydd wrth gefn cynradd.  Er y croesawyd dyraniad hwyr o gyllid Llywodraeth Cymru, roedd hyn yn cuddio’r duedd sylfaenol ar y sefyllfa alldro. Roedd cyllidebau ysgolion uwchradd o dan bwysau sylweddol, ac roedd gan ysgolion gyda balansau cadarnhaol lefel isel o arian wrth gefn a gododd bryderon am gadernid ariannol. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu, yn cynnwys niferoedd o ddisgyblion, staffio ac ysgolion yn gorfod delio â chost y cynnydd chwyddiannol oherwydd mesurau caledi parhaus. Roedd balansau cronfeydd wrth gefn yn y sector cynradd yn ymddangos yn well, fodd bynnag byddai newidiadau i ddemograffeg yn arwain at ailddosbarthu cyllid rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. Byddai bwletin gan Lywodraeth Cymru yn adrodd ar y sefyllfa genedlaethol yn cael ei ddosbarthu. Roedd timoedd cyfrifeg y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynlluniau tair blynedd i gynorthwyo gyda rheoli'r gyllideb. Roedd arf meincnodi cenedlaethol a ddefnyddir gan ysgolion uwchradd yn cael ei ddatblygu ar gyfer y sector cynradd er mwyn cynorthwyo i nodi arbedion ar ffioedd.

 

Roedd y Cadeirydd yn ymwybodol bod rhai Aelodau’n dymuno gwneud ymholiadau am ysgolion penodol, ac er mwyn gwneud hynny bydd angen trafodaeth fwy cyfrinachol. Cynigodd y Cynghorydd Mackie y dylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985. Cafodd hyn ei eilio a’i gefnogi gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

18.

BALANSAU CRONFEYDD WRTH GEFN YSGOLION Y FLWYDDYN SY'N DOD I BEN AR 31 MAWRTH 2018

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at ddadansoddiad o falansau ysgolion a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad a chanmolodd yr ysgolion uwchradd hynny oedd wedi gallu lleihau lefelau diffyg ariannol er gwaethaf lleihad yn eu cyllidebau dirprwyedig. Aeth ymlaen i ategu pryderon am ddwy ysgol arall gyda chynnydd arwyddocaol o ran eu diffyg ariannol a chanmolodd ymdrechion Penaethiaid cynradd i reoli eu cyllidebau llai.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid bod sefyllfa rhai ysgolion wedi newid ers paratoi’r adroddiad. Rhannodd rhai o'r pryderon am ysgolion penodol a atgoffodd bod nifer o elfennau yn cyfrannu tuag at falansau cronfeydd wrth gefn a bod y cyllidebau dirprwyedig yn cael eu heffeithio’n fawr gan y lleihad mewn nifer y disgyblion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod nifer y disgyblion yn fater allweddol wedi ei effeithio gan ffactorau amrywiol a bod rheoli'r gyllideb yn hanfodol fel y cam gyntaf i ddelio â sefyllfa o ddiffyg ariannol.  Dywedodd y dylid cydnabod yr ysgolion uwchradd gyda balansau cadarnhaol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod pryderon Aelodau am y balansau cronfeydd wrth gefn yn y sector uwchradd yn cael ei rannu a rhoddodd sicrwydd bod prosesau cadarn yn eu lle i herio ysgolion mewn sefyllfa sy’n gwaethygu a darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n wynebu anawsterau penodol. Dywedodd nad oedd datrysiad hawdd gan fod rhaid i ysgolion weithredu er mwyn rheoli eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu’r cwricwlwm o fewn strwythur darbodus.

 

Yn ystod y drafodaeth, pwysleisiodd yr Aelodau eu pryderon am falansau ysgolion uwchradd a'r rhai ar y ffin o fod mewn safle o ddiffyg ariannol. Cyfeiriwyd at effaith adroddiadau Estyn, cyfraddau geni is a strwythurau rheoli ysgolion. O ran Estyn, ategodd y Prif Swyddog bwysigrwydd arolygiadau i sicrhau bod ysgolion yn perfformio i’w lefel optimwm.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r swyddogion am y wybodaeth fanwl a gofynnodd am y lefelau o ymyrraeth i gynorthwyo ysgolion i gynllunio o flaen llaw. Dywedodd y Prif Swyddog bod cronfa ymyrraeth gyfyngedig ar gael i gefnogi ysgolion gyda materion penodol er mwyn cynorthwyo eu cynllun adfer ôl-arolwg. Cyfeiriodd at rôl allweddol rheolwyr busnes ysgolion i gefnogi Penaethiaid. Cytunodd i ddilyn cais i adran Rheoli Risg mewn adroddiadau yn y dyfodol gynnwys matrics yn dangos symudiad niferoedd y disgyblion/staff a lefelau absenoldebau staff er mwyn rhoi cyd-destun ar yr effaith ar gyllidebau ysgol.

 

Yn dilyn y drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu cyfraniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2018.

19.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid              & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol i’w ystyried a dywedodd y byddai gwahoddiad i holl Aelodau fynychu gweithdy gyda GwE ar 15 Hydref 2018 ar newidiadau Llywodraeth Cymru i gyflwyno data deilliannau dysgwyr.  Dywedodd y Prif Swyddog y byddai GwE yn rhannu’r wybodaeth gyda chyrff llywodraethu trwy’r Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant.

 

Nodwyd y byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu ag aelodau’n fuan gyda dyddiadau ar gyfer gweithdai cyllido.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Mackie, bydd eitem ar y fenter ADTRAC sy’n ymwneud â mecanweithiau cyllido cymdeithasol Ewropeaidd i fodloni anghenion pobl ifanc yn cael ei drefnu ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

20.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.