Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

34.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai yna newid bychan i drefn y rhaglen i ddwyn  ymlaen eitem rhif 5 ar y rhaglen.

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

36.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 26 Medi a 12 Hydref 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Medi a 12 Hydref 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ddau set o gofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

37.

Diweddariad am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les - Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn manylu ar yr effaith o gyflwyno ‘gwasanaeth llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill, ynghyd â’r gwaith a wnaed gan y Tîm Ymateb i Ddiwygio Lles i gefnogi’r preswylwyr sydd wedi’u heffeithio yn Sir y Fflint.

 

Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr aelwydydd yr effeithir arnynt gan y Rheolwr Budd-Daliadau ym mis Mehefin 2018. Roedd gostyngiad o ran nifer yr aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan yr uchafswm budd-daliadau is, fodd bynnag, roedd hyn yn dal i fod yn golled sylweddol i'w hincwm cyfunol.  O’r 101 o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio, roedd 85 ohonynt yn derbyn cymorth drwy Daliadau Dewisol Tai i wneud newidiadau i reoli eu hincwm yn well.  Roedd y mwyafrif o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan y cymhorthdal ystafell sbâr yn denantiaid Awdurdod Lleol a oedd ag un ystafell wely wag.  Roedd Taliadau Dewisol Tai yn cael eu dyfarnu i denantiaid cymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn lliniaru effaith y cymhorthdal, fodd bynnag, roedd hyn yn datblygu’n ddatrysiad tymor hir oherwydd diffyg argaeledd eiddo llai.

 

Roedd ystod o gymorth yn cael ei geisio gan gwsmeriaid Credyd Cynhwysol Sir y Fflint a gwelwyd bod niferoedd wedi cynyddu o 337%.   Roedd Cefnogaeth â Chymorth Digidol drwy Ganolfannau Sir Y Fflint Yn Cysylltu wedi helpu preswylwyr i reoli eu hawliadau a chysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau.  Roedd y galw am Gefnogaeth Cyllidebu Personol wedi arwain at gynnydd mewn cymorthfeydd ar draws y Sir ac roedd yr un tîm hefyd yn darparu cymorth  cofleidiol i gyfeirio unigolion at gyngor ariannol arbenigol.  Fodd bynnag, treuliwyd llawer iawn o amser yn gwirio neu’n herio cyfrifiadau a arweiniodd at apwyntiadau pellach ac oedi gyda thaliadau.  Roedd y newidiadau arfaethedig o ran cyllid ar gyfer Cefnogaeth â Chymorth Digidol a Chefnogaeth Cyllidebu Personol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o fis Ebrill 2019 yn bryder enfawr a’r ansicrwydd o sut y byddai’r cymorth hwnnw yn parhau gyda Chyngor ar Bopeth.  Roedd y cymorth cynnar hwn yn hanfodol er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu, ac fe godwyd y risg i'r Cyngor a phreswylwyr ar lefel genedlaethol.  Roedd pryderon eraill a ddwysawyd er mwyn eu hystyried yn cynnwys dulliau gwahanol i gael gwared ar enwau ar gyd-denantiaethau a mynd i’r afael â cheisiadau Credyd Cynhwysol a oedd wedi’u hôl-ddyddio.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge am ei falchder yn llwyddiant y tîm yn y gwasanaeth a sicrhaodd bod sylwadau yn parhau i gael eu gwneud ar ansicrwydd trefniadau ariannu yn y dyfodol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Dolphin y tîm a dywedodd y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd sylw o’r pryderon a godwyd gan y Cyngor o ystyried ei ran yn y cynllun peilot.  Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau, gan fod cyllid Taliadau Dewisol Tai yn gallu cael ei newid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y bwriad oedd ei ddefnyddio fel datrysiad tymor byr i gefnogi preswylwyr a oedd wedi’u heffeithio gan ddiwygiadau lles (yn ogystal â rhai unigolion nad oedd wedi’u  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 187 KB

Pwrpas:        Darparu craffu gyda diweddariad gweithredol ar gasgliadau rhent, lefelau ôl-ddyledion presennol a'r strategaethau a fabwysiedir i liniaru risgiau ariannol i'r CRT wrth i Lywodraeth y DU wneud diwygiadau lles a chyflwyno Chredyd Cynhwysol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad diweddaru ar gasgliad incwm rhent a’r effaith ariannol ar ôl-ddyledion rhent o fewn y Cyfrif Refeniw Tai o ganlyniad i ddiwygiadau lles dan arweiniad Llywodraeth y DU, yn enwedig cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol o fis Ebrill 2017.

 

Rhoddodd y Rheolwr Refeniw gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Golwg ar gyd-destun ehangach y diwygiad lles

·         Archwilio’r data yn bellach

·         Edrych ar faterion llif arian

·         Nodi’r sefyllfa bresennol

·         Llunio’r ffordd ymlaen – rheoli’r risgiau

 

Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at nifer o benawdau allweddol cenedlaethol a oedd yn tynnu sylw at effaith Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent.  Roedd cymhariaeth o ffigyrau diwedd blwyddyn yn dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dechrau lleihau yn 2016/17 cyn cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ac wrth i’r arenillion rhent gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, roedd ôl-ddyledion rhent hefyd yn dueddol o gynyddu.  Er bod y sefyllfa hon yn cael ei rheoli, roedd casglu rhent yn parhau i fod yn her sylweddol.  Er mwyn dangos effaith Credyd Cynhwysol ar sefyllfa’r llif arian, rhoddwyd enghraifft o sut y gallai ôl-ddyledion rhent waethygu erbyn wythnos 8 ac ar y pwynt hwnnw gallai’r Cyngor wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau am daliadau a reolir. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys proses gymhleth ac roedd oedi’n debygol.

 

Roedd ystod o fesurau wedi’u mabwysiadu i gefnogi tenantiaid, yn benodol tenantiaid diamddiffyn, i reoli’r diwygiadau a mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent.  Roedd dull mwy cadarn ar waith i ymgysylltu â thenantiaid yn gynt er mwyn ceisio deall pam nad oeddent yn talu a’u hannog i reoli eu harian er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu.  Roedd adnoddau ychwanegol ar y Tîm Ymyrraeth Tai wedi helpu 362 o denantiaid i sicrhau bod eu hôl-ddyledion yn gyfredol.  Byddai buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data newydd, a ddefnyddir yn llwyddiannus ar hyn o bryd gan ddarparwyr tai eraill, o gymorth i ragweld achosion risg yn well. 

 

Sicrhaodd y Cynghorydd Attridge bawb o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r cymorth hwn i denantiaid sydd wir angen help, ond nid oedd y Cyngor am gynnig ‘llwybr cyflym’ i’r broses adennill i’r unigolion hynny a oedd mewn dyled ond yn gwrthod ymgysylltu.  Atgoffodd bawb fod lefelau casgliadau rhent o fudd i’r Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn ei dro o gymorth i adeiladu tai newydd.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Rheolwr Refeniw eglurhad o ran y tîm swyddogion a oedd yn ymdrin ag ôl-ddyledion rhent ac adennill rhai ôl-ddyledion drwy daliadau a reolir dros amser.  Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ddilynol ar nifer y tenantiaid newydd (yn ystod y 12-18 mis cyntaf o’u tenantiaethau) a oedd mewn dyled.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog bawb o’r gwiriadau a wnaed gan y Tîm Tai wrth ddyrannu eiddo a oedd o gymorth i ganfod tenantiaethau cynaliadwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Cymorth i Gwsmeriaid) fod gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar landlordiaid preifat.  Roedd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd gan ei thîm i ymgysylltu â thenantiaid yn ystod y camau  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

Item 4 - Presentation slides.pptx pdf icon PDF 777 KB

39.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol, cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r diweddariad ar Fwrdd NEW Homes tan fis Mawrth 2019 a gohirio’r diweddariad ar y Diwygiad Lles o fis Mawrth.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dolphin y dylid cynnal gweithdy yn syth cyn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn helpu Aelodau i ddeall agweddau o’r Pwyllgor.  Cytunodd y Cynghorydd Attridge y byddai hyn yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

40.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.