Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

67.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim.

68.

Cofnodion pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mawrth 2019.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

69.

Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Amlinellu ymdriniaeth y dyfodol o ran adfywio Canol Trefi yn y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad i ddisgrifio’r dull ar gyfer adfywio canol trefi’r sir.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad wedi’i lunio mewn ymateb i’r amodau economaidd heriol a wynebir gan ganol trefi; ymrwymiad yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 i ddatblygu ymateb; a phryderon ynghylch bywiogrwydd canol trefi Sir y Fflint a’r angen i’r Cyngor sefydlu dull rhagweithiol.

 

Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, mewn perthynas â’r dull ar gyfer adfywio canol trefi a chyfeiriodd ar yr heriau economaidd sy’n wynebu canol trefi ar draws y DU sy’n effeithio ar eu cynaliadwyedd.Darparodd amlinelliad o’r ymatebion arfaethedig i gynyddu defnydd amrywiol canol trefi ; i gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliaid lleol; ac i gefnogi busnesau addasu a chystadlu’n fwy effeithiol.Cyfeiriodd hefyd at ddarparu Gweledigaeth Dwf Gogledd Cymru sydd, trwy’r cam cychwynnol o brosiectau cyfalaf y Fargen Twf a rhaglenni ehangach o waith, yn golygu bod yna botensial i ddod â manteision sylweddol i ganol ein trefi.Eglurodd y byddai prosiectau penodol eraill fel seilwaith digidol yn helpu i wella cystadleurwydd busnesau a chysylltedd canol trefi.

 

Soniodd y Cadeirydd am gau banciau’r stryd fawr ac am y cynnig i godi tâl ar bobl am dynnu arian allan o beiriannau arian a fyddai, yn ei farn ef, yn cael effaith andwyol pellach ar yr angen i ymweld â chanol trefi.

 

Soniodd y Cyng. Rosetta Dolphin am effaith marchnadoedd stryd yn y sir a’u hyfywedd yn y dyfodol.

 

Siaradodd y Cyng. Paul Shotton am rôl Rheolwyr Canol Trefi a’u gwybodaeth a’u cysylltiadau lleol.Dywedodd fod yn rhaid i fudd-ddeiliaid, Cynghorau Tref a Chymuned a chymunedau gydweithio i ddatblygu cyfleoedd entrepreneuraidd.Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth am y rhaglen Ardal Gwella Busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r rhaglen yn canolbwyntio ar yr Wyddgrug ond dywedodd y byddai’n cael ei monitro i weld a fyddai modd cynnal y rhaglen mewn trefi eraill yn y sir.

 

Datganodd y Cyng. Dennis Hutchinson nifer o bryderon ynghylch adfywio canol tref Bwcle ac estynnodd wahoddiad i Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a’r Rheolwr Menter ac Adfywio ddod i gyfarfod o Gyngor Tref Bwcle i drafod y ffordd ymlaen.Derbyniodd y Cyng. Derek Butler y gwahoddiad a phwysleisiodd fod y Cyngor yn croesawu pob awgrym ar gyfer gwelliant economaidd.Dywedodd fod yr holl gyfleoedd a gyflwynwyd wedi’u harchwilio’n fanwl a bod sawl adwerthwr mawr wedi’u cysylltu â nhw ond, am resymau masnachol, roeddynt wedi penderfynu peidio ag agor siopau newydd yn yr ardal.Siaradodd y Cyng. Butler hefyd am yr adnoddau cyfyngedig a’r amodau sydd ynghlwm wrth grantiau untro a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ardaloedd o amddifadedd.

 

Dywedodd y Cyng. Patrick Heesom fod angen rhwydwaith ffordd a gwasanaethau cludiant cyhoeddus gwell i ganol trefi er mwyn cynyddu nifer y busnesau a’r ymwelwyr.Gofynnodd hefyd fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau ar adfywio canol trefi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull ar gyfer adfywio canol trefiSir y Fflint.

 

70.

Datblygu Cysylltedd Digidol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar ddatblygiad isadeiledd digidol yng Ngogledd Cymru a Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad ar ddatblygu seilwaith digidol yng ngogledd Cymru a Sir y Fflint.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith digidol sydd wedi’i wneud hyd yma gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac, yn benodol, datblygiad Strategaeth Cysylltedd Digidol y rhanbarth. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol sy’n cael ei ddatblygu i ddiogelu cyllid gan Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.

 

Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir a chyflwynodd yr ystyriaethau allweddol, a nodir yn yr adroddiad, o ran Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru a’r rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol.

 

Gofynnodd y Cyng. Ted Palmer a fyddai datblygiadau preswyl newydd Sir y Fflint yn manteisio ar y buddsoddiad yn y rhwydwaith ffibr.Eglurodd y Rheolwr Rhaglenni Tai fod modd i dai Cyngor newydd elwa ar well cysylltedd digidol.

 

Yn ystod y drafodaeth ymatebodd t Rheolwr Menter ac Adfywio i gwestiynau’r Cyng. Rosetta Dolphin yngl?n â mynediad i’r rhwydwaith a mapio safleoedd strategol allweddol ar gyfer gogledd Cymru ac eiddo preswyl ‘gwyn’ yng ngogledd Cymru fel y nodir ar dudalennau 29 a 36 yr adroddiad.

 

Siaradodd y Cyng. Patrick Heesom am yr angen i wella mynediad ar gyfer cymunedau.Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cyng. Heesom, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor yn darparu mynediad wyneb yn wyneb a thros y ffôn i wasanaethau yn ogystal â darpariaeth ar-lein.Cyfeiriodd at fanteision buddsoddi yn y rhwydwaith ffibr a dywedodd fod y cynnig Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol ar hyn o bryd yn fuddsoddiad gwerth £9 miliwn yn y rhanbarth.Byddai darparu band eang ffibr llawn yn golygu cysylltedd o ansawdd uchel sydd fel rheol ond ar gael mewn ardaloedd trefol mawr a byddai hefyd yn gwella mynediad mewn lleoliadau anghysbell a gwledig.Byddai’r gwell cysylltedd i eiddo’r Cyngor drwy’r rhaglen hon hefyd yn creu cyfleoedd i wella gwasanaethau drwy dechnoleg sy’n addas i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wneir i greu a gweithredu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer cysylltedd digidol yng ngogledd Cymru.

 

71.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried.Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys yr eitemau canlynol ar raglen y cyfarfod nesaf ar 26 Mehefin 2019:

 

·         Diweddariad ar Ddiwygio’r Gyfundrefn Les – Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

·         Adroddiad Monitro Chwarter 4/Diwedd y Flwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19

·         Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.

·         Diweddariad ar Incwm Rhent Tai

·         Cartrefi Unedol

 

Eglurodd yr Hwylusydd y byddai'n diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor yn 2019/2020 yn dilyn ystyried yr amserlen cyfarfodydd ddrafft yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ar 7 Mai. Dywedodd yr Hwylusydd y bydd adroddiad ar dracio camau gweithredu yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor yn dilyn y prosiect prawf a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.Cytunwyd hefyd y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar ddechrau cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor.

 

72.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

73.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048

Pwrpas:        I ystyried Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Sean Bibby, Aelod Cabinet Dros Dro Tai, yr adroddiad i ystyried Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2019/2048.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Cynllun Busnes yn nodi elfennau allweddol y Strategaeth Ddatblygu arfaethedig i gynyddu nifer yr eiddo rhent fforddiadwy yn ystod y tair blynedd nesaf.Soniodd am y prif ystyriaethau, a nodir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at Gynlluniau Busnes, Strategaeth Ddatblygu a Chynllun Perfformiad NEW Homes (gweler yr adroddiadau).

 

                        Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y Rheolwr Rhaglenni Tai i gwestiynau’r Cyng. Rosetta Dolphin yngl?n â’r ddarpariaeth yn y Strategaeth Ddatblygu arfaethedig i ddiwallu anghenion pobl h?n.Ymatebodd hefyd i sylwadau pellach gan y Cyng. Dolphin yngl?n â NEW Homes yn rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaeth rheoli gosodiadau ar gyfer landlordiaid preifat.

 

Soniodd y Cyng. Ted Palmer am y trafodaethau a gafodd gyda’r Aelod Cabinet blaenorol yngl?n â chodi rhandai meddiannaeth sengl ar safle hen Ysgol y Fron yn Nhreffynnon.Dywedodd y Rheolwr Rhaglenni Tai nad oedd yn ymwybodol o’r drafodaeth ond y byddai’n siarad gyda'r Cyng. Palmer ar ôl y cyfarfod.

 

            Yn ystod y drafodaeth ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol holodd y Cyng. Mike Reece ynghylch hen safle Depo Canton.Dywedodd y Prif Swyddog fod cynllun yn bosibl yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

Cafodd y swyddogion eu llongyfarch gan yr Aelodau am lwyddiannau NEW Homes hyd yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2019/48; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd mewn Benthyca Darbodus drwy’r Cyngor (hyd at £20 miliwn) i’w fenthyg i NEW Homes at ddibenion datblygu a phrynu cartrefi newydd, ar yr amod bod NEW Homes yn cwrdd â’r paramedrau benthyg cytunedig.

 

74.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 (Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 11.55 am)