Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

17.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Fel tenant t? cyngor, datganodd y Cynghorydd Palmer gysylltiad personol i eitemau 5 a 6 ar yr agenda (Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 a Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru).

18.

Cofnodion pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Medi 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019.

 

Cynigodd y Cynghorydd Shotton i gymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

19.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fe dynnodd yr Hwylusydd sylw at gyfarfod arbennig ym mis Tachwedd i ystyried y Gyllideb ar gyfer 2020/21 a fyddai hefyd yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Cynllun Canol Blwyddyn y Cyngor a Diweddariad Bwrdd Cartrefi NEW a gafodd eu dwyn ymlaen o fis Rhagfyr.

 

Wrth Olrhain Camau Gweithredu, atgoffwyd Aelodau am yr ymweliad safle i’r prosiect adeiladu modwlar yn Garden City ar 15 Tachwedd.  Roedd cais y Cynghorydd Dolphin am wybodaeth ar y Llwybr Mynediad Sengl i Dai (SARTH) wedi’i weithredu a byddai unrhyw achosion pellach a fyddai’n codi yn derbyn sylw.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryderon yngl?n â’r cynnydd mewn pobl ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd, yn arbennig yn ardal Dyfrdwy, a’r canfyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Wrth gydnabod nad problem y Cyngor yn unig yw hyn a bod rhai unigolion yn dymuno peidio â derbyn unrhyw gymorth sydd ar gael, fe ddywedodd bod hyn yn achos pwysig a gofynnodd i’r adroddiad wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2020 i gael ei symud ymlaen i gyfarfod cynharach.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Palmer bod eitem yn y dyfodol ar y dewisiadau ar gael yn y ddeddfwriaeth i gefnogi’r rheiny sydd wedi gwrthod cymorth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hutchinson fod yr adroddiad ar ei gais ar ddyrannu llety amnodd yn cael ei ddwyn ymlaen.  Cynghorodd yr Hwylusydd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr eitem am orfodi tenantiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2020. Dywedodd er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ateb y gofynion gan Aelodau, roedd ystod o eitemau yn barod ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Oherwydd nifer yr eitemau wedi’u trefnu’n barod ar gyfer y cyfarfodydd nesaf cynigiodd y Cadeirydd fod yr eitemau ar ddigartrefedd a llety amnodd yn cael eu cadw'r un fath.

 

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â digartrefedd, gofynnodd y Cynghorydd Attridge am bapur cyfarwyddyd yn y cyfarfod arbennig ym mis Tachwedd.  Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Ron Davies.  Cytunodd y Prif Swyddog fod adroddiad gwybodaeth yn cael ei dderbyn ar y camau gweithredu i’w cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa cysgu allan.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y cynnydd a wneir wrth gwblhau’r camau gweithredu yn weddill yn cael ei nodi.

20.

Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno rhaglen gyfalaf ddrafft Y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2020/21 drafft i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid yn trafod y canlynol:

 

Ffocws ar Gynllun Busnes Cyfalaf 30 Mlynedd

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Cyflawni’r SATC

Cydymffurfio

Rhaglen Gyfalaf Drafft 2020/21

Rhaglen Adeiladu Tai'r Cyngor

Maes Gwern, Yr Wyddgrug

St Andrews, Garden City

Rhaglen Gyfalaf y CRT 2020/21

Rhaglen Gyfalaf y CRT 2020/21

Ar ôl 2020

Blaenoriaethau Cyfalaf CRT y Dyfodol

Datgarboneiddio

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod y ffigyrau rhagamcanol yn y Rhaglen Gyfalaf drafft yn seiliedig ar adnoddau posib sydd ar gael tra ein bod yn disgwyl am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar y polisi rhent newydd.   Ymysg y rhagdybiaethau gyda’r Rhaglen ar ôl SATC oedd y byddai’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r datgarboneiddio o stoc dai presennol a oedd yn flaenoriaeth yn y dyfodol gan LlC.

 

Ar SATC dywedodd y Prif Swyddog fod sgorio uchel cyson ar holiaduron boddhad tenantiaid yn gyflawniad allweddol i’r Cyngor.  Ar flaenoriaethau’r dyfodol, byddai angen rhoi ystyriaeth fanwl i’r dull o adnewyddu stoc bresennol i leihau’r nifer o lefydd gwag.   Byddai adroddiad ar hyn yn cael ei drefnu ar gyfer y dyfodol.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton ar lefydd parcio ar stadau tai fe ddywedodd y Prif Swyddog er bod rhywfaint o ddarpariaeth wedi’i drefnu o fewn yr elfen Gwaith Amgylcheddol o’r SATC, roedd achos ehangach yn sgil effaith anghenion parcio'r sector breifat a chynnydd yn nifer y ceir i bob cartref.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Ron Davies am yr adolygiad ar safleoedd garej fe ddywedodd y Prif Swyddog mai’r nod oedd adnewyddu'r rheiny a ystyrir yn ymarferol, fodd bynnag roedd yn amlwg bod llawer yn anaddas i geir modern ac yn aml iawn yn cael eu defnyddio i storio pethau.  Byddai safleoedd garej na fyddai’n cael eu defnyddio gan denantiaid yn cael eu dymchwel i wneud y mwyaf o ddarpariaeth parcio leol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Hughes o blaid darpariaeth parcio yn y byngalos yn ei ward a oedd wedi’u creu ar hen safleoedd garejys.

 

Dyma’r Cynghorydd Hutchinson yn llongyfarch swyddogion ar yr adroddiad a’r adborth positif gan denantiaid.  Roedd ei sylwadau am bwysigrwydd y ddarpariaeth parcio mewn llety amnodd yn cael ei gydnabod gan y Prif Swyddog a ddywedodd ei fod yn rhan o asesiad ehangach o barcio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Palmer at adnewyddu stoc dai presennol ac awgrymodd fod y tai oedd yn anodd ei gosod yn gallu cael eu rhannu yn llety un ystafell wely mawr eu hangen.  Dywedwyd wrtho mai dyma opsiwn ymysg nifer o ddewisiadau eraill sy’n cael eu harchwilio i gwrdd â’r galw am lety un ystafell wely fel canlyniad uniongyrchol o’r Dreth Ystafell Wely.

 

Croesawodd y Cynghorydd Attridge fuddsoddiad y Cyngor yn ei stoc dai a gofynnodd am yr ymrwymiad gyda pherchnogion tai preifat mewn eiddo yn cyffwrdd â’i gilydd i denantiaid y Cyngor er mwyn deall os oes angen gwneud gwelliannau ar  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

Item 5 - HRA Capital Programme presentation pdf icon PDF 528 KB

21.

Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) - Diweddariad o'r Adolygiad Darparu pdf icon PDF 250 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar gynnydd Safon Ansawdd Tai Cymru, y mae’r Cyngor yn ei ddarparu drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar gynnydd mewn darparu Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn y dyddiad cau yn Rhagfyr 2020.  Darparodd ragolwg o'r prif bwyntiau  yn cynnwys canlyniadau adolygiad Archwiliad Mewnol SATC a wnaed yn Rhagfyr 2018. Roedd asesiad SATC a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr holl awdurdodau yng Nghymru gyda stoc wedi cyflwyno datganiad cadarnhaol gyda Sir y Fflint yr unig gyngor yn derbyn dim argymhellion.  Roedd hyn yn rhoi sicrwydd fod y SATC yn cael ei ddarparu’n effeithiol ac yn fedrus.

 

Fel tenant y Cyngor dyma’r Cynghorydd Palmer yn canmol yr adroddiad ond siaradodd am ba mor addas oedd y rendro ar rai eiddo.  Sicrhaodd y Prif Swyddog fod buddsoddiad parhaus a gwaith cynnal a chadw i’r stoc dai wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am fwy o wybodaeth ar y cynlluniau i leihau’r nifer o ‘fethiannau derbyniol’ fel rhan o’r Cytundeb Crynhoi Mewnol.  Cafwyd eglurhad gan y Rheolwr Gwaith Cyfalaf ar y dull  o gael mynediad i eiddo i asesu diogelwch a chyflwr.  Roedd nifer o resymau i’r unigolion hynny wrthod contractwyr i gael mynediad i’w heiddo yn cynnwys rhai achosion gwirioneddol sydd angen delio gyda nhw’n sensitif.  Ar adnoddau fe siaradodd y Prif Swyddog am newid ffocws i fynd i’r afael â llefydd gwag er mwyn gwneud y mwyaf o incwm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lloyd fod rhai eiddo ddim angen eu gwella.  Dywedodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf bod y rheiny wedi’u nodi fel methiannau derbyniol ond dal angen cael eu hasesu gan y Cyngor fel y nodir yn yr amodau tenantiaeth.

 

Yn ystod y ddadl, roedd y Cadeirydd a nifer o Aelodau wedi llongyfarch y tîm am yr adroddiad cadarnhaol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Shotton i gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn parhau i gefnogi’r Rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf yn ei ddwy flynedd olaf o fuddsoddiad sylweddol a phan yn bosib, i flaenoriaethu unrhyw anghenion/cefnogaeth i alluogi’r Rhaglen i gwrdd â’r dyddiad cau yn Rhagfyr 2020 yn llwyddiannus.

22.

Benthyciadau Gwella Tai y Sector Breifat pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y rhaglen a’r nwyddau benthyciadau yn dilyn ail-lansio.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad ar y rhaglen Benthyciad Gwella Tai oedd yn darparu dull cost effeithiol o wella safon bywyd a lles cartrefi Sir y Fflint.   Darparodd ragolwg o’r meini prawf ar gyfer y tri math o fenthyciadau yn y rhaglen oedd wedi’u hariannu yn bennaf gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Byddai ail-lansio’r rhaglen yn cyd-fynd ag ailstrwythuro’r tîm. 

 

Meddai’r Cynghorydd Bithell fod yr ail-lansio yn helpu i annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn gallu cael effaith bositif ar y rhestr aros ar gyfer tai.

 

Wrth ymateb i’r sylwadau, fe gytunodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i ddilyn i fyny ar sylwadau’r Cynghorydd Shotton yngl?n ag adeilad wedi’i drosi yng Nghei Connah.  Cynghorodd y Cynghorydd Cox i gyfeirio ei bryderon am eiddo gwag hirdymor i’r tîm Iechyd yr Amgylchedd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Palmer i gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed mewn darparu benthyciadau gwella tai yn y sector breifat.

23.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.