Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

11.

Cofnodion pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Mehefin 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

12.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol, ynghyd â’r diweddaraf am y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol, oedd bellach wedi cael eu cwblhau. Rhoddodd wybod bod y sesiwn hyfforddiant hanner awr am ddiogelu wedi cael ei chynnal cyn y cyfarfod ac felly byddai’n cael ei thynnu o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.    

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer pe gellid darparu adroddiad am Hawliau Tenantiaid i Olyniaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn adolygu’r polisi cyfredol.

 

Cododd y Cynghorwyr Hutchinson a Dolphin bryderon am ddyraniadau eiddo a dyraniadau mewn llety gwarchod.   Dywedodd yr Hwylusydd bod y Cynghorwyr wedi cytuno mewn cyfarfod blaenorol y byddai adroddiad am Denantiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

13.

Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I ystyried y Polisi diwygiedig ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bolisi diwygiedig mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Aeth y Rheolwr Budd-Daliadau ymlaen i drafod sut roedden nhw’n gwneud y polisi yn gliriach, ac yn dilyn ymlaen o Adroddiad Archwilio bod y broses o ran addasiadau i gartrefi wedi cael ei wella'n arw. Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod y gwiriadau dichonoldeb bellach yn cael eu gwneud gyntaf ac nad oedd rhaid i eitemau fel lifft ar risiau angen mynd drwy’r broses Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bellach.

 

Soniodd y Cadeirydd am bryderon blaenorol a godwyd gan breswylwyr am faint o amser roedd hi’n gymryd i ddisgwyl i wahanol gontractwyr orffen gwahanol gamau o’r broses. Gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei ddatrys. Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod y cytundeb fframwaith cyfredol gyda’r Contractwyr i fod i gael ei adolygu yn fuan yn 2020.  Fel rhan o’r Polisi diwygiedig, byddai gan y preswylwyr swyddog cyswllt penodol yn y Cyngor a fyddai’n cysylltu’n rheolaidd gyda’r Contractwyr i wneud yn si?r bod prosiectau'n cael eu cwblhau o fewn y terfyn amser.

 

Soniodd y Cynghorydd Helen Brown am nifer y diwrnodau roedd hi’n gymryd i gwblhau addasiad i unigolyn anabl, a holodd a oedd y system ‘stopio’r cloc’, lle roedd yr amser a gymerir i gwblhau addasiad yn cael ei oedi petai materion tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn codi ac yn parhau i gael eu gweithredu. Atebodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod y system ‘stopio’r cloc’ yn parhau i gael ei weithredu, a oedd yn dod â mwy o aliniad i sut roedd awdurdodau eraill yn cofnodi gweithgarwch. Roedd hyn hefyd yn helpu preswylwyr oedd yn teimlo eu bod angen egwyl o’r gwaith sydd ynghlwm ag ymgymryd ag addasiad i’r anabl mewn amgylchiadau cymhleth.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Paul Shotton a Rosetta Dolphin yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed drwy gyflwyno polisi diwygiedig. Cododd y Cynghorydd Dolphin bwynt am y targedau perfformiad wrth gwblhau addasiadau i'r anabl a holodd pa bryd y credir y bydd perfformiad yn gwella. Dywedodd y Prif Swyddog bod y perfformiad yn gwella a byddai’n parhau i gael ei fonitro’n agos fel rhan o’r adroddiadau monitro perfformiad chwarterol i’r Pwyllgor. Dywedodd oherwydd natur cymhleth rhai o’r addasiadau i’r anabl, ac oherwydd bod nifer wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol oherwydd nawdd, bod llawer o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl wedi bod yn y system ers peth amser.  Roedd y rhain yn cael eu datrys, ond roedd eu perfformiad yn llesteirio perfformiad cyfredol bob un o’r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl oedd yn y system. Petaent yn cael eu gosod i un ochr, a bod terfynau amser ar gyfer y rheiny sy’n destun y polisi newydd yn cael eu mesur, yna byddai darlun mwy cadarnhaol o lawer o gyflawni gwaith ar amser i’w weld.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Polisi diwygiedig.

14.

Adeilad Unedol pdf icon PDF 197 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar y cysyniad a’r opsiynau a oedd ar gael o ran defnyddio cartrefi unedol i gynyddu cyflenwad o eiddo'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn am y defnydd o Ddulliau Adeiladu Modern yn Sir y Fflint. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai bod cyfuniad o alw gwirioneddol am dai a methiant y farchnad yn nhermau cost, nifer ac ansawdd, yn gorfodi diwydiannau i edrych ar Ddulliau Adeiladu Modern fel datrysiad. Cyflwynwyd argymhellion manwl yn dilyn Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru, sydd wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC). Mae LlC wedi paratoi adroddiad ymgynghori 'Ailddychmygu'r ffordd y caiff tai cymdeithasol eu hadeiladu yng Nghymru, Strategaeth Gweithgynhyrchu Oddi ar y Safle i Gymru', a chafodd y Strategaeth hon ei hanelu at ddarparwyr tai fforddiadwy a chymdeithasol yng Nghymru er mwyn annog sefydliadau i ailystyried adeiladu tai cymdeithasol newydd, ac ystyried cyfuno dulliau adeiladu traddodiadol gyda thechnolegau newydd a dulliau adeiladu tai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yr adroddiad a soniodd am yr ansawdd uchel a welwyd yn y rhandy yn y feddygfa flaenorol ym Mwcle, a oedd wedi cael ei gwblhau yn ddiweddar gan ddefnyddio dulliau gweithgynhyrchu oddi ar y safle. Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai bod y Pwyllgor yn mynd ar ymweliad safle i’r rhandy ym Mwcle er mwyn gweld y gwahanol ddulliau adeiladu. Awgrymodd hefyd bod y Pwyllgor yn ail-ymweld â’r safle yn Eglwys St Andrew, Garden City, gan bod y gwaith o ddatblygu'r rhandai bron â gorffen. Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrymiad am gynnal ymweliadau safle.

 

Cododd y Cynghorydd Paul Shotton bryderon am y diffyg o ran crefft ledled Cymru gan ddweud ei fod yn dangos yr angen i sicrhau cynnydd gyda phrentisiaethau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai bod nifer o fentrau ar gael fel rhan o’r Rhaglen Adfywio a Thai Strategol a'r gwaith ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith a Choleg Cambria i gynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant.   

 

Mewn perthynas â chwestiynau am Garchar Berwyn, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai bod trafodaeth wedi cychwyn yn ddiweddar o ran yr egwyddor o weithio gyda Charchar EM Berwyn a noddwr sector preifat i adeiladu adeiladau gyda ffrâm bren neu bodiau ar gyfer prosiectau cyfredol neu ar gyfer gwaith adnewyddu sy’n cael ei gynllunio. Gallai’r prosiect gefnogi tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan y dynion yng ngharchar Berwyn gan roi'r cyfle iddynt gael gwaith yn y dyfodol o’r herwydd. Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bod angen sicrhau bod y myfyrwyr yn cael yr un cyfleoedd a blaenoriaeth i gael mynediad at hyfforddiant.

 

Holodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd y prentisiaid yn cael y cyfle i weithio ar ddatblygiadau adeiladu er mwyn cael profiad ar y safle. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y prentisiaid yn cael y cyfle i weithio mewn eiddo gwag er mwyn gwella eu sgiliau. Dywedodd hefyd y dylai’r Cyngor fod yn falch o’i brentisiaid mewnol fel plymwyr, seiri coed, trydanwyr a phaentwyr.  

 

            Yn dilyn awgrymiad gan y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai i rannu adroddiad SHARP am Fantais Gymunedol  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 284 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi crynodeb o berfformiad am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn 2018/19 ar gyfer y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor sef ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau a’r Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai'r wybodaeth ddiweddaraf am y dangosyddion perfformiad a ganlyn a oedd yn dangos Statws Coch Melyn Gwyrdd – coch ar gyfer perfformiad cyfredol yn erbyn y targed.

 

·         Y nifer o dai Cyngor ychwanegol sy’n cael eu hadeiladu drwy raglen SHARP;

·         Y nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl; ac

·         y bydd lefelau dyled yn codi os na fydd tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor.

 

            Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Patrick Heesom i ofyn cwestiwn, a oedd yn mynychu’r cyfarfod fel arsylwr.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y dangosydd perfformiad i ddatrys yr amlder cynyddol o wersylloedd Sipsi a Theithwyr anawdurdodedig a gwella safle parhaol y Cyngor, a holodd a oedd modd cael y wybodaeth ddiweddaraf am y grant gan Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn.  Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai wybod bod cais am Grant Safleoedd Cyfalaf wedi cael ei gyflwyno i LlC i wella edrychiad safle glan yr afon, a bod y Cyngor wedi cael £250,000 o arian cyfalaf ar gyfer adnewyddu.  Gobeithwyd y gellid cwblhau’r gwaith cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

            Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau am y sbwriel ar safle glan yr afon, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r arian yn cynorthwyo gydag adnewyddu’r safle a hefyd rheoli’r safle yn y dyfodol.  Erbyn hyn, cyfrifoldeb y Cyngor fyddai hynny, yn hytrach na’r trefniant drwy asiantaeth oedd yn digwydd cynt ac yn y gorffennol.         

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

16.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

To receive feedback from the Participation Groups.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.