Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

41.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

42.

Cofnodion pdf icon PDF 57 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd) ar 30 Hydref a 7 Tachwedd 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Hydref a 7 Tachwedd 2018. Ar gofnodion 30 Hydref, nodwyd gwelliant yn y paragraff cyntaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hutchinson am i’w ymddiheuriadau gael eu cofnodi ar y ddau set o gofnodion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau, cymeradwywyd y ddau set o gofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

43.

SYLWADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Katie Clubb yn gadael y Cyngor i ymgymryd  â swydd newydd. Wrth ddymuno’n dda iddi, mynegodd Aelodau eu diolch i Katie am ei hymroddiad a'i gwaith caled yn ystod ei chyfnod yn Sir y Fflint.

44.

Cymunedau am Waith pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i Aelodau ar ddarpariaeth rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn Sir Y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar y gwasanaeth Menter ac Adfywio ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yngl?n â chyflawni rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn Sir y Fflint.

 

Mewn ymateb i gais cynharach, cylchredwyd nodyn briffio gan y Rheolwr Gwasanaeth – Menter ac Adfywio, a rhoddodd drosolwg o’r swyddogaethau a'r gweithgareddau cyfredol o fewn pob maes gwasanaeth yn dilyn ailstrwythuro diweddar. Dangosodd diagram o’r strwythur newydd fod y mwyafrif o’r timau yn cael eu hariannu'n allanol. Nodwyd nifer o ddeilliannau cadarnhaol fel y gefnogaeth a roddwyd gan y tîm Menter Gymdeithasol i fusnes cymdeithasol yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint yn ddiweddar yn ogystal â llwyddiant y tîm Economi Rhanbarthol yn sicrhau £9m o gyllid ar gyfer cysylltedd digidol. Byddai adroddiad ar waith gan y swyddogaeth Datblygu Rhaglen ar ddull i ddarparu gwerth cymdeithasol drwy weithgaredd caffael yn cael ei gynnwys yn y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym Mawrth.

 

Wrth groesawu’r wybodaeth cododd y Cynghorydd Dolphin bryderon am yr amser y mae’n ei gymryd i lenwi'r swydd wag i gefnogi adfywio canol y dref. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod adnoddau wedi lleihau dros amser yn ogystal â chefnogaeth cyllid allanol. Roedd anghenion canol trefi yn newid mewn ymateb i heriau economaidd yn genedlaethol, a byddai angen i swyddogion ystyried dull newydd o weithio mewn ffordd strategol i dargedu adnoddau’n effeithiol.  Byddai adroddiad llawn ar ganol trefi yn cael ei dderbyn ym Mawrth/Ebrill.

 

Rhannwyd y pryderon hyn gan y Cynghorydd Hutchinson a ddywedodd fod yr effaith yn amlwg yng nghanol yr holl drefi, a siopau llai oedd yn wynebu'r risg mwyaf.

 

Tra’n rhoi sicrwydd y byddai adnoddau cyfyngedig y Cyngor yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) mai'r prif her i'r strydoedd mawr oedd y newid sylweddol yn y farchnad fanwerthu ar draws y DU ac mai ychydig o ddylanwad oedd gan yr Awdurdod Lleol dros hynny.

 

Rhannwyd y farn hon gan y Cynghorydd Butler a dynnodd sylw at y ffaith fod y cynnig ymhob canol tref yn wahanol. Dywedodd fod gan bawb ddyletswydd i gefnogi eu siopau lleol a bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei bwerau i gynyddu nifer yr ymwelwyr fel annog landlordiaid i sicrhau fod llety gwag ar gael uwchben siopau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Palmer cyn penodi Rheolwr Canol Tref / Swyddog Adfywio y dylid cytuno ar y cylch gorchwyl cywir i sicrhau nad ydynt yn cael eu pardduo am beidio â gwneud y gwaith o fewn yr hinsawdd bresennol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at effaith siopa ar y we a gofynnodd am ryddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cyllid hwn yn cael ei roi yn awtomatig i fusnesau cymwys. Ar dwristiaeth dywedodd fod rhaglen waith ar y gweill i wella isadeiledd ymwelwyr yn yr ardaloedd arfordirol.

 

Roedd aelodau eraill yn cydnabod fod adfywio canol tref yn fater eang a oedd hefyd wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

Item 4 - Summary of services pdf icon PDF 125 KB

45.

Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a Chynllun Gweithredu Lleol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu manylion am y Strategaeth Digartrefedd a’r Cynllun Gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad strategaeth ranbarthol a oedd yn ofyniad statudol.  Siaradodd am fanteision partneriaeth ranbarthol oedd yn anelu at greu diwylliant o gydweithio gwell ac effeithiol i fynd i'r afael ag achosion creiddiol penodol digartrefedd.  Cyfeiriwyd at ymagwedd ragweithiol y Cyngor o ran ymdrin â digartrefedd ieuenctid gan gynnwys gwaith ataliol yn gynnar mewn partneriaeth ag Addysg.

 

Eglurodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid fod yr adolygiad cychwynnol wedi helpu i gadarnhau data presennol i fwydo i mewn i'r cynllun gweithredu lleol. Seiliwyd hyn ar y tair thema a gytunwyd ar gyfer y strategaeth ranbarthol - Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau - ond hefyd roedd yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Nodwyd crynodeb o’r blaenoriaethau o dan bob thema yn yr adroddiad, oedd yn ymwneud â gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor. Awgrymwyd fod y rhaglen ar gyfer y Flwyddyn Newydd yn cynnwys datgan yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu lleol.

 

Aeth y Cynghorydd Attridge ati i gydnabod cryfder yr ymagwedd ranbarthol a rhoddodd sicrwydd fod blaenoriaethau lleol hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun gweithredu.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Palmer bwysigrwydd sicrhau fod darpariaeth ar gael wedi i berthynas ddod i ben. Cytunodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid i siarad gydag ef y tu allan i'r cyfarfod yngl?n â mater yn ei ward. Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Hardcastle cytunodd i gylchredeg manylion yngl?n â’r nifer o unigolion digartref sydd ar hyn o bryd wedi eu lleoli mewn llety Gwely a Brecwast.

 

Siaradodd y Cynghorydd Butler am yr angen am ymyrraeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru i helpu i ddod â llety gwag uwchben siopau yng nghanol trefi yn ôl i ddefnydd.

 

Yn ystod trafodaeth, siaradodd Aelodau o blaid ymagwedd y Cyngor o ran mynd i’r afael â chysgu allan yn y Sir. Hefyd pwysleisiwyd effaith polisi’r Llywodraeth ar eiddo sy’n cael eu rhentu a thaliadau uniongyrchol.

 

Fel cynrychiolydd Sir y Fflint ar y strategaeth ranbarthol, dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai fod yr ymagwedd hefyd yn darparu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer rhannu arfer gorau a dysgu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Pwyllgor yn cefnogi Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru a chynllun gweithredu lefel uchel; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r camau gweithredu a flaenoriaethir ac a amlygir o fewn cynllun gweithredu lleol Digartrefedd Sir y Fflint, fel y nodir yn yr adroddiad.

46.

Cynllun y Cyngor 2018/19 - Monitro Canol blwyddyn pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar berfformiad yn erbyn Cynllun y Cyngor 2018/19 gan ganolbwyntio ar feysydd o dan berfformio o dan flaenoriaethau 'Cyngor Cefnogol’ a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at gynnydd cadarnhaol yn gyffredinol gyda 81% o’r gweithgareddau yn debygol o gyflawni'r canlyniadau oedd wedi eu cynllunio ar eu cyfer a 79% o'r dangosyddion perfformiad yn cwrdd neu'n mynd y tu hwnt i'w targedau yn ystod y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau. 

 

O dan flaenoriaeth y Cyngor Cefnogol, roedd yna ddangosydd perfformiad coch ar y nifer o ddiwrnodau i brosesu newid mewn amgylchiadau ar gyfer budd-daliadau tai. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y newidiadau mewn Credyd Cynhwysol yn her allweddol i’r tîm. Dywedodd fod rhai absenoldebau hir dymor gan weithwyr wedi eu datrys a bod Hyfforddeion Modern yn cael eu hannog i lenwi nifer o swyddi gwag dros dro. Ar y dangosydd coch am y cyfanswm o incwm ychwanegol oedd wedi’i dalu i breswylwyr Sir y Fflint o ganlyniad i waith a wnaed gan y Cyngor, eglurodd y byddai ffigyrau hwyr a ddarparwyd gan bartneriaid allanol yn gwella’r canlyniad terfynol ar gyfer yr adroddiad nesaf.

 

Yr unig brif faes risg oedd y potensial am lefelau dyled cynyddol pe na allai tenantiaid fforddio talu eu rhent neu eu Treth Cyngor, derbyniwyd adroddiad manwl ar hynny yn y cyfarfod diwethaf.

 

Mynegodd aelodau eu siom tuag at ymateb yr Adran Waith a Phensiynau i bryderon yngl?n â newidiadau arfaethedig i drefniadau cyllid grant.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Reece ar nodi tir addas ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol, dywedodd y Cynghorydd Attridge y byddai gwaith ar gyn safle depo Canton yn mynd yn ei flaen yn y Flwyddyn Newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

47.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol, cytunodd y Pwyllgor y byddai’r canlynol yn cael eu trefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd:

 

·         Adroddiad ar amodau benthyca cyfredol a chyfraddau llog, yn dilyn cais yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Sir.

·         Adroddiad ar ganol trefi.

·         Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Lleol Digartrefedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

48.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.