Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
Ystyried mater a atgyfeiriwyd at y Pwyllgor yn unol â'r Trefniadau Galw i Mewn PDF 77 KB Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 25 Medi yn ymwneud â Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) wedi cael ei alw i mewn. Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’i galw i mewn. Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o'r weithdrefn ar gyfer galw i mewn Benderfyniad y Cabinet fel y nodwyd yn y ddogfen gefnogi. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn ei gyfarfod ar 25 Medi 2018. Cafodd y penderfyniad (Cofnod Penderfyniad 3560) ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Haydn Bateman, Helen Brown, Patrick Heesom a Tony Sharps. Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, Cofnod o’r Penderfyniad a'r Hysbysiad Galw i Mewn, a nododd bedwar rheswm dros alw i mewn, wedi’u cynnwys gyda phapurau rhaglen y cyfarfod.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei fod, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro, wedi derbyn rhesymau 1 a 3, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Galw i Mewn, ond roedd wedi cynghori llofnodwyr y Cais Galw i Mewn fod rhesymau 2 a 4 yn geisiadau am wybodaeth yn hytrach na her i benderfyniad y Cabinet. Roedd adroddiad ar ôl-ddyledion rhent i fod i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd, 2018. |
|
Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) PDF 121 KB Adroddiad Prif Swyddog (Tai ac Asedau) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor Aelod a'r Cabinet dros Dai
Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:
· Copi o adroddiad y Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) · Copi o’r Cofnod o Benderfyniad · Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel y rhai a gychwynnodd y broses Galw i Mewn, gwahoddwyd y Cynghorwyr Haydn Bateman, Helen Brown, Patrick Heesom a Tony Sharps i annerch y Pwyllgor yn gyntaf.
Amlinellodd y Cynghorydd Helen Brown nifer o bryderon ynghylch gofynion yr ystafelloedd gwely fesul math o aelwyd, fel y manylir arnynt yn y Polisi SARTH. Teimlai fod yr adran hon o'r Polisi yn anghyson ac amlinellodd enghraifft lle gellid gosod gwraig feichiog mewn eiddo 1 ystafell wely, dim ond i'r person hwn gael ei symud yn dilyn geni’r plentyn, a fyddai yn ei dro yn dod â chost ddiangen i'r tenant a'r Cyngor. Soniodd am y nifer uchel o achosion lle byddai eiddo 2 ystafell wely yn cael ei gynnig i ymgeisydd ond mynegodd bryder nad oedd digon o eiddo 2 ystafell wely ar draws Sir y Fflint i gefnogi hyn. Roedd hi o'r farn y dylai'r Cabinet ailystyried y Polisi, yn enwedig yr adrannau sy'n ymwneud â maint ystafelloedd gwely a math o aelwydydd.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom, er ei fod yn cydnabod y pwysau a roddwyd ar y Cyngor oherwydd y cynnydd parhaus yn y galw am dai cymdeithasol, roedd angen i'r Cabinet ailystyried y system fandio fel y manylwyd o fewn Polisi SARTH. Soniodd am y pwysau cyllidebol y mae'r Cyngor yn dod ar ei draws trwy ddefnyddio llety dros dro / amgen oherwydd bod diffyg tai addas ar gael ledled Sir y Fflint, a dywedodd nad oedd y Polisi yn lliniaru'r pwysau hwn. Hefyd, mynegodd bryderon ynghylch y camau gweithredu brys a nodwyd fel rhan o archwiliad o'r SARTH, yr oedd yn teimlo a oedd yn dangos fod angen diwygio'r Polisi, ac ynghylch y Polisi Gosod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Haydn Bateman am y straen a roddwyd ar ymgeiswyr a oedd wedi'u cartrefu i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau a holodd sut roedd hyn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cytunodd y Cynghorydd Tony Sharps â'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Heesom ynghylch lleoliaeth a siaradodd i gefnogi atgyfeirio'r Polisi SARTH yn ôl i'r Cabinet i’w ailystyried gan ei fod o'r farn ei fod yn anodd ei ddeall a'i esbonio i ymgeiswyr.
Ymatebion gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Dai ei fod wedi bod yn Aelod o'r Cabinet ers Mai 2017. Dywedodd fod y Cynghorydd Brown wedi bod yn y rôl hon cyn hynny ac wedi cyflwyno'r Polisi SARTH, ac roedd wedi parhau i’w gefnogi.
Mewn ymateb i'r sylwadau a chwestiynau manwl a godwyd gan y rhai a gychwynnodd y broses galw i mewn, eglurodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid bod adolygiad o'r Polisi SARTH, a gynhaliwyd yn 2017, wedi nodi bod angen diweddaru'r Polisi i sicrhau cydymffurfio â Deddf Tai (Cymru ) 2014. Roedd y Polisi presennol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ymgeiswyr â chysylltiad lleol ag ardal ac roedd gwybodaeth am berfformiad a rheoli’r gofrestr yn cael ei fonitro. Canfu'r ystadegau diweddaraf yr amserau aros cyfartalog canlynol:-
· eiddo 1 ystafell wely - amser aros o 16½ mis; ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd dau aelod o'r cyhoedd ac un aelod o'r wasg yn bresennol. |