Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

49.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Palmer gysylltiad personol ag Eitem rhif 4 ar y Rhaglen, ‘Cyfrif Refeniw Tai 2019-20’ gan ei fod yn denant Cyngor.

50.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Rhagfyr 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2018.

 

Cofnod rhif 37: Cymunedau am Waith – Gofynnodd y Cynghorydd Palmer i’w sylwadau gael eu cynnwys, am yr angen i gytuno ar gylch gorchwyl iawn cyn penodi Rheolwr Canol Tref/Swyddog Adfywio er mwyn sicrhau nad oeddent yn cael eu difrïo am beidio â gwneud y gwaith o fewn yr hinsawdd bresennol.

 

Cofnod rhif 38: Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol a Chynllun Gweithredu Lleol – Gofynnodd y Cynghorydd i’w sylwadau gael eu cynnwys, bod darpariaeth ar gael wedi i berthynas ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

51.

Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) 2019/20, Naratif a Chrynodeb Cynllun Busnes HRA, Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd HRA pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I ystyried Cynllun Busnes a Chyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, naratif a chrynodeb Cynllun Busnes HRA a Chynllun Busnes ariannol 30 blynedd HRA.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cyflawniadau HRA 2018/19

·         Rhaglen adeiladu tai y cyngor

·         Cynllun busnes 30 mlynedd

·         Cyllideb 2019/20

o   Incwm

o   Taliadau gwasanaeth 2019/20

o   Cynigion effeithlonrwydd HRA a’r defnydd o gyllid untro

o   Penderfyniadau buddsoddi HRA arfaethedig a phwysau o ran cost

·         Rhaglen gyfalaf y HRA 2019/20

·         Gweithgarwch HRA yn y dyfodol

 

Ymysg nifer o gyflawniadau allweddol oedd perfformiad y Cyngor ar brentisiaethau a safonau gwasanaethu nwy a gefnogwyd drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a Rhaglen Adfywio a Thai Strategol.  Bydd darparu’r olaf yn cael ei wella ymhellach os llwydda’r Cyngor i ddenu cyllid grant Llywodraeth Cymru tuag at gynllun rhandai fforddiadwy yn Garden City.

 

Eglurodd y Cyfrifydd y rhagdybiaethau allweddol ar gyfer 2019/20 yn cynnwys cynnydd arfaethedig o £1 yr wythnos ar gyfer rhenti garejys a £0.20 yr wythnos ar gyfer rhenti plotiau garejys.  Ni chynigwyd newidiadau ar gyfer taliadau gwasanaeth tra'r oedd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflawni.  Rhoddwyd eglurhad dros y newidiadau i gyllid HRA ers y flwyddyn flaenorol a phenderfyniadau buddsoddi HRA arfaethedig a phwysau costau sy’n arwain at gyfraniad rhagamcanol o £0.158 miliwn i’r cronfeydd wrth gefn.

 

Darparodd Rheolwr Tîm Rhaglen Gyfalaf wybodaeth ar y mathau o waith o fewn Rhaglen Gyfalaf HRA lle'r oedd canolbwynt ar Safon Ansawdd Tai Cymru yn newid er mwyn cynnwys gwaith amgylcheddol.

 

Canmolodd y Cadeirydd gyflawniadau’r HRA a groesawyd gan y tenantiaid.

 

Cafodd hyn ei adleisio gan y Cynghorydd Shotton a ofynnodd i Aelodau dderbyn diweddariad ar Safon Ansawdd Tai Cymru.  Cytunodd y Prif Swyddog y bydd y rhaglen ar sail ardal yn cael ei rannu, unwaith y caiff ei ddiweddaru.  Ar gais i Aelodau gyfarfod â swyddogion Tai, awgrymodd y Cynghorydd Attridge y dylid trefnu sesiwn galw heibio ar ôl i’r adolygiad ddod i ben.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Prif Swyddog fanylion ar yr adolygiad o’r garejys.  Cytunodd i ddosbarthu ymateb ar y nifer o Brentisiaethau a benodwyd i swyddi llawn amser ac ymchwilio i adroddiadau am fan y Cyngor sydd wedi’i barcio yng Ngharmel.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle, amlinellodd Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf y dosbarthiadau amrywiol ar gyfer ‘methiannau derbyniol’ yn Safon Ansawdd Tai Cymru, a dywedodd bod gwiriadau’n cael eu cyflawni i asesu cyflwr yr eiddo hynny.  Mae’r ymarfer o wiriadau cyn asesu yn helpu i ganfod unrhyw gyflyrau meddygol sydd gan y tenant, fel y gellid cydlynu gwaith yn y ffordd fwyaf priodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Reece, cadarnhawyd bod eiddo brics soled wedi'u cynnwys yn y rhaglen waith allanol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Davies y gwaith a gyflawnwyd yn Melrose Court.  Pan ofynnwyd am ganlyniad yr adolygiad garejys, gofynnodd y Cynghorydd Attridge i swyddogion rannu’r rhaglen waith gydag Aelodau.

 

O ran Safon Ansawdd Tai Cymru, gofynnodd y Cynghorydd Palmer sawl eiddo  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

Item 4 - HRA Presentation slides pdf icon PDF 421 KB

52.

Adolygiad o Llety Gwarchod pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        I ystyried canlyniad yr Adolygiad o Llety Gwarchod.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar yr adolygiad arfaethedig o lety gwarchod o fewn cyd-destun galw cynyddol am dai cymdeithasol ar draws Sir y Fflint; cynnydd yn nifer y bobl gydag anableddau corfforol; a’r egwyddor strategol yn y Strategaeth Dai ddrafft o wneud y mwyaf o'r stoc bresennol.

 

Crynhodd y Prif Swyddog y data amrywiol sy’n sail i’r adroddiad, yn cynnwys y rhesymau dros dai gwag, sefydlu cysylltiadau cludiant effeithiol ac archwilio technoleg newydd i gefnogi preswylwyr i fyw yn eu llety cyhyd ag sy’n ymarferol.  Gofynnwyd am safbwyntiau ar y cynnig i alinio meini prawf oedran y Cyngor gyda meini prawf partneriaid Cymdeithas Tai Un Llwybr Mynediad at Dai, h.y. dros 55 oed.

 

Er ei fod yn deall y rhesymau dros newid yr ystod oedran, mynegodd y Cynghorydd Palmer bryderon na ddylai hyn fod ar draul y rhai 50-55 oed. Awgrymodd y Prif Swyddog mai dull teg fyddai adolygu’r ymgeiswyr yn yr ystod oedran honno sydd ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai ar hyn o bryd, er mwyn osgoi eu rhoi dan anfantais, cyn cytuno ar dorbwynt.

 

Wrth nodi bod hyn yn benderfyniad anodd, siaradodd y Cynghorydd Shotton mewn cefnogaeth o’r newid arfaethedig.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge bod y broses Un Llwybr Mynediad at Dai wedi gwella llawer ers ei gyflwyno, a rhoddodd sicrwydd y bydd darpariaeth ar gyfer bobl h?n sydd fwyaf mewn angen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at y blociau o randai a ddatblygwyd gan Dai Wales & West a all fod yn addas ar gyfer unigolion dros 50 sy'n byw ar eu pennau eu hunain.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle, darparodd yr Uwch Swyddog Tai Gwarchod eglurhad ar ailgylchu offer symudedd lle nad oedd eiddo oedd wedi cael ei addasu yn gallu cael ei gydweddu gydag ymgeiswyr ar y gofrestr tai arbenigol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi addasu cymhwysedd holl grwpiau bychain a chynlluniau gwarchod i 55 oed gyda’r bwriad o ddod â hwy’n unol â Chymdeithasau Tai a phartneriaid Un Llwybr Mynediad at Dai yr Awdurdod Lleol, yn amodol ar adolygu ceisiadau cyfredol pobl rhwng 50 a 55 oed; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi cwmpas adolygiad swyddog fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad.

53.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwpras:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Raglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried ac fe gytunwyd ar y newidiadau canlynol:

 

·         Bod adroddiad tai arbenigol yn cael ei ddwyn ymlaen o fis Mawrth i’r cyfarfod arbennig ar 18 Chwefror.

·         Cynnwys diweddariad ar ôl-ddyledion rhent ym mis Chwefror, gyda diweddariad bob chwarter o hynny 'mlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

54.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.