Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

29.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

30.

Cofnodion pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) ar 6 a 22 Tachwedd 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 a 22 Tachwedd 2019.

 

 Cofnod rhif 22 (6 Tachwedd 2019): Benthyciadau Gwella Tai’r Sector Preifat - Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at ei sylwadau am yr adeilad wedi’i addasu yng Nghei Connah, gan ofyn i'r swyddogion ddiolch i Jeff Williams am roi’r cyfle iddo weld y rhandai y mae cynigion bellach wedi’u gwneud arnynt. Cynigiodd bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r ddwy set o gofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

31.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf, na wnaed unrhyw newidiadau iddi. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd mwyafrif y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Attridge ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed o ran cwblhau’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.

32.

papur briffio cysgwyr garw pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Amlinellu camau gweithredu â blaenoriaeth sy'n cael eu cymryd i daclo ac atal digartrefedd yn y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar y camau blaenoriaeth sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â digartrefedd a’i atal ledled Sir y Fflint, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol y Cyngor, oedd wedi’i seilio ar dair prif thema’r Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y thema ‘Pobl’ a’i flaenoriaeth, sef pobl sy’n cysgu allan.

 

Cydnabuwyd nad oedd cysgu allan yn rhywbeth oedd wedi’i gyfyngu i drefi a dinasoedd mawr mwyach, gan ei fod yn ymestyn i ardaloedd eraill fel cymunedau yn Sir y Fflint. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu at hyn, yn aml yn ymwneud â phroblemau cymhleth hirdymor, oedd yn gofyn am ymateb amlasiantaeth, gan gynnwys y tîm Cyffuriau ac Alcohol, a’r timau Tai a Lles. Ar ôl i’r darparwr gwasanaeth ddod â’r ddarpariaeth gwlâu mewn argyfwng i ben yn Sir y Fflint, canfuwyd cyfleuster arall dros dro yn Shotton ar gyfer y gwasanaeth lloches nos. Gyda’r broses recriwtio’n mynd rhagddi, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth newydd ar gael o fis Ionawr am gyfnod o 18 mis i ddwy flynedd, nes y gellir canfod llety parhaol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog am yr ystod o fentrau cadarnhaol a ddarparwyd drwy’r Cynllun Gweithredu Lleol, megis hyrwyddo’r ap Streetlink. Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr amrywiol resymau dros ddigartrefedd, gyda chanran fawr yn ganlyniad i rieni yn methu neu’n amharod rhoi llety i’r unigolyn. Roedd y tîm wedi ymgysylltu’n ddiweddar â phedwar unigolyn y canfuwyd eu bod yn cysgu allan, ond roedd yn sylweddoli bod mwy o bobl allan yno, gan gynnwys syrffwyr soffa. Roedd y broses recriwtio’n mynd rhagddi ar gyfer y gwasanaeth Tai yn Gyntaf, oedd yn fodel effeithiol ar gyfer ymgysylltu a darparu cymorth cofleidiol i bobl sy’n cysgu allan gyda nifer o anghenion cymhleth.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, croesawodd y Cadeirydd y peilot Tai yn Gyntaf gan ddweud y dylid canmol y Cyngor am ei ddull o fynd i'r afael â digartrefedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet am yr adroddiad a’r camau gweithredu roedd y Cyngor yn eu cymryd. Dywedodd ei fod yn siomedig bod partner strategol y Cyngor wedi rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth gwlâu mewn argyfwng ar fyr rybudd, ac y gallai cymdeithasau tai wneud mwy i fynd i’r afael â digartrefedd yn Sir y Fflint.  Mewn ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am ddatblygu’r dull amlasiantaeth yn fodel effeithiol i helpu cael pobl oddi ar y strydoedd. Roedd darparwr gwasanaeth y lloches nos yn awyddus i ddatblygu a hyfforddi gwirfoddolwyr, a bydd yn cydweithio ag amrywiol sefydliadau megis Help the Homeless.  Dywedodd y Rheolwr Digartrefedd a Chyngor y byddai sefydlu cysylltiadau â gwirfoddolwyr, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, yn darparu rhwydwaith o gymorth i helpu pobl mewn angen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at drafodaethau am ddatblygu Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, gan awgrymu cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder.  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Y Diweddaraf ar Dwristiaeth pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am Dwristiaeth ar draws y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad am y prif feysydd gwaith a gyflawnwyd gan y tîm Datblygu Busnes i helpu’r sector twristiaeth. Roedd y cyfraniad i economi Sir y Fflint yn 2018 wedi codi 6.5% ers y flwyddyn cynt, sef y cynnydd mwyaf a gofnodwyd yng Ngogledd Cymru.

 

Darperir cymorth i’r sector twristiaeth gan y tîm Datblygu Busnes, sy’n cynnwys Swyddog Twristiaeth dynodedig. Nododd yr adroddiad yr ymagwedd gydweithredol a gymerwyd ag awdurdodau eraill i hyrwyddo twristiaeth ledled Gogledd Cymru drwy amrywiol fentrau. Roedd y bartneriaeth Rheoli Cyrchfan yn cynnwys cynllun gweithredu cydgysylltiedig i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella profiad yr ymwelwyr.

 

Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd nifer o fannau diddordeb lleol gan y Cynghorydd Shotton, ac awgrymodd y Cynghorydd Cox archwilio cysylltiadau â digwyddiadau allanol, megis Eisteddfod Llangollen.

 

Holodd y Cynghorydd Dolphin am farchnata digwyddiadau lleol i annog ymwelwyr o du hwnt i Sir y Fflint.

 

 Wrth groesawu'r cyfraniad i’r economi, siaradodd y Cynghorydd Heesom am yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith cludiant lleol ar hyd yr A55 a'r angen hefyd i fynd i’r afael â’r derfynell olew a nwy yn Nhalacre a Dociau Mostyn.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod gan y tîm bresenoldeb gweithgar ar y cyfryngau cymdeithasol a’i fod yn cyfeirio pobl at ymgyrchoedd lleol, er enghraifft, Marchnad Nadolig ddiweddar yr Wyddgrug, a gynhyrchodd ddiddordeb sylweddol ar lein. Ar bwynt y Cynghorydd Heesom, dywedodd, er bod y tîm yn canolbwyntio ar fusnesau, bod gwaith y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am welliannau.

 

Ar y mater o seilwaith, dywedodd y Cynghorydd Butler bod cysylltedd trawsffiniol yn cael ei ddatblygu drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy. Wrth gydnabod y ddemograffeg yn Sir y Fflint, siaradodd am fanteision rhannu adnoddau ar draws y rhanbarth, a chanmolodd y mentrau oedd yn cael eu cynnal gydag adnoddau cyfyngedig.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Palmer, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yna hanes maith o hyrwyddo Treffynnon fel cyrchfan hanesyddol bwysig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hutchinson at effaith negyddol cyflwr y trenau a’r oedi yn y gwasanaethau yng ngorsaf Bidston. Rhoddodd y Cynghorydd Butler sicrwydd bod sylwadau wedi’u gwneud ar wella’r daith i ac o Lerpwl a fyddai o fudd i’r economi.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Shotton ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cox.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed gyda chefnogi’r sector twristiaeth yn Sir y Fflint.

34.

Rhaglenni Ynni Domestig pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi’r diweddaraf am y Rhaglenni Ynni Domestig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad oedd yn crynhoi’r dulliau a ddefnyddiwyd gan dîm Rhaglen Arbed Ynni Domestig y Cyngor i leihau tlodi tanwydd a gwella ansawdd bywyd trigolion Sir y Fflint. Roedd tlodi tanwydd yn cael ei gydnabod fel problem genedlaethol a lleol, fel y blaenoriaethwyd yng Nghynllun y Cyngor, ac yn fwy tebygol o effeithio unigolion oedd yn byw mewn eiddo llai effeithlon o ran ynni.

 

Roedd lleihau tlodi tanwydd yn her sylweddol oherwydd nifer yr eiddo h?n yng Nghymru, oedd yn ddrud i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae tîm y Rhaglen Arbed Ynni Domestig – sy’n cynnwys pum aelod staff – wedi llwyddo i osod 4,600 o fesurau arbed ynni mewn 4,000 o aelwydydd.

 

Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drosolwg o’r prif raglenni gwaith, gan gynnwys cyflwyno benthyciadau tai LlC tuag at systemau gwresogi newydd i aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd. Eglurodd bod y tîm yn gweithio ag unigolion o bob deiliadaeth eiddo i’w helpu i gael gafael ar gyllid, oedd yn fater cymhleth. Anogwyd yr aelodau i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau’r tîm.

 

Rhoddodd y Cadeirydd enghraifft lle bu i’r tîm helpu preswylydd oedd yn amharod i gael cymorth ar y cychwyn, a arweiniodd at ganlyniad cadarnhaol. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd enghreifftiau tebyg gan Aelodau eraill o drigolion oedd wedi elwa ar gymorth y tîm, a diolchwyd iddynt am eu gwasanaethau.

 

Wrth amlygu pwysigrwydd rhannu gwybodaeth am fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r adroddiad gael ei rannu â’r Cabinet, gydag adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen chwe mis.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at adroddiadau blaenorol a gafwyd ar y pwnc. Cytunodd y swyddog i ymateb ar wahân i’w chwestiwn penodol am fesurydd trydan rhagdaledig.

 

Mewn ymateb i ymholiadau, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y trefniadau cyllid ar gyfer y gwasanaeth, fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at fuddsoddiad y Cyngor mewn mesurau arbed ynni ar gyfer ei stoc dai ei hun a’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed o ran cyflwyno rhaglenni arbed ynni domestig i helpu aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd yn Sir y Fflint; a

 

(b)       Argymell yr adroddiad i'r Cabinet er mwyn pwysleisio'r camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd gan y Cyngor i leihau tlodi tanwydd a gwella ansawdd bywyd y trigolion.

35.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.