Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

24.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw un yn datgan cysylltiad.

25.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 226 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar effeithlonrwydd cyllideb arfaethedig a phwysau costau Cymuned a Menter tra’n cwblhau’r gwaith ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a phenderfyniad ar gyllideb Llywodraeth Cymru (LlC).   Roedd LlC wedi cadarnhau yn ddiweddar y byddent yn cyhoeddi cyllideb drafft Cymru ar 16 Rhagfyr gyda’r Setliad Dros Dro yn cael ei gyhoeddi yr un diwrnod.    Rôl y Cyngor fyddai cwblhau’r broses setlo’r gyllideb yn ei gyfarfod yn Ionawr-Mawrth.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei fod yn gobeithio y byddai setliad dros dro buddiol yn dod gan Lywodraeth Cymru.   Roedd yn codi pryderon am unrhyw gynnydd yn y rhagdybiaeth gwaith ar Dreth y Cyngor a dywedodd ei fod yn credu fod llawer o Aelodau yn teimlo na ddylid ystyried unrhyw gynnydd uwch na 5%.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod 5% yn ffigwr gwaith yn unig gan Lywodraeth Cymru ac nad oedd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad ffurfiol ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21. 

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynigion effeithiolrwydd Cymuned a Menter ar gyfer 2020/21; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r pwysau cost Cymuned a Menter a argymhellwyd i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.

26.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048 pdf icon PDF 362 KB

Pwrpas:        I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglen Tai Gynllun Busnes Tai Gogledd Ddwyrain Cymru, oedd yn nodi elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o eiddo rhent fforddiadwy i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf i 207 o unedau.

 

            Roedd y prif elfennau a amlygwyd i’r Pwyllgor, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad, yn ymwneud ag:-

 

  • Unedau Rhodd;
  • Partneriaethau Strategol gyda Datblygwyr Lleol a Chymdeithasau Tai; a
  • Defnyddio tir sy’n eiddo i Gyngor Sir y Fflint  

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am ddiweddariad ar y rhaglen adeiladu tai ar hen safle Depo Canton.   Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglen Dai eu bod yn aros am yr adroddiad System Draenio Cynaliadwy (SuDS) er mwyn penderfynu faint o eiddo fyddai’r Cyngor yn gallu eu hadeiladu ar y safle.    Roedd y Cyngor wedi clustnodi 50 eiddo ar gyfer y safle i ddechrau a gobeithio y byddai gwaith yn dechrau ar y safle ar ddechrau’r flwyddyn nesaf. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yna gyfle i’r Cyngor fod yn berchen ar y fflatiau newydd a ddatblygwyd yn adeilad y Swan, Cei Connah.    Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglen Tai i edrych i mewn i hyn ar ôl y cyfarfod.  

 

            Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn canmol y ffordd yr oedd y gwasanaeth yn cael ei reoli.    Gofynnodd pam bod y Cynllun Busnes tan 2048 a pha un a oedd y cynnydd mewn ardrethi busnes gan y Bwrdd Benthyciadau Cyhoeddus wedi effeithio ar y Cynllun Busnes.  Hefyd gofynnodd am sicrwydd y byddai eiddo’r Cyngor yn parhau’n eiddo i’r Cyngor.    Eglurodd y Rheolwr Cyllid, Gwasanaethau Cymunedol fod y Cynllun Busnes ar waith tan 2048 o ganlyniad i ddull ad-dalu maith y cynllun. Ar y cynnydd mewn cyfraddau llog, roedd pob cynllun newydd yn cael ei brofi i sicrhau lled y gwall os digwydd i gyfraddau llog godi heb achosi unrhyw broblemau i’r cynlluniau.   Roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn sicrhau’r Pwyllgor y byddai holl eiddo’r Cyngor yn parhau yn eiddo i’r Cyngor.    

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies am ymweliad safle a drefnwyd yn ddiweddar i’r Pwyllgor i Garden City a llongyfarchodd Wates, y contractwyr am y gwaith a wnaed.        

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Shotton. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed drwy ddarparu’r Cynllun Busnes Cartrefi Newydd 2019/2048.

27.

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 293 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gyflwyno crynodeb o berfformiad ar gyfer sefyllfa diwedd y flwyddyn 2018/19 blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.    Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.  

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet Datblygu Economaidd yn rhoi diweddariad ar y nifer o unigolion a gefnogwyd drwy’r gwasanaeth mentora oedd yn dechrau gweithio, dysgu neu wirfoddoli, gan egluro er bod perfformiad presennol o dan y targed, roedd swyddogion yn hyderus ei bod yn bosibl cyflawni targed blwyddyn lawn.   Roedd y gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn codi pryderon am yr ansicrwydd am lefel cyllid a dderbyniwyd o un flwyddyn i’r llall.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin pam bod y dangosyddion perfformiad ar gyfer canran aelwydydd yn y chwarter lle roedd digartrefedd wedi’i atal a’r lefel boddhad tenant yn dangos yn oren ac nid gwyrdd.    Eglurodd y Prif Swyddog bod y targedau a osodwyd am y flwyddyn yn uwch na’r cyflawniad presennol ond byddent yn parhau i gael eu monitro i sicrhau y cyflawnir targedau. Dywedodd am yr heriau oedd yn ymwneud ag ymgysylltu â’r sector rhentu preifat oedd yn gyndyn i roi llety i bobl oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol ond dywedwyd  bod sioe deithiol gyda 40 landlord preifat wedi’i threfnu a chytunodd i roi adborth i’r Pwyllgor maes o law ar lwyddiant y sioe deithiol. 

 

Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn croesawu’r adroddiad.   Dywedodd am y nifer o fusnesau a gefnogwyd drwy’r ganolfan ranbarthol a mynegodd bryderon nad oedd y ganolfan ar waith ar hyn o bryd.    Hefyd dywedodd y dylai’r prosiectau oedd yn cael eu gweithredu gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar hyn o bryd gynnwys rhanbarth Sir y Fflint cyfan ac nid canolbwyntio ar Lannau Dyfrdwy yn unig.    Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) rôl 6 Swyddog Datblygu Economaidd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a dywedodd am eu dylanwad ar rôl y ganolfan ranbarthol drwy eu cysylltiadau gyda busnesau lleol.    Drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru byddai yna bedwar Cyd-bwyllgor yn cynnwys Addysg, Cludiant ar lefel ranbarthol, Cynllunio Strategol a Datblygu Economaidd a fyddai’n adeiladu ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.        

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

   

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

28.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.