Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

20.

Penodi Cadeirydd

Yn dilyn marwolaeth y Cyng. Ron Hampson, mae’n rhaid penodi cadeirydd newydd.  Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.     Gan y penodwyd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Ian Dunbar fel Cadeirydd y Pwyllgor.

21.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

22.

Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:  Darparu'rrhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 yn ogystal â’r pwysau ariannol a’r opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.

 

            Diwygiwyd y rhagolwg ariannol a oedd wedi’i nodi yn adran 1.04 yr adroddiad, i ystyried y penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, a’i ddiweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau gan bortffolios gwasanaeth.  Defnyddiwyd setliad yr un fath neu debyg i waelodlin ariannol 2017/18 fel sail ar gyfer cyfrifo'r rhagolwg ar gyfer 2018/19 ac nid oedd unrhyw fodel ar gyfer codi lefelau Treth y Cyngor wedi’i gynnwys yn ystod y cam hwn.

 

            Daeth y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol i’r casgliad bod cam un y cynigion ar gyfer y  portffolio gwasanaeth yn cael eu cyflwyno drwy gydol mis Hydref i'w hadolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Roedd y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref, 2017. Roedd y setliad terfynol i’w gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn galendr, yn dilyn datganiad cyllideb Canghellor y Trysorlys ar 22 Tachwedd 2017. 

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i gyflwyno'r Datganiad Gwytnwch a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Cymuned a Menter. 

 

            Rhoddodd Rheolwr Cyllid y Gwasanaethau Cymunedol fanylion am yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2018-19, sef cyfanswm o £0.837m a £0.893m, fel y manylir yn y Model Gweithredu yn y Dyfodol, a ddangosir yn Atodiad 2. Roedd yr arbedion arfaethedig yn cynnwys trefniadau newydd ar gyfer taliadau ffôn i gysylltu â’r Gwasanaeth Cysylltiadau, addasiad i ddarpariaeth dyledion gwael, effeithlonrwydd y gweithlu ac arbedion y Cynllun CTRS.             

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at Hawliau Lles a’r aelodau o staff Sir y Fflint sy’n gweithio gyda Chyngor ar Bopeth, gan helpu i gefnogi hawlwyr gyda Chredyd Cynhwysol a gafodd oblygiadau mawr.  Gofynnodd a ddylai llywodraethwyr ysgol dynnu mwy o sylw at argaeledd prydau ysgol am ddim.  Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai y dylid lobio unrhyw un a allai ddylanwadu’n genedlaethol neu’n lleol, am nad oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd a allai gael mynediad ato.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at brydau ysgol am ddim, gan awgrymu y byddai mwy o sgyrsiau gyda rhieni yn fuddiol er mwyn annog y defnydd ohonynt.

           

Croesawodd y Cynghorydd Dolphin y cynnig o ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, er mwyn lleihau nifer y teuluoedd sy’n gorfod aros mewn llety gwely a brecwast.  Rhoddodd sylw hefyd ar y Tîm Hawliau Lles a chafodd sioc mai dim ond 2 aelod o staff oedd yn y tîm, gan ofyn a oedd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir.

 

            Mewn ymateb, rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai sylw am hawlwyr credyd cynhwysol  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Domestig pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:   I roi’r newyddion diweddaraf am gyflawni rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r canlynol:-

 

·         Y Rhaglenni Effeithlonrwydd Ynni Domestig a ddarparwyd yn Sir y Fflint dros y blynyddoedd diwethaf i gartrefi yn stoc y Cyngor a'r sector preifat;

·         Y cyfanswm o 4325 o gartrefi a gafodd gefnogaeth yn y pum mlynedd diwethaf; ac

·         Amlinelliad o’r mesurau a fyddai’n arbed arian i gartrefi yn y dyfodol ac a fyddai hefyd yn arbed dros 123,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid.

 

            Roedd y cyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn gyfyngedig ar gyfer rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig i gartrefi'r sector preifat, ac roedd dyfodol cyllid ynni yn aneglur.

 

            Roedd y prif raglenni gwaith a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:-

 

·         Paneli ffotofoltaidd solar

·         Inswleiddio waliau allanol

·         Cynlluniau Mewnlenwi Nwy

·         Prosiect peilot oddi ar nwy

·         Cronfa mewn Argyfwng Cynhesrwydd Fforddiadwy a chynllun Cartrefi Iach Pobl Iach, a

·         Chyngor ar Ynni ac Ymgysylltiad â'r Gymuned drwy Ganolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru

 

            Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton y mentrau inswleiddio atig a phaneli solar, a fyddai’n darparu arbedion ar gyfer preswylwyr, a gofynnodd a oedd unrhyw beth newydd ar arbed ynni yn cael ei ystyried ar gyfer y dyfodol.    Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod tariffau effeithlonrwydd a thariffau cymdeithasol yn cael sylw ar hyn o bryd.

            Cytunodd y Cynghorydd George Hardcastle gyda sylwadau’r Cynghorydd Shotton hefyd, a gofynnodd os mai dim ond ar gyfer byngalos oedd y rhaglen solar.   Gofynnodd hefyd faint fyddai cost gosod y rhain, a beth fyddai’n digwydd pe na bai’r preswylydd am gael eu gosod.

 

            Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio nad dim ond ar gyfer Byngalos oedd y paneli hyn, ond bod y rhaglen wedi'i dylunio i ddarparu'r budd mwyaf i breswylwyr.   Cost gosod y paneli yw rhwng £3,500 a £4,000 am set lawn o baneli.  Pe bai preswylydd yn gwrthod cal paneli solar, yna ni fyddai paneli solar yn cael eu gosod.  Ond yn y dyfodol, pe bai preswylydd newydd yn yr eiddo am gael paneli solar, byddai'n cael ei ychwanegu at y rhaglen bosibl ar gyfer y flwyddyn honno ac, os yn bosibl, byddent yn cael eu gosod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarperir yn Sir y Fflint.

24.

Diweddariad Cymunedau yn Gyntaf pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:   I roi’r newyddion diweddaraf am Raglen Cymunedau yn Gyntaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad, gan ddarparu gwybodaeth gefndir i'r Pwyllgor ar sefydliad y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn 2001 i fynd i'r afael â thlodi.  Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) fod y rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Ni fyddai rhaglen gyflogi Cymunedau dros Waith yn cael ei effeithio a byddai’n parhau tan fis Mawrth 2020.

 

            Byddai LlC yn gweithredu dwy raglen newydd o 1 Ebrill 2018 ymlaen:-

·         Y Gronfa Etifeddiaeth, a fydd yn cynnig cyllid ar raddfa fach i Gyrff Cyflenwi Lleol, er mwyn galluogi iddyn nhw barhau i ddarparu gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf effeithiol, am ddwy flynedd arall.

 

·         Byddai’r ail raglen, y rhaglen Cyflogadwyedd, yn rhoi'r seilwaith rheoli i Gyrff Cyflenwi Lleol ar gyfer y rhaglen Cymunedau dros Waith

 

            Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio mai rôl y swyddfeydd yn y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug a Glannau Dyfrdwy oedd dod o hyd i waith i bobl, ac y bu cyflawniad a ffocws sylweddol yn Sir y Fflint, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant.     Rhaglen Fentora LIFT, a oedd yn rhan o Cymunedau'n Gyntaf ac a ariannwyd tan 31 Mawrth 2018. Byddai’r Gronfa Etifeddiaeth yn rhoi rhai opsiynau. 

 

            Amlinellodd y cynigion yn y ffrwd waith cyflogadwyedd yn rhaglen Cynnig Gogledd Cymru, a ddyluniwyd i ddod i hyd i waith i fwy o bobl mewn tlodi:-

 

·         Codi Cyflogaeth Gogledd Cymru

·         Y Banc Sgiliau

·         Rhaglen Gyrfaoedd a Chanllawiau Uwch

·         Rhaglen Bwrsarïau yn y Gweithle, a 

·         Prentisiaethau a lleoliadau gwaith

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd, at yr adroddiad ac yn benodol at bob un o'r mentrau a ddarparwyd a'r ystod o gynlluniau recriwtio a oedd wedi galluogi i bobl gael swydd.  Teimlai bod yr adroddiad ar y cyfan yn tynnu sylw at y berthynas waith dda sydd gan y Cyngor gyda busnesau lleol.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

25.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:   Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried.  Cytunwyd y byddai eitem SARTH yn cael ei symud i'r cyfarfod yn y gwanwyn, ynghyd ag adroddiad diweddaru ar Safon Ansawdd Tai Cymru a Chartrefi Newydd. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at y cyflymder y bu i swyddog tai ddelio ag ymateb brys gan Carelink, a gofynnodd i'w ddiolch gael ei basio i'r swyddog am ei waith caled. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton i adroddiad ar fesuryddion deallus gael ei gynnwys yn y Rhaglen Waith i'r Dyfodol i'w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.